Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Llyfr Glas Eurig
Awdur: Eurig Salisbury
Gweld rhagor o deitlau gan 'Eurig Salisbury'
ISBN: 9781906396091 (1906396094)
Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2008
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe
Fformat: Clawr Meddal, 210x136 mm, 120 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Llyfr Glas Eurig
Ein Pris: £6.00 
Casgliad cyntaf o gerddi gan Eurig Salisbury, prifardd cadeiriol Urdd Gobaith Cymru, ac aelod o dîm y Glêr ar Dalwrn y Beirdd. Cyfansoddwyd y cerddi sy'n y gyfrol hon rhwng 1997 a 2008, sy'n rhoi cipolwg diddorol ar fywyd bardd ifanc yng Nghymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.

A debut collection of poems by Eurig Salisbury, a young poet from Llangynog, Carmarthenshire. These poems were written between 1997 and 2008, and together they portray the diverse life of a young poet in Wales in the twenty-first century.
Byddai’n amhosib i unrhyw un sydd â’r rhithyn lleiaf o ddiddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg beidio â bod yn ymwybodol o ddawn ac addewid y bardd ifanc hwn, hyd yn oed cyn iddo fynd ati i gyhoeddi’r gyfrol hon. A dyna fi yn troedio tir ystrydebol ‘y bardd ifanc’ unwaith eto, ond mae cyfiawnhad dros wneud hynny yn yr achos hwn.

Yr hyn sy’n taro rhywun gyntaf yw ei ddawn aruthrol fel cynganeddwr. Dawn, a mwynhad pur yn ymarfer ei ddawn. Mae’n barod, yn wir mae’n awyddus i arbrofi â’r llinell fel uned, ac i arbrofi â’r mesurau hefyd – mae ei hoffter o oferu brawddegau ac ystyr rhwng penillion a mesurau gwahanol yn aml yn rhoi i ni sain anghyfarwydd sy’n ogleisiol o ddieithr a newydd. Gwelir hyn yn fwyaf arbennig yn ei awdlau.

Wn i ddim sawl cerdd mae’r bardd wedi eu cyfansoddi i gyd, ond bu’n hael iawn â’i ddarllenwyr gan roi i ni gyfrol sylweddol ei maint (120 tudalen). Os ydi Eurig Salisbury yn meddwi ar eiriau, mae meddwi yn fan cychwyn i nifer o gerddi’r gyfrol hefyd. Cerddi person ifanc, a phrofiadau’r ifanc yw llawer o’r cynnwys. A does dim pall ar y cwrw na’r afiaith! Ond nid oes neb all ganu fel hyn yn ei gwrw; mae’r bardd hwn ormod o ddifri i lithro felly.

Ond ni ddylai neb gael camargraff am gynnwys y gyfrol chwaith; oes mae yna nifer o gerddi am lymeitian a mwynhau yma, ond mae yna ystod eang o destunau a themâu yma hefyd. Mae yma nifer o gerddi cyfarch, cywyddau gan mwyaf, sy’n ffitio’n daclus a hapus iawn yn y traddodiad. Mae nifer yn canmol, rhai’n cofio, ac eraill fel ‘Ar Ymddeoliad Is-Ganghellor’ yn fentrus gicio yn erbyn y tresi! Ar adegau eraill mae’n gallu canu’n addfwyn iawn. Y gwahanol gyweiriau hyn yw un o gryfderau mawr y gyfrol.

O sôn am gywyddau, rwy’n credu fod y mesur hwnnw, am ryw reswm, yn gweddu’n well i’w awen nag englyn – er cystal yw’r englynion sydd yn y gyfrol.

Fe ŵyr pawb bellach i Eurig fod yn eithriadol o agos at Gadair y Genedlaethol dair gwaith yn olynol. Mae ‘Tonnau’ a ‘Ffin’ yn y gyfrol hon, ac os nad ydych chi wedi eu darllen nhw, yna mae’n werth i chi brynu’r gyfrol i wneud hynny’n unig. Efallai fod cryfder yr awdlau hyn a’r cerddi mwyaf diweddar sydd yn y gyfrol yn peri i rai o’r cerddi a ysgrifennwyd gan y bardd pan oedd yn iau ymddangos rhywfaint yn wannach, ond mae cael cip fel hyn ar ddatblygiad un o’n beirdd mwyaf disglair yn werth pob ceiniog o’r chwe phunt – sy’n fargen o bris.

Dafydd John Pritchard

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Gwybodaeth Bellach:
Credir i gerddi'r gyfrol hon gael eu hysgrifennu rhwng c. 1997 a c. 2008, a'u bod oll yn waith un bardd, sef Eurig Salisbury. Yn ôl yr ychydig wybodaeth a geir yn y cerddi ac mewn ambell fan arall fe'i ganwyd yng Nghaerdydd yn 1983 a symudodd ei deulu i Langynog ger Caerfyrddin pan oedd yn chwech oed. Dengys cofrestri Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin iddo dderbyn ei addysg yno cyn mynd i astudio gradd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth. Yn ôl y gred gyffredinol un o Dregeiriog yw ei fam a'i dad o Brestatyn, ac ategir hyn gan nifer o gyffyrddiadau gogleddol yn ei gerddi.

Daethpwyd o hyd i'w enw yn ddiweddar ar dîm Prosiect Guto'r Glyn yn y Ganolfan Uwchefrydiau yn Aberystwyth. Nodir mewn gweithred i brynu tŷ yn 2006 ei fod yn fwrdais yn y dref honno ac wedi ymgartrefu â Rhiannon, yr harddaf o ferched plwy Llanbadarn Fawr. Fe'i clywir o dro i dro yn cadw trefn ar dîm y Glêr ar Dalwrn y Beirdd ac mewn talyrnau eraill ledled y wlad, ond mae'n derbyn y rhan fwyaf o'i nawdd mewn stymp, ymrysonau a nosweithiau tafarnllyd eraill. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun yn 2006, ac mae si ar led iddo ddod yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006 a 2007.

Er bod rhai wedi dadlau mai Eirug, Eurog neu Eurgig (hyd yn oed) yw'r ffurf gywir ar ei enw, dengys teitl y gyfrol hon unwaith ac am byth, amen, mai Eurig sy'n gywir. Mae ei waith yn gyfuniad o gerddi mawl, dychan, gofyn a diolch yn ôl yr arfer, ynghyd â nifer o gerddi eraill, rhai'n ddi-chwaeth ac eraill yn fwy derbyniol, sy'n rhoi cipolwg diddorol inni ar fywyd bardd ifanc yng Nghymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.

'Dyma fardd galluog anghyffredin, un sy'n newydd ei ddweud a gwreiddiol ei drawiad, yn gywrain (a chyfrwys) ei gynghanedd ac yn finiog ei feddwl.'
Ceri Wyn Jones
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: