Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Y Gaer Fechan Olaf - 1937-1950Alan Llwyd Gweld rhagor o deitlau gan 'Alan Llwyd'
ISBN: 9781900437837 (190043783X)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2006
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe
Fformat: Clawr Meddal, 209x148 mm, 296 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.95 
Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Y Gaer Fechan Olaf - 1937-1950
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae'r gyfrol hon yn rhan o gyfres sy'n adrodd hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ugeinfed ganrif.

This volume is part of a series which relates the history of the National Eisteddfod during the twentieth century.
A lwyddodd unrhyw genedl arall i esgor ar sefydliad mor gyfareddol-ddiddorol â’r Eisteddfod Genedlaethol? Mae’n gwestiwn! Pwy all anghofio’r wefr a gafodd darllenwyr llyfrau Cymraeg pan ymddangosodd cyfrol Hywel Teifi Edwards, Gŵyl Gwalia, lle olrheinir hanes yr Eisteddfod rhwng 1858 ac 1868? Bellach dyma roi ei hanes rhwng 1937 a 1950 o dan y chwyddwydr gan Alan Llwyd nad yw ei wybodaeth am yr Eisteddfod ym mhob agwedd arni yn ail i neb.

Rhennir y gyfrol yn ddwy ran. Hynt a helynt amrywiol Eisteddfodau’r cyfnod dan sylw a geir yn y rhan gyntaf, a’r ymdrech arwrol, yn wyneb pob math o wrthwynebiad a sen, i sefydlu gŵyl uniaith Gymraeg yn llinyn arian trwy’r cyfan. Man cychwyn arwyddocaol yw Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937, oherwydd yno am y tro cyntaf y mabwysiadwyd Cyfansoddiad newydd yr Ŵyl, a’r Rheol Gymraeg wedi ei hymgorffori ynddo am y tro cyntaf. Canlyniad protest ar ran nifer o feirniaid yr Eisteddfod oedd y Rheol Gymraeg, wedi i’r pwyllgor gwaith lleol wahodd Arglwydd Londonderry, Llywydd y Weinyddiaeth Awyr, i lywyddu un o’r cyngherddau. Cwbl ddi-Gymraeg ydoedd ef, a phennaeth yr union weinyddiaeth a adeiladodd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ac a oedd felly’n anuniongyrchol gyfrifol am garchariad y Tri ar ddechrau blwyddyn Prifwyl Machynlleth. Dilynir yr helynt tra diddorol hwn yn fanwl fel y gwneir â hynt a helynt pob un o’r Eisteddfodau dilynol hyd at Eisteddfod Caerffili 1950 lle gwelwyd gweithredu’r rheol Gymraeg yn llawn am y tro cyntaf.

Ac na feddylier mai’r ochr lenyddol yn unig a goffeir gan awdur a gyflawnodd y gamp ddwbwl ddwywaith. Olrheinir hanes y ddrama a’r cyngherddau yn y Brifwyl, ac ymgiprys y corau mawr, rhoddir sylw i sylwadau llywyddion y dydd ac i ambell araith mewn seremoni agoriadol yr Eisteddfod ei hun neu’r Babell Gelf a Chrefft. Dyfynnir yn bwrpasol o erthyglau post-mortem ar y gwahanol wyliau mewn papurau newydd a chylchgronau, a brithir y cyfan â gwybodaeth, straeon, hanesion ac anecdotau a fydd yn fêl ar fysedd unrhyw un â rhithyn o ddiddordeb yn yr Ŵyl ryfeddol hon o’n heiddo.

Yn ail ran y gyfrol ceir crynodeb aeddfed a meistraidd o gynnyrch llenyddol y cyfnod Eisteddfodol dan sylw sy’n cynnwys mwy nag un gymhariaeth annisgwyl, ond hynod ddiddorol, rhwng rhai awdlau megis awdl Gwilym R Jones, ‘’Rwyn edrych dros y Bryniau Pell’ (Dinbych 1938) ac awdl Dewi Emrys, ‘Cymylau Amser’ (Bangor 1943), a hyd yn oed rhwng awdl foliant Gwilym R Tilsley i’r ‘Glöwr’ (Caerffili 1950) a phryddest J M Edwards, ‘Peiriannau’ (Hen Golwyn – Eisteddfod Radio – 1941).

Darllenais y gyfrol hon â mawr fwynhad, a chymeradwyaf hi’n llawen. Hyfryd yw deall fod dwy gyfrol arall o’r un natur ‘ar fin eu cwblhau’ a fydd yn ymwneud â’r blynyddoedd 1900-1918 a 1919-1936.

Tegwyn Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
'... wedi'r holl straeon difyr yr un a lwyddodd i'm synnu fwyaf oedd y ffaith bod John F. Kennedy wedi ymweld ag Eisteddfod Caerdydd 1938 ...
Rhyw straeon fel yna sydd yn gwneud y gyfrol hon mor ddarllenadwy...'
(Hafina Clwyd: Western Mail)

'Bellach dyma roi ei hanes rhwng 1937 a 1950 o dan y chwyddwydr gan Alan Llwyd nad yw ei wybodaeth am yr Eisteddfod ym mhob agwedd arni yn ail i neb ... Yn ail ran y gyfrol ceir crynodeb aeddfed a meistraidd o gynnyrch llenyddol y cyfnod Eisteddfodol dan sylw. Darllenais y gyfrol hon â mawr fwynhad, a chymeradwyaf hi'n llawen.'
(Tegwyn Jones: gwales.com)

'Mae'r holl hanes yn eithriadol o ddifyr, a hefyd y ffordd yr aeth Alan Llwyd ati i'w adrodd ... Mae yma ddôs iachus iawn o hiwmor wrth adrodd yr hanes sy'n apelgar hefyd ... Byddai'n anodd meddwl ... y gallai neb ragori ar y gwaith hwn.'
(Dafydd John Pritchard: Barddas)
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Blodeugerdd Barddas o ...
 
£12.95
 
Prynwch
Testament Newydd Cymraeg, ...
Isaac Thomas
£19.99
 
Prynwch
Royal National Eisteddfod ...
Dillwyn Miles
£5.25
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch