Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Wladfa yn dy Boced, YCathrin Williams Gweld rhagor o deitlau gan 'Cathrin Williams'
ISBN: 9781904845553 (190484555X)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2011
Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 160x115 mm, 224 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £7.00 
Wladfa yn dy Boced, Y
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr taith ar gyfer y Wladfa, Patagonia. Ceir yma fanylion am faterion ymarferol wrth deithio i'r Wladfa, megis dulliau teithio, ble i fwyta ac i letya, a gwybodaeth gyffredinol am yr ardal arbennig hon o'r Ariannin. Adargraffiad; cyhoeddwyd yr argraffiad hwn gyntaf yn 2007.

A travel guide about the Welsh colony in Patagonia. It includes information to aid the practical arrangements of visiting Patagonia, such as means of travelling, where to stay and eat, and general information about this special part of Argentina. Reprint of an edition first published in 2007.
Cysylltiad unigryw yw’r un sydd rhwng Cymru a’r Wladfa, ac o ganlyniad mae disgwyliadau teithiwr o Gymru yn wahanol iawn i rai unrhyw deithiwr arall sy’n cyrraedd yr ardal hon o’r Ariannin. Yn ogystal â’r cwestiynau ymarferol (teithio, llety, bwyd, ac arian) a’r rhai cyffredinol (bywyd gwyllt, ardaloedd o ddiddordeb twristaidd), mae cymaint o hanesion a mannau o ddiddordeb i’r Cymro yn y Wladfa nad oes sôn amdanynt mewn unrhyw lyfr teithio Seisnig.

Mae Cathrin Williams wedi ateb y broblem hon yn y llyfr Y Wladfa yn dy Boced. Cyfeirlyfr bychan ydyw, o faint addas i’w gludo gyda chi ar eich taith, ac mae’n benodol ar gyfer y cannoedd o Gymry sy’n teithio yn flynyddol i’r Ariannin. Mae’r awdur ei hun yn gyfarwydd iawn â’r wlad; mae e wedi teithio yno nifer fawr o weithiau ac yn adnabod yr ardal a’i phobl. Cyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol yn 2000, ond yn unol â natur llyfr taith, mae rhai manylion yn newid yn gyson, felly ail argraffiad a geir yma, gyda’r wybodaeth wedi ei diweddaru. Y bwriad yw bod o gymorth wrth drefnu taith, darparu atebion i gwestiynau sy’n codi’n gyson, a rhoi ychydig o hanes yr Ariannin a’r etifeddiaeth Gymreig.

O sioeau Tango Buenos Aires i bengwiniaid Punta Tombo, o amgueddfa’r Gaiman i’r daith dros y paith i’r Andes, ceir yma wybodaeth helaeth am yr hyn sydd i’w weld a’i wneud, o safbwynt Cymreig. Chwilio am dŷ te lle bo’r perchenogion yn siarad Cymraeg? Eisiau gwybod am lefydd hanesyddol pwysig a straeon am y Cymry cyntaf? Beth am yr etifeddiaeth Gymreig sydd yno heddiw? Ceir yr atebion yma, ynghyd â mapiau o’r prif drefi a brawddegau Sbaeneg defnyddiol, mewn llyfryn bach hwylus y gellir cyfeirio ato’n rhwydd.

P’un ai taith bendant sydd o’ch blaen, neu freuddwyd annelwig am ymweld â’r Wladfa, mae’r llyfr hwn, gyda’i gynhesrwydd tuag at yr Ariannin a’i phobl, yn siŵr o wneud i chi estyn am y cês o’r cwpwrdd!

Meleri MacDonald

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Bywgraffiad Awdur:
Mae'r awdur wedi bod draw yn y Wladfa nifer o weithiau. Y hi ydi Llywydd Cymdeithas Cymru-Ariannyn, ac mae wedi cyhoeddi pedwar llyfr ar y Wladfa.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Mimosa – The Life and ...
Susan Wilkinson
£12.95
 
Prynwch
Gwladfa Patagonia / La ...
R. Bryn Williams
£4.25
 
Prynwch
Bywyd a Gwaith John ...
 
£8.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch