Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| PetrogradWiliam Owen Roberts
Gweld rhagor o deitlau gan 'Wiliam Owen Roberts' |
ISBN: 9781906396107 (1906396108)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2009
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, AbertaweFformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 544 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£11.95
| |
Sgôr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:   
|
|
|
Y gyntaf mewn trioleg o nofelau gan Wiliam Owen Roberts. Nofel wedi ei lleoli yn Rwsia ac Ewrop yw Petrograd. Mae'r stori yn dechrau yn ystod haf 1916, ac yn ymwneud â hanes dau deulu sydd yn gorfod wynebu'r newidiadau personol a gwleidyddol sydd yn gwyrdroi eu bywydau yn sgil y Chwyldro yn 1917. Ail argraffiad; cyhoeddwyd gyntaf Rhagfyr 2008.
The first novel in a trilogy by Wiliam Owen Roberts. Petrograd is located in Russia and Europe. The story begins during the summer of 1916, and concentrates on the lives of two families who have to face the personal and political changes that affect their lives in 1917. Reprinted; first published in December 2008.
|
|
Yr hyn wnaeth fy nharo i gyntaf wrth ddarllen y gwaith hwn oedd fod gan yr awdur yr hyder i fynd i'r afael â'r fath destun. Nid yw'r nofel ond y gyntaf mewn trioleg ac mae rhywbeth mwy na'r teitl, y pwnc, a'r maint (541 tudalen) sy'n eich atgoffa o'r nofelau mawr Rwsiaidd. Mae rhywun yn synhwyro y byddai Tolstoi a Dostoevsky yn gwerthfawrogi'r gamp hon.
Cawsom ein herio o'r blaen gan nofelau blaengar William Owen Roberts gyda'u dogn helaeth o Farcsiaeth ac ôl-foderniaeth. Mae hon, er hynny, yn nofel gwbwl realaidd, wrth iddi fynd i'r afael ag un o'r digwyddiadau hynny fyddai'n bwrw ei gysgod dros holl hanes yr ugeinfed ganrif, sef y Chwyldro Bolsieficaidd yn Rwsia.
Egyr y nofel yn haf 1916, ac er bod Rwsia yn ymladd am ei heinioes, digon pell, mewn gwirionedd, yw sŵn y Rhyfel Byd Cyntaf. Anfona Fyodor Mikhailovich Alexandrov ei wraig, ei deulu a rhai o'i weision a'i forynion i dreulio eu gwyliau yn y Crimea. Dyma, mewn gwirionedd, fydd yr ennyd olaf o normalrwydd yn eu bywydau. Pobl dda eu byd ydynt, yn perthyn i'r aristocratiaid ac yn gefnogol i'r Tsar. Byddwn yn dilyn hynt a helynt y teulu hwn, ac yn arbennig y bobl ifanc Alyosha a'i ddwy gyfnither, Larissa a Margarita nes daw'r nofel i ben ym Merlin yn 1924, yn fuan ar ôl marwolaeth Lenin. Dyma drindod o gymeriadau hirben sy'n llwyddo i oroesi ac addasu ar waethaf popeth a deflir atynt. Nid felly gweddill y teulu, ac yn arbennig Inessa, mam Alyosha. Hi, efallai, sy'n cynrychioli orau rialtwch yr hen drefn gyda'i ddihidrwydd a'i ddiofalwch hedonistaidd.
Gyda dyfodiad 1917, buan y try bywydau'r bobl hyn wyneb i waered. Daw chwyldroadau'r flwyddyn honno, ac i ddilyn, y Rhyfel Cartref rhwng y Cochion a'r Gwynion. Gyda'r teulu hwn, oedd yn amlwg yn rhengoedd y Gwynion, y pery diddordeb yr awdur drwy'r cyfan. Eu hymateb hwy i'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas sydd yn bwysig ac os oes arwr i'r stori o gwbwl, Alyosha yw hwnnw.
A dweud y gwir, creaduriaid ymylol ac oeraidd yw cefnogwyr y Chwyldro. Prin ein bod yn dod i adnabod yr un ohonynt yn iawn, ac ni ddangosir llawer o gydymdeimlad â hwy chwaith. Cymeriadau digon brith sydd ar yr ochor arall hefyd, ond mae gennym ddiddordeb mewn gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw. Nid yr egwyddorion a'r syniadaeth wleidyddol sydd wrth wraidd y Chwyldro sy'n bwysig chwaith, ond ei effaith ar fywydau rhai pobol yn arbennig.
Mae'r teulu yn dianc o Petrograd i Berlin. Ond yno ni wna'r alltudion ond hiraethu am eu hen gartref. Credant na fydd eu harhosiad yn yr Almaen ond yn un byr. Mae'r hen do yn ei chael hi'n anodd newid tra bod yr ifanc yn addasu ac un, o leiaf, yn cael ei ddenu at Gomiwnyddiaeth. Ond nid oes dinas barhaol ym Merlin chwaith, gyda'r banciau'n mynd i'r wal a'r Comiwnyddion yn bygwth eto. Braidd yn frysiog yw'r diwedd, ond nid yw hynny ond nam bach ar waith gorchestol.
Mae awgrym cryf ar ddiwedd y nofel hon fod y prif gymeriadau a'u bryd ar fynd i Baris. Edrychwn ymlaen at eu dilyn yno gan wylio eu hynt a'u helynt drwy rai o'r degawdau mwyaf tywyll yn holl hanes Ewrop.
Dafydd Morgan Lewis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Ganwyd Wiliam Owen Roberts ym Mangor yn 1960. Bu’n fyfyriwr ym Mhifysgol Cymru rhwng 1978-1981 gan raddio mewn Llenyddiaeth Gymraeg ac astudiaethau theatr. Aeth ymlaen iddilyn cwrs MA ar ddramau teledu, gan ganolbwyntio ar waith Dennis Potter. Rhwng 1983-4 roedd yn ysgrifennu i Cwmni Cyfri Tri, cyn iddo fynd i weithio fel Golygydd Sgript yn HTV. Mae’n awdur llawn amser ers 1989.
Caiff ei adnabod yn bennaf am ei nofelau, ond mae hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y theatr, radio a theledu. Roedd ei nofel gyntaf Bingo! (1985) yn ailweithiad o ddyddiaduron Franz Kafka. Roedd ei ail nofel Y Pla (1987) wedi ei lleoli yng Nghymru, y Dwyrain Agos ac Ewrop yn y 14eg ganrif a cafodd ei chyfieithu gan Elisabeth Roberts i’r Saesneg fel Pestilence ym 1991. Roedd Paradwys (2001) wedi ei lleoli yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America a’r chwyldro Ffrengig ac yn ymdrîn â diddymiad caethwasiaeth.
Mae Wiliam Owen Roberts ln byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’u tair merch. Gwybodaeth Bellach: Nofelydd yn Mentro i Dir Newydd
Chwyldro mawr Rwsia 1917 yw cefndir Petrograd, nofel newydd Wiliam Owen Roberts.
Ond, yn wahanol i’w nofelau hanesyddol eraill, Paradwys a'r Pla, cefnlen yn unig yw’r digwyddiadau, fel y cyfryw, yn Petrograd. Canolbwyntia’r nofel, yn hytrach, ar ei chymeriadau o uchelwyr cyfoethog, ac ar adrodd y stori o safbwynt y fyddin wen.
Dilynwn Alyosha a’i ddwy gyfnither, Margarita a Larissa, wrth i’r newid byd dychrynllyd eu taro a gweddnewid eu bywydau nhw, a’u teuluoedd, mewn modd na allent fod wedi ei rhagweld byth. Caiff y cymeriadau i gyd eu gwthio i’r pen, wrth wynebu alltudiaeth, y fyddin goch a’r Cheka, gan orfod aberthu eu gwerthoedd a’u moesoldeb er mwyn goroesi.
Meddai Wiliam Owen Roberts, “Mae hi am sut ma’ bywyda’ pobol yn gallu cael eu newid. Ma’ bywyda’ pobol i gyd yn igam-ogam, tydi, ond ma’ rhai petha’n digwydd weithia’, fatha chwyldro, sy’n wirioneddol newid ’ych bywyd chi.”
Cawn ein tynnu i mewn i fyd o foethusrwydd ariannog, lle mae modd cymryd popeth yn ganiataol, a’r dyfodol yn ymddangos mor glir a chyfforddus. Ac yna, wrth i filiynau o Rwsiaid golli pob synnwyr o realaeth y maen nhw'n gyfarwydd â hi, felly hefyd Alyosha, Margarita a Larissa, gan wynebu dyfodol du iawn mewn byd afreolus, neu alltudiaeth, neu hyd yn oed farwolaeth.
“Maen nhw’n cynrychioli pobol sy’ wedi colli; lle ma’ hanas wedi martsio heibio, felly ma’r tri yma,” esbonia’r awdur. “ Yn rhan gynta’r nofel, ’da chi’n meddwl ‘wel, maen nhw’n meddwl bod ’u bywyda’ nhw’n mynd i droi allan yn y ffordd yma’, ac yn sydyn iawn ma’ nhw’n ffendio allan bod ’u bywyda’ nhw’n digwydd mewn lle hollol wahanol. Ma’u tynged nhw, mewn ffordd, wedi ’i gwyrdroi yn llwyr.”
Mae’r awdur wedi dewis ein harwain ar hyd y llwybr ansicr hwnnw yn gwbl fwriadol, meddai, gan osgoi adrodd stori’r comiwnyddion a glynu, yn hytrach, at y stori honno nad ydym fel arfer yn ei chlywed, o bosib.
“O’n i’n benderfynol o beidio sgwennu o safbwynt y bobol ’nath ennill. Ma’n debyg mai am ’mod i’n Gymro Cymraeg; ma’ sgwennu o safbwynt y bobol sy’ ’di cael eu concro a’u hambygio mewn hanes yn llawer iawn difyrrach na’r rhai sy ’di ennill. Ac ma’ problema’ pobol felly gymaint â hynny’n waeth. Achos bo’ ni mor ddi-rym, ma’n sefyllfa ni yn cynnig mwy o botensial.”
Ac am y rheswm hwnnw, yn ôl yr awdur, y mae’r nofel hon yn sefyll allan fwyaf o’i chymharu â’i waith blaenorol. Ac yntau wedi gwneud ei farc fel awdur ôl-fodernaidd, y mae’n honni ei fod yn mentro i dir newydd y tro hwn; “Ma’ hon yn nofel realaidd, eitha’ strêt. Ma’ hynny’n beth newydd i mi. ’Nes i stwff ol-fodernaidd tua chwarter canrif yn ôl, a rŵan dwi ’di mynd at realaeth, lle ma’ pobol eraill yn dechra’ efo realaeth ac yn mynd at ôl-foderniaeth.” meddai.
Doedd hynny ddim yn beth cwbwl fwriadol, yn ôl yr awdur, ond yn hytrach yn ganlyniad i weithio mewn ffordd wahanol i’r arfer. “’Nes i gynllunio hon yn wahanol. O’r blaen dwi ’di cynllunio plot, ond dwi ’di mynd ar ôl y cymeriada’ tro ’ma, a wedyn gweithio’r stori drwy hanes eu bywyda’ nhw. Dwi’n canolbwyntio ar brofiad yr unigolyn, ac yn osgoi y dimensiwn mawr. ’Dach chi’n gweld digwyddiad cataclysmig fel y chwyldro, ond ma’n digwydd oddi ar y llwyfan, fel petai, a ’dach chi’n gweld’i effaith o ar grŵp o gymeriada’.”
Mae’n bur amlwg fod diddordeb Wiliam Owen Roberts yn Rwsia a’i hanes dyrys yn rhywbeth sydd gydag o ers blynyddoedd lawer. Bu’n astudio Chekov a Gorky yn y coleg, ac mae wedi ei drwytho ei hun yng ngwaith Dostoyevsky. Ar ben hynny, bu’n ymddiddori mewn syniadaeth Farcsaidd erioed, ac mae wedi teithio llawer yn nwyrain Ewrop. “Ma’ gen i ddiddordeb yn y rhan yna o’r byd, ac ma’ di tyfu. O’n i jyst isho mynd i’r afael â’r maes, gan fod Rwsia wedi bod trwy hynna i gyd...”
Er ei bod wedi’i lleoli filltiroedd i ffwrdd, mewn gorffennol pell, thema amserol iawn sydd i Petrograd. “Ma’ ’na gymaint o bobol yn croesi ffinia’ yn y byd – pobol yn peryglu’u bywyda; ma’ alltudiaeth yn thema oesol," meddai’r awdur. Ac o un i un, gwelwn effaith yr alltudiaeth honno o’u hannwyl Rwsia ar gymeriadau’r nofel.
“Ma’ ’na gyfeiriada’ drwyddi draw at alltudiaeth, a be’ ma’ alltudiaeth yn ’neud i bobl pan ma’ nhw’n gorfod codi ’u pacia’ a mynd, a sut mae dygymod â hynna.” |
|
|
|
Diweddarwyd ar 16 Mehefin 2009
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
"Byddai nofel ardderchog fel hon ar ei hennill petai'n cynnwys siart achau a map i gynorthwyo'r darllenydd. Dwi'n hoffi rhai o'r syniadau athronyddol ond yn teimlo bod llawer gormod o gymeriadau ynddi."
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|