| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Helygen Gam, Yr |
| Awdur: John Roberts Gweld rhagor o deitlau gan 'John Roberts'
|
| ISBN: 9781904845492 (1904845495) |
Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2007
Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn, Caernarfon |
| Fformat: Clawr Meddal, 208x134 mm, 116 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£6.00
|
|
Casgliad o straeon byrion gan frodor o Lerpwl ond sydd wedi bwrw gwreiddiau ym Mhen Llŷn. Ceir yma'r dwys a'r digrif, a'r cwbwl mewn iaith ystwyth a naturiol.
A collection of short stories written by a Scouser who has long been associated with the Llŷn Peninsula. The stories combine tears and laughter, written in an easy-to-read language.
|
|
Mae ffenestr dda bob amser yn tynnu sylw. Felly hefyd glawr llyfr, ac mae clawr y gyfrol yma yn hynod ddeniadol diolch i Tanwen Haf a’i cynlluniodd. Ond mae llawer mwy i lyfr na’r clawr ac mae cynnwys y gyfrol yma yn haeddu sylw, a hynny am sawl rheswm.
Er mai ‘Scowsar’ o ran man ei eni yw John Roberts, mae acenion a geirfa gwlad Llŷn ei ddyddiau cynnar yma, ac mae sawl gair yn adleisio fy mhlentyndod innau ac yn codi pwl o hiraeth. Oes, mae mwy i ambell lyfr na’i gynnwys storïol. Naturioldeb y ddeialog yw’r peth cyntaf a ddaliodd fy sylw, ac nid ar chwarae bach mae creu sgyrsiau o’r fath a geir yma. Mae ôl gwrando ar sawl brawddeg fach gwta, ac mae ôl adnabod ar sawl cymeriad hefyd a hynny’n sicr yn deillio o brofiad helaeth yr awdur mewn sawl maes. Mae ‘Wythnos Hir: Wythnos Fer’ yn rhoi cip i ni trwy ddrws Swyddfa’r Eisteddfod Genedlaethol wrth i ni gael golwg ar ddyddiadur (dychmygol!) un o’r staff. Profiad yn troi’n llenyddiaeth, a llenyddiaeth yn ddarluniau geiriol a’n gwneud i awchu am fwy.
Cameo yw ‘Cig i Ginio’ ac ni ddadlennaf ddim am gynnwys y stori, 'mond sôn am gynildeb cywrain y paent, tra mae’r stori agoriadol sy’n rhoi teitl i’r gyfrol yn stori fer-hir sy’n hoelio diddordeb y darllenydd o’r cychwyn. Llenydda i ‘ddifyrru’r amser’ mae’r awdur yn ôl y Rhagair, ond mae’r difyrrwch hwnnw wedi ymestyn i sawl gwobr yn ein Gŵyl Genedlaethol a sawl eisteddfod arall, a dyma gyfle i ninnau ailflasu’r llwyddiannau hynny.
Peidiwch â disgwyl cymhlethdod geiriol na phethau fel ôl-foderniaeth, ac er bod mymryn o flas ddoe ar ambell ddisgrifiad, mae'r dweud coeth a’r sglein ieithyddol yn pefrio trwy’r gyfrol. Yn ôl y broliant mae John Roberts (a aned yn 1916) yn dal i baratoi ei fwyd ei hun! Mae blas ar y gyfrol yma hefyd ac mae’r cynnwys mor drawiadol â’r clawr. Diolch i Wasg y Bwthyn am gyfrol gymen.
John Gruffydd Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|