Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
O Ben Bryn i Dŷ'r Cyffredin
Betty Williams
ISBN: 9781904845980 (1904845983)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2010
Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 213x138 mm, 148 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Ein Pris: £7.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Ganed Betty Williams ym Mhen Bryn, Tal-y-sarn, ym 1944. A hithau bellach ar fin ymddeol o Dŷ'r Cyffredin, cawn yma olwg ddadlennol ar fywyd dyddiol Aelod Seneddol yn ogystal â'r gwledydd llai breintiedig yr ymwelodd â nhw ar ran Llywodraeth Prydain. Cawn hefyd olwg ar fywyd teuluol a siglwyd gan anabledd mab ieuengaf yr awdur.

Betty Williams was born in Tal-y-sarn, Caenarfonshire, in 1944. As she's about to retire from the House of Commons, here's a look back on her life as a Member of Parliament, including her visits to various countries on behalf of the British government. We also hear about her personal and family life, and how she has coped with having a son with disabilities.
"Oes ganddo fo 'winadd?" oedd cwestiwn cyntaf Betty Williams i'r fydwraig, mae'n debyg, ar enedigaeth ei mab cyntaf, Raymond. Cyflwr meddygol yn nheulu Betty oedd yn gyfrifol am y cwestiwn. Ond tybed ai dyna gwestiwn ei mam hi pan anwyd Betty Williams ei hun? Fel mae bywyd cyhoeddus Betty Williams wedi dangos, yn wleidyddol, mae ganddi hi ewinedd digon miniog yn ogystal dannedd sy'n brathu.

Dyma lyfr am daith merch gyffredin o Ddyffryn Nantlle yr holl ffordd i Senedd San Steffan. Mae yma benodau cynnes am y dyddiau cynnar, am y gwaith o fagu plentyn ag anabledd, am deithiau tramor a chael cysgu yng ngwely Nicolai Caucescu - y teyrn fu'n llywodraethu yn Romania. Wrth gwrs, doedd o ddim ynddo ar y pryd!

Am flynyddoedd, cafodd merched o fewn y Blaid Lafur, a'r pleidiau i gyd o ran hynny, eu trin fel y rhai oedd yno i wneud te a thorri brechdan. Yr adeg honno yr oedd y syniad o gael merch yn aelod seneddol yn gwbwl anathema. Do, cafodd Betty Williams a merched eraill fel Ann Clwyd eu trin yn ddigon nawddoglyd wrth geisio cyrraedd San Steffan. Ond gwae unrhyw un fyddai'n ddigon gwirion i amau dyfalbarhad y ferch o Dal-y-sarn.

Do, mi gollodd Betty ei sedd ar Gyngor Gwynedd i wrthwynebydd o Blaid Cymru ond yna cafodd ei hethol yn AS Conwy yn 1997, a chadw'r sedd hyd 2010. Ond er mai 1997 oedd dyddiad ei hethol am y tro cyntaf, mae ei theyrngarwch i'r Blaid Lafur yn ymestyn ymhell cyn hynny, ac mae Betty Williams, fel sy'n amlwg yn y gyfrol hwylus hon, yn gwrthod cael ei labelu fel un o'r Blair Babes; prawf o hynny yw iddi bleidleisio ar adegau yn erbyn ei phlaid ei hun.

Ond - ac mae hyn hefyd yn bwysig - elfen arall sy'n dod yn amlwg wrth ddarllen y gyfrol yw fod Llafur ym mr esgyrn y ferch o Dal-y-sarn.

Wrth gwrs, o gofio ei chefndir, byddai'n rhyfeddod iddi fod fel arall, a hithau wedi'i gwreiddio mor ddwfn yn ardal y chwareli a'i thad a'i thaid yn gweithio yn y diwydiant llechi.

Mae teyrngarwch yn air allweddol iddi wrth gydnabod ei dyled i'r llywodraethau Llafur. Fe'm ganwyd yn 1944 cyn y gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Roedd fy rhieni yn talu un swllt ar bymtheg am frechiad - tipyn go lew o dolc yng nghyflog prin y chwarelwr, meddai. Dechreuodd weithio dros Lafur yn gynnar wedi gadael yr ysgol. O fewn dwy flynedd i'r diwrnod y croesais Stryd y Castell yng Nghaernarfon ... roeddwn wedi ffurfio cangen sosialwyr ifanc gref iawn yn yr etholaeth, meddai.

Gwnaeth Betty ddiwrnod da o waith fel aelod o Gyngor Dosbarth Arfon ac yna ar Gyngor Sir Gwynedd lle roedd ar delerau personol da ag arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Orwig. Byddai wedi bod yn hynod ddiddorol darllen rhywfaint o hanes yr ymrafael rhwng y ddwy blaid yn y cyfnod wedi i Dafydd Wigley ddisodli Llafur yn Arfon yn etholiad seneddol 1974. Wedi'r cyfan, mae Betty o'r genhedlaeth Lafur honno sy'n casu Plaid Cymru chas perffaith.

Fel gwleidydd, ei buddugoliaeth fawr, bersonol, hi oedd cipio Conwy. Bu Conwy yn sedd Geidwadol er 1970 ac mae'r ffaith i Mrs Williams ei chipio, a'i chadw, yn bluen yn ei chap.

Gydol ei chyfnod yn y Senedd bu ar y meinciau cefn ac un o'r pethau mwyaf trawiadol am y gyfrol hon yw iddi fod yn fodlon iawn ei byd yno. Erbyn hyn, mae gwleidyddion o'r fath yn adar prin iawn, yn fodlon bod yno nid er mwyn uchelgais bersonol ond er mwyn gwneud diwrnod o waith ar ran etholwyr.

Bu'r brentisiaeth wleidyddol yn un ddifyr: llywodraeth leol yn fagwrfa gan gychwyn mewn cyfnod pan oedd y Blaid Lafur yn dal yn rym nerthol mewn cymaint o'r Gymru Gymraeg; dechrau ar Gyngor Gwyrfai a hynny yn y dyddiau pan oedd yr unigryw R. H. Owen, Robin Pengwaith, yn rheoli, gan roi'r cyfle i Betty ddysgu wrth draed y Gamaliel o Lanberis. Ymlaen wedyn i fod yn aelod o Gyngor Arfon a hen Gyngor Sir Gwynedd. Ar lefel llywodraeth leol, roeddwn wedi mynd cyn uched ag y gallwn i gynrychioli pobol, meddai Betty mewn brawddeg sy'n dweud cyfrolau.

Maer hanesion a geir yn y gyfrol hon yn ddifyr iawn yn sicr, nid yw'n gyfrol i'r sawl syn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth yn unig.

John Stevenson

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Tyddyn bychan ar dir Chwarel Dorothea oedd Pen Bryn ac yn y chwarel y gweithiai ei thad, fel ei dad yntau o'i flaen. Er gwaethaf caledi'r cyfnod a'r crafu byw o Dl Mawr i Dl Mawr, cafodd fagwraeth gyfoethog ar lawer cyfri'. 'Roedd y capeli'n dal yn eu bri a'r gymdeithas yn fwrlwm o ddiwylliant. Yn wleidyddol, etifeddodd yr awdur sosialaeth gynhenid ei chyndeidiau ac, yn ifanc iawn, ymroes i weithgarwch y Blaid Lafur yn Etholaeth Arfon gan ddringo o Gyngor Plwyf Llanllyfni i Gyngor Gwyrfai (Arfon wedyn) a Chyngor Sir Gwynedd nes cyrraedd San Steffan ym 1997 fel Aelod Seneddol Etholaeth Conwy.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Hyn o Fyd
Kate Roberts
£6.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Gwyrddach - Camau Bach at ...
Mari Elin Jones
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Jeweller, The
Caryl Lewis
£8.99
 
Prynwch
Plant
Grace Ella: Witch Camp
Sharon Marie Jones
£5.99
 
Prynwch