Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Cof ac Arwydd - Ysgrifau ar Waldo Williams
ISBN: 9781900437875 (1900437872)
Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2006
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe
Golygwyd gan Damian Walford Davies, Jason Walford Davies
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 232 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Cof ac Arwydd - Ysgrifau ar Waldo Williams
Ein Pris: £12.95 
Cyfrol o ddeg ysgrif sy'n cynnig darlleniadau ffres, annisgwyl ac heriol o fywyd a gwaith Waldo Williams (1904-71). Ceir cydbwysedd rhwng trafodaethau testunol-fanwl ac ymdriniaethau cysyniadol. Ceir yn ogystal ddialog fywiog rhwng y gwahanol ysgrifau, yn enwedig yn annibynaieth barn y cyfranwyr unigol.

A volume of ten essays offering fresh, unexpected, challenging insights into the life and work of Waldo Williams (1904-71). A balance is achieved between detailed textual appreciations, and conceptual discussions.
A minnau wedi dadlau’n ddiweddar dros ddehongliadau Dilys(chwaer Waldo) o waith y bardd, ac wedi awgrymu bod mwy o siawns inni ddod o hyd i ‘Waldo’ drwy gyfrwng trafodaethau agored ar y we na thrwy gyfrwng beirniadaeth lenyddol yr arbenigwyr, dyma gyfrol i’m llwyr ddistewi a’m hatgoffa o’r newydd fod gan y clerigwyr hwythau ran i’w chwarae yn ein brawdoliaeth Waldoaidd. Bid siŵr, arbennig-wŷr ydynt bob un. Ffaith sydd megis yn cadarnhau’r awgrym ffeminyddol mai bardd i ddynion yw Waldo. Ac eto, siawns na ddaw ambell ffeminydd i gydeistedd gyda mi wrth draed yr arbenigwyr o ystyried bod y cyntaf ohonynt, T. Robin Chapman, yn credu mai peth ‘symudliw yw testun llenyddol’, sy’n bodoli ‘ar amryw ffurfiau diderfyn a chyfnewidiol . . . ym mhennau ei ddarllenwyr’. Dyna’r ddadl a gyflwynwyd yn ‘Beirniadaeth Lenyddol Ffeminist’ yn Y Traethodydd yn 1986. Ac yn unol ag ysbryd heriol yr ysgrif honno, un o amcanion y gyfrol hon yw ‘herio sawl darlleniad “swyddogol” o’r dyn a’i waith’, a phennu ‘cyfeiriadau beirniadol newydd’. Annisgwyl, ar un olwg felly, yw fod yr arbenigwyr hyn, neu olygyddion y gwahanol ysgrifau o leiaf, yn cyflwyno eu gwaith yn nhermau’r answyddogol a’r heriol a’r newydd. Adweithio y maent, wrth gwrs, yn erbyn ‘edmygwyr anfeirniadol’ Waldo. Nid ystyr hynny yw eu bod yma am herio statws canonaidd Waldo. Yn wir, fel arall y mae’n union. Eithr awgrymir hefyd nad gwaith i’r bardd ei hun na’i gyfeillion pennaf (er bod o leiaf un o’r rheini’n un o’r cyfranwyr) yw datgan ei fawredd, eithr gwaith ar gyfer y genhedlaeth iau nad oedd yn ei adnabod.

Nid oes yma ofod i drafod yr ysgrifau unigol na nodi pa rai oedd orau gennyf. Nodaf yn hytrach mai apęl y gyfrol yw amrywiaeth yr ysgrifau – ynghyd â’r berthynas a’r gwrthdaro rhyngddynt – a bod yr amrywiaeth hwnnw fel pe bai’n cadarnhau’r awgrym uchod am ddod o hyd i Waldo drwy gyfrwng ‘cyflawn we’, os nad y we ei hun. A gwell i minnau yng ngolau fy sylwadau gwrthglerigol uchod, nodi bod cyfraniad yr unig glerigwr (yn ystyr lythrennol y gair) i’r gyfrol yn gaffaeliad iddi. Oherwydd pwysleisia’r Archesgob Rowan Williams fod Waldo, er yn gymeriad sy’n bodoli rhwng dwy iaith a rhwng dau ddiwylliant, yn fardd anghyfieithiadwy. Gan hynny, megis yr ysgrifau eraill, effaith ei ysgrif yntau yw codi awydd ynom i ddarllen gwaith y bardd ei hun o’r newydd mewn modd gwerthfawrogol a beirniadol, a gwneud hynny yng ngoleuni’r gyfrol hon a’r honiad mai Waldo yw ‘bardd mwyaf yr ugeinfed ganrif yn Gymraeg’.

Tudur Hallam

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: