Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Yn Hon Bu Afon UnwaithAled Jones Williams Gweld rhagor o deitlau gan 'Aled Jones Williams'
ISBN: 9781904845713 (1904845711)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2008
Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 213x140 mm, 128 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.00 
Yn Hon Bu Afon Unwaith
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel am wraig sy'n gwahodd hen gariad yn ôl i'w bywyd i dreulio diwrnod gyda hi. Olrheinir eu perthynas gyfrinachol a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl.

A novel about a woman inviting an old flame back into her life, to spend one day together. Distant memories flood back of their secret love affair.
Cariad a rhwystredigaeth perthynas odinebus yw hanfod y nofel hon. Y mae Rhiannon Owen yn gwahodd ei chyn-gariad, Tom Rhydderch, i dreulio diwrnod yn ei chwmni, a hithau gyda dim ond ychydig o wythnosau ar ôl i fyw. Cyrhaedda'r nofel ei huchafbwynt gyda chyfarfyddiad y ddau ar ei diwedd. Saif corff y nofel yn adeiladwaith at hynny, a'r adeiladwaith hwnnw'n bytiau o atgofion y ddau o'u perthynas a’u godineb flynyddoedd yn ôl.

Awdur ifanc addawol yw Tom Rhydderch, a gyda Rhiannon Owen wedi rhoi ei bryd ar gyfieithu un o'i nofelau, y mae eu cyfarfyddiad yn egin i gyfnod angerddol o gwympo mewn cariad. Tyf yn gyfnod dwys wrth iddynt geisio celu eu perthynas oddi wrth eu partneriaid priodasol, a hynny'n aflwyddiannus. Daw Rhiannon i deimlo'r boen o orfod ildio’r fraint o gael ei gweld yn gyhoeddus gydag ef, o orfod celu yn y cysgodion a charu yn y dirgel. Wrth i’r nofel fynd rhagddi, daw marwolaeth Rhiannon yn nes. Y mae hi’n gryf ei hysbryd serch hynny ac nid yw’n tosturio, ond gwell cael hances wrth law os ydych yn un da am rannu deigryn!

Yn cydseinio â natur ei chynnwys, y mae arddull ac ieithwedd y nofel hefyd yn ddwys. Trwy eu meddyliau a’u natur fewnblyg y deuir i adnabod y cymeriadau, y rheini’n ddifrifol ac angerddol. Os nad yw’r darllenydd yn gyfarwydd â gweithiau Aled Jones Williams, mae ychydig o waith ymgyfarwyddo â’r iaith farddonol, delynegol a’r cynnwys sy’n frith o drosiadau. Y mae’r teitl ei hun yn drosiad am sychder emosiynol Rhiannon wrth iddi ddioddef ing cariad a phoen cyfrinachedd: y mae hi’n ‘wely afon sych, yn fwd caled sy’n gracia i gyd’.

Rhagoriaeth Aled Jones Williams yw’r modd y llwydda i neidio o’r presennol i’r gorffennol, o ymson i ddeialog (ceir darnau o ddeialog radio) heb ddrysu’r darllenydd. Llifa’r darnau’n gelfydd i’w gilydd gan asio meddyliau’r cymeriadau. Deuthum, yn bersonol, i adnabod Rhiannon a Tom fel un cymeriad a rwygwyd yn ddau gan nad yw’r naill yn gyflawn heb y llall.

Y mae’n nofel gyfoethog a chywrain, ac os mai’r pwerus sy’n mynd â’ch bryd, fe fydd hon yn gweddu i’r dim!

Angharad Watkins

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Superted: Nosau Di-Gwsg ...
 
£9.99
 
Prynwch
Mwydyn yn yr Afal
Meleri Wyn James
£3.00
 
Prynwch
Darlith Lenyddol ...
Hywel Teifi Edwards
£2.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Argraff Gyntaf, Yr
Ifan Morgan Jones
£7.95
 
Prynwch
Saesneg
Not Quite White
Simon Thirsk
£9.99
 
Prynwch