|
Am ryw reswm, y mae’r ail gyfrol yng Nghyfres Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn trafod cyfnod cynharach na’r un a drafodir yn y gyfrol gyntaf, Y Gaer Fechan Olaf, 1937-1950. Gellir rhannu’r llyfr yn ddwy adran o dair pennod yr un pennod gyntaf yr adran gyntaf yn ymdrin â’r blynyddoedd 19191929 o safbwynt hanes cyffredinol yr Eisteddfod, yr ail bennod yn canolbwyntio ar awdlau a chanu caeth y blynyddoedd hyn, y drydedd bennod ar eu pryddestau a’u canu rhydd; ac yna ailadrodd y patrwm am y blynyddoedd 19301936.
Ymhlith pynciau llosg y cyfnod argyfyngus hwn yr oedd pryder ynglŷn â Seisnigrwydd yr Eisteddfod, gwrthdaro rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth o ran statws, cweryla cyson rhwng Cymdeithas yr Eisteddfod a Gorsedd y Beirdd, ac ymosodiadau ysgolheigaidd ar ddilysrwydd yr Orsedd.
Cyn mabwysiadu’r rheol Gymraeg yn 1937, digon Seisnigaidd yn aml oedd yr eisteddfodau. Nid yn unig fe geid areithiau Saesneg o’r llwyfan, a rhai ohonynt yn ddigon dilornus o’r diwylliant Cymraeg, ond yr oedd Seisnigrwydd yn treiddio i mewn i’r cystadlaethau llenyddol hefyd. Y cerddorion, fodd bynnag, a gâi eu beio fwyaf am Seisnigo’r Brifwyl. Ystyriai rhai beirdd a llenorion fod cynllwyn ar droed i droi’r Eisteddfod yn Ŵyl Gerddorol, ac mai rhan o’r cynllwyn hwnnw i wthio llenyddiaeth i’r ymylon oedd sefydlu’r Babell Lęn yn Eisteddfod y Barri yn 1920. Yr oedd Gorsedd y Beirdd, amddiffynnydd y traddodiad llenyddol, o dan warchae o du ysgolheigion, yn arbennig Griffith John Williams, a brofodd yn derfynol mai ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg oedd derwyddiaeth. At hyn, yr oedd ei seremonďau'n flęr a diurddas, a’i haelodau'n batriarchaidd ac yn geidwadol ddisymud. Yr oedd yn amlwg i lawer fod dygn angen rhoi trefn ar weithgareddau llenyddol yr Ŵyl.
Yn y gweithgareddau llenyddol, fodd bynnag, ac yn arbennig yn awdlau a phryddestau’r cyfnod, y mae prif ddiddordeb Alan Llwyd, ac arnynt hwy y mae prif ffocws y llyfr. O safbwynt y bryddest, dyfernir mai ‘cyfnod cyffrous ac arbrofol oedd y dauddegau’, gyda ‘dirywiad’ yn y tridegau. O safbwynt yr awdl, ‘aros yn ei hunfan a wnaeth [hi] am ddegawd cyfan ar ôl y Rhyfel Mawr’, ond yn y tridegau, er gwaetha’r testunau traddodiadol a osodwyd, fe geisiodd rhai beirdd ‘ddod ag elfennau mwy cyfoes i mewn i’w hawdlau’. Y mae Alan Llwyd yn trafod yn feirniadol fanwl holl weithiau buddugol y cystadlaethau hyn, a rhai anfuddugol hefyd.
Mae’r llyfr yn fwynglawdd o wybodaeth am ymdrech y Brifwyl i oroesi drwy gyfnod a oedd yn un anodd yn ddiwylliannol ac yn economaidd, ac yn arweiniad teg a chytbwys i’r cerddi a wobrwywyd ganddi. Pan fydd y gyfres yn gyflawn bydd yn gofnod cynhwysfawr o hanes yr Eisteddfod ac yn ymdriniaeth feirniadol bwysig o’i chynnyrch.
Gwynn ap Gwilym
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Dyma'r ail gyfrol yng Nghyfres Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol gan Alan Llwyd. Mae'r gyfrol hon yn trafod y blynyddoedd 1919-1936, un o'r cyfnodau mwyaf argyfyngus erioed yn hanes ein Prifwyl Genedlaethol.
Dyma gyfnod y frwydr fawr rhwng dilynwyr a dilornwyr Iolo Morganwg, brwydr y bu'n rhaid i ysgolheigion fel John Morris-Jones, Griffith John Williams a W. J. Gruffydd ei hennill er mwyn diwygio Gorsedd y Beirdd a rhwystro'r sefydliad hwnnw rhag dwyn gwarth a gwawd ar yr Eisteddfod. Roedd y ffrae rhwng y Gorseddogion a'r ysgolheigion yn bygwth tanseilio'r undod cenedlaethol hwnnw yr ymgyrchai eraill o'i blaid, yn union fel yr oedd caniatáu i'r Saesneg orfeddiannu ambell Brifwyl, ar draul y Gymraeg, yn creu rhwyg. Ac ar ben popeth, bu'n rhaid i'r Eisteddfod frwydro am ei heinioes wrth i gyni economaidd y cyfnod fygwth ei bodolaeth.
|