EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Cyfres Clasuron Honno: Pererinion a Storïau Hen Ferch |
| Awdur: Jane Ann Jones Gweld rhagor o deitlau gan 'Jane Ann Jones'
|
| ISBN: 9781870206990 (1870206991) |
Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2008
Cyhoeddwr: Honno, Aberystwyth |
| Golygwyd gan Cathryn A. Charnell-White |
| Fformat: Clawr Meddal, 186x123 mm, 110 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£7.99
|
|
Nofel hunangofiannol anghyhoeddedig yw Pererinion; ynddi mae'r prif gymeriad yn galaru am ei pherthynas â dyn priod ac am eu plentyn marw. Mae themâu Storïau Hen Ferch a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1937, yr un mor herfeiddiol - merched godinebus, merched dibriod, merched creadigol a merched a orthrymir gan dad neu ŵr. Rhagymadrodd gan Nan Griffiths.
Pererinion is an unpublished autobiographical novel, with its main character dealing with a broken heart following a relationship with a married man, and grief for their dead child. The themes in Storïau Hen Ferch, first published in 1937, deal with adulterous women, single women, creative women and women oppressed by their fathers or husbands.
|
|
Pan gyhoeddwyd Storïau Hen Ferch am y tro cyntaf ym 1937, cymysg ar y gorau oedd yr ymateb. ‘Dyma lyfr cwbl annheilwng o safon cynnyrch y Wasg Gymraeg, yn fy marn i,’ ysgyrnygodd un adolygydd yn Y Ddolen, a barn D. J. Williams am y straeon byr oedd bod arnynt ‘flas gwin siop cemist mewn cwrdd cymundeb’. Wyddai neb pwy oedd Jane Ann Jones, ac er iddi gyhoeddi nifer o gyfrolau, ac ennill nifer o wobrau llenyddol, doeddwn innau erioed wedi clywed amdani cyn darllen y gyfrol hon. Ynddi ceir y straeon a fu mor anodd i adolygwyr y cyfnod eu darllen, ynghyd â ‘nofela’ hunangofiannol a ysgrifennwyd ganddi yn olrhain hanes ei charwriaeth dros ddegawdau â Chymro cyhoeddus adnabyddus yn y cyfnod.
O ran y gweithiau llenyddol eu hunain, fe’u mwynheais yn fawr. Mae’r straeon yn ddarlun deifiol a chrafog o sefyllfa’r fenyw yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf yng Nghymru. Mae pob un yn fyr a chynnil prin yw’r rhai sy’n hirach na phum tudalen o’r gyfrol fach hon, a’r rhan fwyaf yn fyrrach o lawer ond mae’r awdur yn llwyddo i greu darlun byw ym mhob un. Fy ffefryn i yw ‘Helaeth Fynediad’, sydd, mewn prin ddwy dudalen a hanner, yn cyfuno dyhead am fywyd gwell ag ymwybyddiaeth nad oes dim yn mynd i newid. Ynddi, mae Janet yn prysuro adre o’r seiat i wneud swper a chael trefn ar gyfrifon y siop cyn i’w thad ddod adre. Yna, yn sydyn, ar ôl swper, caiff ei thad drawiad angheuol. Pan wyla Janet yn yr angladd, ‘o’r diwedd bodlonwyd y gwragedd a oedd yn edrych arni drwy gil eu llygaid. Nid gweddus oedd i ferch gladdu ei thad heb wylo.’ Yr hyn na wyddant hwy yw mai wylo drosti ei hun mae Janet, gyda’r sylweddoliad ei bod yn rhy hwyr iddi ddilyn ei breuddwyd, sef dechrau ei bywyd ei hun. Yn y stori fer fer hon, mae’r awdur yn llwyddo i greu cymeriad llawn cymhlethdodau na allwn ni ond cydymdeimlo â hi.
Wn i ddim yn iawn beth yw’r diffiniad o nofela (efallai y byddai hynny wedi bod yn ddiddorol i’w gynnwys yn yr ymdriniaeth o’r gwaith), ond mae Pererinion yn ddarlun ingol o garwriaeth sy’n gorfod aros yn gyfrinachol.
