Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Cefn y Rhwyd: Ar Ddiwedd y Dydd
Elgan Philip Davies
ISBN: 9781902416281 (1902416287)Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 2003
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Darluniwyd gan John ShackellAddas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 130x195 mm, 72 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £3.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Y gyfrol olaf mewn cyfres bêl-droed boblogaidd i ddisgyblion 7-10 oed, yn adrodd hanes cyffrous tîm pêl-droed bechgyn a merched BMG wrth iddynt baratoi ar gyfer gêm ola'r tymor yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair. 21 llun du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf Awst 2000 .

The last volume in a popular football series for 7-10 year old children, giving an exciting account of the BMG football team for boys and girls as they prepare for the last game of the season in the final round of the league competition. 21 black-and-white illustrations. First published in August 2000.
Dyma’r bumed gyfrol yng nghyfres Cefn y Rhwyd, sy’n adrodd hanes y tîm pêl-droed rhyfeddol BMG Unedig.

Ynddi mae’r tîm wedi cyrraedd rownd derfynol y cwpan, a’u gwrthwynebwyr yw tîm yr ysgol - Ysgol Glanaber. Mae’r tensiwn rhyfeddaf yn bodoli rhwng y ddau dîm a’u cefnogwyr, sy’n arwain at helynt hyd yn oed wrth i’r rhieni siopa yn yr archfarchnad. Ac mae ystrywiau’r prifathro yn fagl ychwanegol i geisio rhwystro BMG Unedig rhag ennill.

Ydi o’n llwyddo? Rhaid i chi ddarllen y llyfr byr, bywiog, llawn asbri yma i wybod. Ond yn sicr fe lwyddodd yr awdur i greu tensiwn, a’i gyflwyno heb gasineb na chwerwder; tipyn o gamp yw ymdrin â phwnc mor llosg mewn ffordd ysgafn, ddidramgwydd.

Mae’n wir fod yn y gyfrol ambell idiom sy’n perthyn yn well i’r Saesneg - megis 'Allai neb fod wedi ysgrifennu’r sgript yn well a 'Bydda i’n rhedeg cylchoedd o dy gwmpas di', ond mae lle i ddadlau bod idiomau fel hyn bellach yn rhan o’r Gymraeg. Dydyn nhw’n amharu dim ar addaster a sioncrwydd yr iaith, beth bynnag.

Mae’r lluniau'n ychwanegu at ysgafnder y llyfr ac yn pwysleisio nad oes eisiau bod ormod o ddifri. Cyfrol yw hon fydd yn rhoi boddhad a diddanwch mawr i’r darllenydd.

Elfyn Pritchard

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Tab a'r Cadabras: ...
Siân Lewis
£4.99
 
Prynwch
Cyfres Hoff Straeon:Tri ...
 
£2.75
 
Prynwch
Fi fy Hun - Llyfr i'w ...
Catherine Bruzzone
£3.25
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch