|
|
EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Cyfres Llyfrynnau Barddas: Englynion Barddas - 3 |
| ISBN: 9781906396077 (1906396078) |
Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2008
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe |
| Golygwyd gan Elwyn Edwards |
| Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 84 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£5.00
|
|
Dyma'r drydedd gyfrol o englynion i ymddangos yng Nghyfres Llyfrynnau Barddas. Ceir ynddi dros dri chant o englynion a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y cylchgrawn Barddas, a hynny gan groestoriad eang o feirdd.
The third volume in the Llyfrynnau Barddas series. It comprises over three hundred englynion stanzas by various poets, published originally in the Barddas magazine.
|
|
Mae’r ffaith fod y gynghanedd nid yn unig wedi goroesi ond wedi datblygu yn ystod cyfnod dirywiad yr iaith Gymraeg ar draws rhannau helaeth o’i thiriogaeth yn wyrth ac yn rhyfeddod. Ac mae diddordeb a gallu cenhedlaeth newydd o feirdd ifanc yn ei chywreinrwydd a’i hegni yn profi ei gwytnwch. Ond mae gan y gynghanedd ei mannau gwan hefyd, er na fyddai fiw i mi ddeud hynny ar dudalennau Barddas! Hen wendid mewn englyn yw bod yn ddisgrifiadol a di-ddelwedd. A chanfod y ddelwedd yn aml iawn yw achubiaeth yr englyn. Un o’r meistri a wnâi hynny oedd T. Arfon Williams:
‘Ein Priodas’
(ar ôl 25 mlynedd)
Hen yw, ond afon yw hi o gariad
Agored heb wyrni
Yn ei llwybr, ac yn ei lli
Mae deuddyn yn ymdoddi.
Mae rhaglenni fel y Talwrn ar y radio a’r ymryson a’r cystadlaethau englyn y dydd yn yr Eisteddfod wedi rhoi hwb newydd i’r englyn fel cyfrwng, ac mae’r gyfrol hon yn cynnwys gwaith Prifeirdd o fri fel Meirion MacIntyre Huws a Donald Evans, yn ogystal â gwaith beirdd llai amlwg fel D. E. Williams a J. Arnold Jones. A dyna ryfeddod yr englyn erioed, ei bod yn arf yn nwylo’r gwir grefftwr ond hefyd yn gyfrwng llawenydd a doniolwch a difrifoldeb ar dafod gwerin gwlad. Dyma englyn John Glyn Jones i Edwina Currie:
Nid â phleser ’gwna’r werin – ei chofio;
Ni chafodd ei meithrin
Erioed fel iâr gyffredin –
Areithia hon drwy ei thin!
Mae yma englynion gan feirdd hen a newydd, rhai amserol a thymhorol, llawer yn coffáu neu yn dathlu, yn nhraddodiad barddoniaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd; ac mae ystod y themâu a’r testunau yn dangos pŵer parhaol yr englyn fel mesur. O ryfeddodau byd natur i lecynnau arbennig yng Nghymru a thu hwnt mae’r beirdd mewn pedair llinell yn ‘gweld llais a chlywed llun’. Fel y soniais, mae yma enghreifftiau o’r englyn fel mesur digon treuliedig, yn defnyddio geiriau a welodd ddyddiau gwell fel ‘gloes’ a ‘pilyn’ a ‘thrylen’, ac ychydig o frychau argraffu, ond fel cyfanwaith dyma dystiolaeth gyfoes a chyfoethog o barhad yr englyn fel ffurf boblogaidd a hyblyg yn ein diwylliant o hyd. Fel y dywed Robin Llwyd ab Owain ei hun yn ei englyn i’r Gynghanedd:
Ei phlant cyfoes ac oesol – a enir
Ohoni’n dragwyddol
Fel dail hen dderwen y ddôl
A hi’n ifanc hynafol.
Iwan Llwyd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Dyma'r drydedd gyfrol o englynion i ymddangos yng Nghyfres Llyfrynnau Barddas. Ceir ynddi dros dri chant o englynion a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y cylchgrawn Barddas, a hynny gan groestoriad eang o feirdd.
Dysgwr
Mewn gardd a fu yn harddach – a'i lliwiau Yn llawer tanbeitiach, Y mae rhosynnau mwyach Yn bywhau y border bach.
Idris Reynolds
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|
|