Felly do, fe gefais flas ar y gweithiau hyn gan awdur oedd yn newydd i mi, ond cefais hyd yn oed fwy o flas ar y ddau ragymadrodd i’r gyfrol. Rhagymadrodd bywgraffyddol gan Nan Griffiths yw’r cyntaf. Mae stori Louie Myfanwy Davies, a ysgrifennai dan y ffugenw Jane Ann Jones, yn ddifyr tu hwnt, a’i bywyd yn darllen fel ffilm, ac rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un a hoffai wybod pwy oedd ‘G’, a fu’n gariad cyfrinachol iddi am ddegawdau, ac a daflodd llawysgrif wreiddiol Pererinion i’r tân ar ôl ei darllen. Yna mae’r ail yn rhagymadrodd llenyddol gan olygydd y gyfrol, Cathryn A. Charnell-White, sy’n gosod gwaith Jane Ann Jones yn ei gyd-destun llenyddol o ran ysgrifennu yng Nghymru ac ysgrifennu gan ferched yn arbennig.
Llongyfarchiadau i Cathryn ar olygiad rhagorol, ac i Wasg Honno am dynnu sylw unwaith eto at waith anghofiedig yn y gyfres Clasuron Honno.
Catrin Beard
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Magwyd Louie Myfanwy Davies (Jane Ann Jones; 1908–68) yn Rhuddlan a'i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl. Trigai yn Rhuthun a gweithiai fel clerc yn Adran Addysg Sir Ddinbych cyn ei phenodi yn ysgrifenyddes bersonol i'r Cyfarwyddwr Addysg. Lluniodd straeon byrion ynghyd â dwy nofel i oedolion, Y Bryniau Pell (1949) a Diwrnod yw ein Bywyd (1954). Cyhoedddodd ddwy nofel i blant hefyd, sef Plant y Foty (1955) ac Ann a Defi John (1958). Dethlir canmlwyddiant ei geni trwy gyhoeddi Pererinion a Storïau Hen Ferch ochr yn ochr â'i gilydd. Yn ystod ei hoes ac wedi ei dyddiau hefyd, bu straeon byrion a nofelau Jane Ann Jones dan gysgod 'brenhines ein llên', Kate Roberts.
Bu Nan Griffiths yn Swyddog Llenyddiaeth Gymraeg gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Llenyddiaeth Plant yw ei phwnc arbenigol.
Mae Cathryn Charnell-White yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru. Mae hi'n arbenigo ar lenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif a barddoniaeth menywod. Hi yw golygydd Beirdd Ceridwen - Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). Gwybodaeth Bellach: 'Darganfyddiad' go iawn yw Pererinion!
Nofela hunangofiannol yw Pererinion sy’n cylchdroi o amgylch tri phererin dienw – y Ferch, y Dyn, a’r Wraig – a’r berthynas odinebus rhwng y Ferch a’r Dyn. Mae eu pererindod yn mynd â nhw i ardal y Gororau, Ystrad Fflur, a Thyddewi. ‘Darganfyddiad’ go iawn yw Pererinion, oherwydd anfonodd Jane Ann Jones yr unig gopi o’r nofela at ei chariad (‘y Dyn’) a thaflodd yntau’r gwaith i’r tân. Ond yr oedd cael dweud ei dweud mor bwysig i Jane Ann Jones fel yr aeth ati i ail-lunio’r cyfan o’i chof, gan gwblhau’r gwaith fis Mehefin 1944. Anfonodd gopi carbon o’r nofela at R. Bryn Williams, ond ni ddaeth i’r golwg eto tan 2003 pan ddarganfuwyd ymhlith papurau a llythyrau a gymynroddodd R. Bryn Williams i’w ferch, Nan Griffiths, sef awdur rhagymadrodd bywgraffyddol y gyfrol hon.
Menywod sy’n herio confensiwn, fel hi ei hun, yw llawer o gymeriadau Storïau Hen Ferch - menywod godinebus, menywod dibriod, menywod creadigol a menywod a orthrymir gan dad neu ŵr. Lleolir ei straeon yng ngogledd Cymru yn gyffredinol, ond ei chymdogion yn Rhuthun a ysbrydolodd llawer o’i chymeriadau.
Cyhoeddwyd Storïau Hen Ferch ym 1937 a lluniwyd Pererinion tua'r un adeg. Bydd y gweithiau yn apelio at y sawl sy'n ymddiddori yn y meysydd canlynol: datblygiad rhyddiaith Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, ysgrifennu menywod yng Nghymru, astudiaethau rhywedd (S. gender studies). Bydd y nofela a'r straeon byrion hyn yn apelio at ddarllenwyr lleyg ac academaidd fel ei gilydd.
Cyhoeddir Pererinion am y tro cyntaf erioed ym mlwyddyn canmlwyddiant geni Jane Ann Jones ym 1908.
Anrheg Nadolig perffaith.
Ail-lansir cyfres Clasuron Honno gyda'r gyfrol hon.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|