Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Dwys a'r Digri, Y – Cerddi Dai Rees DaviesDai Rees Davies Gweld rhagor o deitlau gan 'Dai Rees Davies'
ISBN: 9781906396008 (1906396000)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2007
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 92 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.00 
Dwys a'r Digri, Y – Cerddi Dai Rees Davies
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o gerddi Dai Rees Davies, brodor o Rydlewis ac un o feirdd Tan-y-groes. Ceir yma amrywiaeth o gerddi caeth a rhydd, y dwys a'r digri, o'r emyn i'r limrig.

A volume of poetry by Dai Rees Davies from Rhydlewis, a member of the Tan-y-groes team in 'Talwrn y Beirdd' competitions. Includes poems on varied subjects, from the profound to the lighthearted, in both strict and free metres.
Mae agor cloriau'r gyfrol hon o gerddi gan Dai Rees Davies fel agor blwch sy'n llawn pob math o bethau o bob lliw a llun a gwerth. Adlewyrchir yr amrywiaeth ryfeddol yn y teitl, Y Dwys a'r Digri. Ceir gwaith a gynhyrchwyd dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy yma ac mae'r ystod amser yn cael ei adlewyrchu yn yr ystod eang o fynegiant a ffurfiau, a'r teimladau a’r profiadau y mae'r bardd yn eu rhannu. Mewn cyfrol o gerddi gan un bardd, mae hyn yn bleser pur gan fod y darllenydd yn dod o hyd i rywbeth newydd yn gyson i'w ddiddanu a gwneud iddo feddwl a chwerthin.

Cynrychiolir traddodiadau gorau'r bardd gwlad yn gryf yn y casgliad gyda nifer dda o gerddi cyhoeddus sy'n clymu'r bardd yn agos iawn at ei filltir sgwâr, sef Rhydlewis yn ne Ceredigion. Ond nid rhywbeth sy'n llesteirio'r bardd na gwneud ei waith yn gyfyng ei apêl yw hyn. Yn hytrach, y mae'n rhoi iddo'r weledigaeth a'r cyd-destun sy'n ei alluogi i ganu cerddi sy'n ymestyn ymhell tu hwnt i'w ffiniau daearyddol. Yn ogystal â cherddi cyhoeddus ar gyfer trigolion ei ardal ceir nifer go dda o gerddi buddugol mewn gwahanol eisteddfodau a chystadlaethau eraill, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn cyfrol o'r fath.

Efallai taw'r mwyaf llwyddiannus a boddhaus i'w darllen o'r cerddi buddugol hyn yw'r penillion byr sych-ddigri sy'n britho'r casgliad. Dyma fara menyn yr ymryson a'r talwrn ac mae Dai Rees Davies yn feistr. Yn nwylo eraill, mae'n bosib i gerddi o'r fath fod yn ystrydebol, ond hyd yn oed wrth droedio'r llwybrau adnabyddus hynny sy'n arwain o'r tŷ bach i'r capel ac yn ôl mae rhyw wreiddioldeb yn ei waith. Dyma ei feddargraff i'r pregethwr cynorthwyol:

Fe lenwaist fwlch yn Rama,
Caersalem a Moreia,
Ond erbyn heddiw yr wyt ti
Yn llenwi bwlch fan yma.

Ond mae agwedd arall i'w waith. Efallai y bydd yn dipyn o syndod i rai, yn ddarganfyddiad i eraill, fod ochr ddwys i Dai Rees Davies a bod honno'n cael ei harddangos yma. Mae nifer o'r cerddi yma yn emynau a gyfansoddwyd ar gyfer gwahanol achlysuron. Fel y gellid disgwyl, dyma pryd mae'r cerddi yn mynd yn fwy personol eu naws, fel yn 'Gofyn cymwynas', lle mae'r bardd yn erfyn ar i feddyg ei ryddhau o'i boen:

Rho im barch, daw grym o big
Nodwydd mewn llaw garedig.

Un pwnc sy'n gefndir i lawer o'r cerddi trwy'r gyfrol yw'r newid cymdeithasol a welwyd ym milltir sgwâr y bardd sydd wedi arwain at newid iaith, diwylliant a dirywiad Cristnogaeth gyfundrefnol. Wrth ymateb i hyn, mae'r bardd yn defnyddio ei holl arfogaeth – hiwmor a dwyster yn gymesur – i roi mynegiant i'w deimladau cryfion.

Dyma gyfrol y mae'n bosib, oherwydd ei hamrywiaeth, ei chodi dro ar ôl tro a dod o hyd i rywbeth newydd a gwahanol ynddi. Ar y llaw arall, gellid neilltuo ysbaid o amser i fyfyrio ar yr hiwmor sy'n dwyllodrus o ddifrifol.

Lyn Lewis Dafis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Dai Rees Davies yn dal i fyw yn ei ardal enedigol yn Rhydlewis yng ngodre Ceredigion. Ymddeolodd yn 2004 ar ôl gweithio am dros ddeng mlynedd ar hugain yn y diwydiant olew. Roedd ganddo ddiddordeb mewn barddoniaeth pan oedd yn yr ysgol, ac ar ôl ennill gwobrau mewn mân eisteddfodau, fe gafodd yr ysfa i gystadlu. Dysgodd y cynganeddion yn nosbarthiadau'r Prifardd T. Llew Jones, ac yn diweddarach bu'n dilyn dosbarthiadau\'r diweddar Roy Stephens, a'r Prifardd Dic Jones.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae wedi ennill ar y Delyneg, ar Gyfres o Dribannau, ar Gasgliad o Limrigau ac ar yr Englyn Ysgafn fwy nag unwaith. Mae'n un o'r criw llenyddol sy'n cyfarfod yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes. Ymhlith y gwobrau a enillodd mae cadeiriau Gwyl Fawr Aberteifi, Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbed, ac Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid.
Gwybodaeth Bellach:
Yn y gyfrol hon cawn ein tywys o'r dwys i'r digri, o'r emyn i'r englyn ysgafn, o ddifrifwch y cywydd coffa i ffwlbri'r limrig, a llawer o'r cynnyrch yn ffrwyth cystadlu eisteddfodol.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Llyfr y Mis
Cymraeg
Argraff Gyntaf, Yr
Ifan Morgan Jones
£7.95
 
Prynwch
Saesneg
Not Quite White
Simon Thirsk
£9.99
 
Prynwch