Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ychydig Is Na'r AngylionAled Jones Williams Gweld rhagor o deitlau gan 'Aled Jones Williams'
ISBN: 9781904845478 (1904845479)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2006
Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 209x133 mm, 196 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.00 
Ychydig Is Na'r Angylion
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel am ddyn sydd wedi colli ei wraig a dau o'i blant, gan adael iddo i ofalu am fab anabl o'r enw Rhodri. Mae'r stori yn llawn o gymeriadau lliwgar, digwyddiadau ystyrlon, a charwriaethau. Mae'r awdur hefyd yn trin yr elfennau ysbrydol, clelfyddydol a materol sy'n effeithio ar fywyd y cymeriadau.

A novel about a man who has lost his wife and two children, leaving him to care for a remaining disabled son called Rhodri. The story is full of colourful characters, events and relationships. The author also visits his recurring themes of spirituaity, the arts and materialism.
Fe fydd y darllenwyr hynny sy’n gyfarwydd â gwaith Aled Jones Williams yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan gyhoeddir cyfrol o’i waith: yr annisgwyl.

Peidiwch â disgwyl stori garlamus fel Dan Brown. Peidiwch â disgwyl cael eich llusgo gerfydd eich sgrepan ar wib anturus i bedwar ban byd, er bod y nofel yn mynd â ni cyn belled â Rwsia. Yn hytrach, disgwyliwch orfod ymddiried eich dychymyg i ddychymyg ei hawdur a mynd gydag o i wahanol gyfeiriadau o bob math.

Mewn cwta baragraff dyma fynd o’r manylyn cyffredin i’r cosmig:

‘Ar hyd ei thin, meddyliodd Dulyn, ond tin siapus fel arfer, roedd eisoes wedi sylwi. Mi oedd o yn hen law ar drin merchaid, sicrhaodd ei hun. Edrychodd ar ei hen law saith a deugain mlwydd oed gan ei throi drosodd a throsodd yn gyflym o’r gledr i’r cefn. Fel petai hi’n fap. Fel petai yna ben y daith i’w gweld arni. A chyfeiriadau ar sut i gyrraedd yno. Yn rhywle.’

Ond mae yma gymeriadau a sefyllfa ddramatig. Gŵr (Dulyn) sydd wedi colli ei wraig a dau o’i blant a’i adael i ofalu am eu mab anabl (Rhodri); mae yma garwriaethau a chymeriadau lliwgar a thywyll fel ei gilydd - ‘methiannau gogoneddus’ yn amlach na pheidio. Ond mae yma hefyd drafod syniadau a hynny mewn iaith aruthrol o gyfoethog, a’r cyfoeth hwnnw yn cynnwys arian mân iaith bob dydd yn ogystal ag aur ac arian gloyw'r prifardd ar ei orau. Dychmygwch ‘[d]dryw maint eiliad’.

Mae’r awdur yn defnyddio’i gymeriadau a’i naratif i archwilio’r themâu sy’n gyfarwydd iawn yn ei weithiau eraill: yr eithafion a’r ffiniau sy’n perthyn i’n bywydau ni, perthnasedd celfyddyd i’n byd ni, y pethau ysbrydol cyntefig rheiny a’r materol bydol sy’n gymysg ym mhob un ohonom – y mosaig hynafol dan dir yr archfarchnad anferth ‘Pepco’ yng nghyd-destun y nofel. Ac wrth gwrs, iaith ei hun. ‘Chwara efo geiria ydy peth felna.’ ‘Chwara efo geiria ydy pob dim. Iaith sy’n creu y byd.’ Meddai dau o’r cymeriadau.

Fe fydd rhai yn methu gweld heibio i’r frawddeg heb atalnod llawn ac yn methu gweld dim mewn cromfachau gwag, ac i ffans yr atalnod mae o yn ei ôl,

Ond eu colled nhw fydd hynny. Ydy, mae’r disgwyliedig yma yn ogystal â’r annisgwyl – ond fe fydd y nofel hon yn cynnig her i’w chynulleidfa fel y mae gwaith ei hawdur yn ei wneud bob amser, ac fe fydd yna feirniadu a gwirioni fel ei gilydd, fel yn achos pob awdur o bwys.

R. Arwel Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres y Cewri: 26. ...
Dewi Pws Morris
£6.95
 
Prynwch
Lladd Amser
Lyn Ebenezer
£5.95
 
Prynwch
Ddraig Goch, Y
Emlyn Roberts
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch