Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Tywyll HenoKate Roberts
Gweld rhagor o deitlau gan 'Kate Roberts' |
ISBN: 9781904554073 (1904554075)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2010
Cyhoeddwr: Gwasg Gee, BethesdaFformat: Clawr Meddal, 186x125 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£7.50
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Argraffiad newydd o stori fer hir enwocaf llên Cymru sy'n cofnodi profiadau gwraig i weinidog sy'n cael ei llethu gan ei hamgylchiadau ac yn treulio cyfnod mewn ysbyty meddwl. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1962.
A new edition of an extended short story sensitively portraying the experiences of the wife of a minister of religion who is overcome by her circumstances and is admitted into a mental hospital. First published in 1962.
|
|
Ym mhob diwylliant mae’n hollbwysig cadw’r clasuron mewn print. Yn aml yn Gymraeg bu’n rhaid inni ddibynnu ar gopïau ail-law o destunau i’w darllen a’u hastudio. Da o beth, felly, yw’r fenter hon ar ran Gwasg Gee i ailgyhoeddi stori fer hir Kate Roberts, Tywyll Heno, y pedwerydd argraffiad ers ei chyhoeddi’n wreiddiol yn 1962, gyda rhagair newydd o waith Angharad Tomos.
Fel y gwelir o dystiolaeth gohebiaeth yr awdures yn 1961, ‘wynebu holl wendid ein capeli Anghydffurfiol’ oedd bwriad y gwaith. Aeth Kate Roberts ati i wireddu ei bwriad trwy ddisgrifio dadfeiliad meddyliol ac emosiynol ei phrif gymeriad, Bet Jones, gwraig i weinidog anghydffurfiol sy’n darganfod ei bod wedi colli ei ffydd, boed hynny’n achos neu’n effaith ei salwch. Mae teitl y llyfr a nifer o adleisiau o fewn y gwaith yn ein cyfeirio ’nôl at y gerdd ‘Stafell Gynddylan’ yng Nghanu Heledd.
Pan ymddangosodd Tywyll Heno gyntaf, cafwyd adolygiad deifiol ar y gyfrol gan Islwyn Ffowc Elis, ‘llyffant blwydd yn ceisio lladd y dwyflwydd’ meddai. Ymosododd ar gymariaethau Kate Roberts tra ei fod yn canmol ei throsiadau. ‘Nid ei harddull yw ei chryfder. Ei chryfder yw ei hamgyffred eithriadol o sefyllfa a chymeriad.’ Meddai wedyn, ‘Llyfr rhagorol a allasai fod yn odidog oni bai am ddiofalwch a charbylni y gellid bod wedi’u hepgor mor hawdd.’ Er gwaethaf hyn oll, cyfeddyf nad ‘oes neb ohonom a allai ysgrifennu cystal stori fer hir â "Tywyll Heno". Dyma’r ddawn storïol fwyaf sydd gennym.’
Mae’r argraffiad newydd hwn wedi cael ei atgynhyrchu’n lân a deniadol gyda’r rhagair yn gyflwyniad deallus i graidd y gwaith. Ond hwyrach y dylid bod wedi ystyried cynnwys geirfa, gan fod yma rai geiriau a thermau dieithr o bosibl i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr meistres y stori fer Gymraeg, e.e. ‘yn bentraffollach’ (t. 15); ‘sbandiau’ (t. 20); ‘ffydleman’ (t. 40); ‘sgeintio’ (t. 42); ‘hogia Nedw’ (t. 52); ‘yn ddicra’ (t. 61); ‘topen’ (t. 69); ‘fflonsiai’ (t. 69); ‘yn bricsiwn (t. 73); ‘ysnachu’ (t. 75); a ‘cyffylsiwn’ (t. 87).
Dafydd Ifans
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Stori fer hir am wraig ganol oed, gwraig i weinidog, yng nghanol yr ugeinfed ganrif a ganfu fod amgylchiadau'r oes yn ormod iddi. Yr oedd yn rhy ifanc i fod yn gul ac yn rhy hen i fod yn wamal. Gwraig synhwyrus yn teimlo pob peth i'r byw, yn byw yng nghanol cymdeithas gyffredin ddideimlad. Aeth hynny'n drech na hi am gyfnod, a hanes y cyfnod hwnnw a geir yma. Ond fe ddaeth goleuni. Rhydd hanes ei phrofiadau fel y gwêl hi hwy. Peidier â meddwl er hynny mai stori ddi-symud a geir yma. Mae rhywbeth diddorol yn digwydd drwy'r adeg, ac mae'r cwbl yn symud yn sionc a diwastraff. Nid yw'r awdur wedi colli dim ar ei sylwgarwch ac mae pob manylyn yn fyw a pherthnasol. |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|
|