Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Rowan Williams - Yr Archesgob
Awdur: Cynwil Williams
Gweld rhagor o deitlau gan 'Cynwil Williams'
ISBN: 9781903314784 (190331478X)
Dyddiad Cyhoeddi Awst 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Pantycelyn, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 209x134 mm, 312 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Rowan Williams - Yr Archesgob
Ein Pris: £14.95 
Cyfrol yn cynnwys gwybodaeth am fywyd yr archesgob Rowan Williams. Ymgais ydyw i gynorthwyo'i edmygwyr ymhlith y Cymryu i'w adnabod a'i ddeall a'i werthfawrogi. Sonnir am ei orffennol a'i yrfa, a cheisir deall ei ddiwynyddiaeth a'r hyn sy'n ei yrru ymlaen.

A volume containing a biography of the life of archbishop Rowan Williams. It is an attempt to assist his admirers in Wales to acquaint themselves with him, to understand him and to appreicate him. His life is discussed in deatil, together with hi theology and the driving force that inspires him.
Does dim dwywaith nad oedd disgwyliadau mawr yn dilyn apwyntiad Rowan Douglas Williams, gŵr o ddiwylliant ac o allu anghyffredin, a’r Cymro cyntaf erioed, i fod yn Archesgob Caergaint. Gwyddai pawb amdano fel dyn gwylaidd, dirodres a chyfeillgar, fel personoliaeth encilgar, ysbrydol, ac fel ysgolhaig disglair a diwinydd o’r radd flaenaf. Camp ynddi’i hun oedd i awdur y gyfrol hon ymgyfarwyddo â’r cyfrolau sylweddol, y llyfrau defosiynol a’r casgliadau o bregethau, anerchiadau a myfyrdodau a ddaeth o law'r Archesgob dros y blynyddoedd. Ond mwy o gamp fyth oedd iddo lwyddo i grisialu prif themâu ei waith a’u cyflwyno i’w ddarllenwyr mewn dull darllenadwy a diddorol, yn enwedig o gydnabod nad yw cynnyrch Rowan Williams, ar bapur nac ar lafar, bob amser yn hawdd i’w ddeall.

Prif werth y gyfrol yw ei bod yn rhagarweiniad ardderchog i feddwl a gwaith ei gwrthrych, yn ei osod yn erbyn cefndir ei fagwraeth, ei yrfa academaidd a’i bererindod ysbrydol. Is-deitl y gyfrol yw, ‘Ei Dylwyth, ei Athrylith a’i Drafferthion.’ Ond nid tri pheth ar wahân yw’r rhain. Dengys Cynwil Williams fel y dylanwadodd magwraeth, cefndir ac addysg Rowan Williams ar ei ddatblygiad meddyliol ac ysbrydol. Yn deillio o gefndir anghydffurfiol Cymraeg, wedi ei fedyddio a’i fagu yn ei flynyddoedd cynnar o fewn Presbyteriaeth, wedi canfod cartref ysbrydol o fewn Anglicaniaeth yn eglwys y plwyf yn Ystumllwynarth, wedi derbyn addysg uwchradd ragorol yn Ysgol Ramadeg Dinefwr cyn cael mynediad i Gaergrawnt, wedi ymddiddori yn nhraddodiad Uniongred y Dwyrain, a hyd yn oed wedi ystyried mynd yn fynach ar un adeg, ac wedi dringo i frig y byd academaidd cyn ei benodi’n Esgob Mynwy, mae ei yrfa a’i ddatblygiad yn egluro ehangder a chyfoeth ei feddwl. Yn uchel eglwyswr o argyhoeddiad, yn rhoi lle amlwg i’r Forwyn Fair, y mae hefyd yn eciwmenaidd ei bwyslais a bu ar flaen yr ymgyrch i ordeinio merched; yn feddyliwr praff ac yn gwbl uniongred ei safbwynt, mae’n gwrthod pob math o ddogmatiaeth ddall, yn credu’n gryf mewn ymchwilio i ddirgelion y ffydd ac yn rhoi mwy o bwyslais ar y gofynnod na’r atalnod, chwedl Cynwil Williams; o reidrwydd yn ddyn sefydliad a chyfundrefn, mae ei feddwl a’i waith, ei arweinyddiaeth a’i athrawiaeth, yn deillio o’i fywyd ysbrydol dwfn, ei bwyslais ar weddi ac ysbrydoledd a’i gred mai pererindod, o flaen popeth arall, yw ffydd fyw.

Symudwyd Rowan Williams i Gaergaint mewn cyfnod cythryblus yn hanes y Cymundeb Anglicanaidd, gyda rhai eglwysi yn bygwth ymwahanu a rhwygo undod eu Cymundeb dros fater gwrywgydiaeth a phenodi gwrywgydwyr yn esgobion. Fel y dywed yr awdur, aeth rhyw i ben agenda Anglicaniaeth lle bu Duw cyhyd! Beirniadwyd yr Archesgob gan y ddwy ochr, a chan y wasg seciwlar yn arbennig, am beidio â rhoi arweiniad mwy cadarn ar y mater. Ond dull Rowan Williams o arwain yw meithrin trafodaeth, annog amynedd, gweddi a goddefgarwch a cheisio canfod meddwl Duw.

Yn y dyddiau byrbwyll hyn, pan fo eithafwyr o bob math yn cipio’r penawdau, nid yw’n hawdd gwerthfawrogi cryfder a gwewyr yr Archesgob, yn amddiffyn undod y Cymundeb dan ei ofal ac yn arwain yn ysbryd yr Efengyl. Mae Cynwil Williams wedi’n helpu i weld mawredd y dyn a bydd pawb sydd wedi gwerthfawrogi’r gyfrol hon yn gwylio hynt a helynt y Cymro mwyn yng Nghaergaint gyda llawer mwy o ddealltwriaeth a chydymdeimlad o hyn allan.

Elfed ap Nefydd Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: