Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod TjiocletGwyn Thomas
Gweld rhagor o deitlau gan 'Gwyn Thomas' |
ISBN: 9781906396275 (1906396272)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2010
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, AbertaweFformat: Clawr Meddal
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£6.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Yn y casgliad hwn o gerddi gan Gwyn Thomas, ac yntau bellach yn daid, mae'r bardd yn ymwybodol iawn o 'olwyn bodolaeth' a thema amlwg yn y gyfrol hon yw treigl amser. Yng nghanol 'murmuron tragwyddoldeb' mae yna sŵn a chwerthin plant. Ac yng nghanol y dwys, y doniol a'r direidus, fe geir dychan crafog am ein byd cyfoes, ein 'cwningod tjioclet', a'n hen, hen ddrygioni.
In this collection of poetry, Professor Gwyn Thomas looks at the passage of time. Amidst the reflection on eternity though, there is noise and laughter of children. And throughout the profound, the witty and mischievous, we a lot of satire about our modern world, our chocolate rabbits, and our old wrongdoings.
|
|
Rydw i wedi cael profiad rhyfeddol. Profiad hollol wahanol i unrhyw brofiad a gefais i erioed o’r blaen wrth ddarllen barddoniaeth. Mae un o gerddi’r gyfrol hon yn ymwneud â gorchestion Lightning McQueen: “fo yw’r cyflymaf/ Ac, at hynny, y medrusaf/ O’r holl geir rasio sydd yna/ Yn Unol Daleithiau America”. Er mwyn dod i wybod rhagor am y rhyfeddod hwn, gŵglais yr enw. Canfyddais mai Lightning McQueen yw un o arwyr pennaf Cars, ffilm animeiddiedig o stiwdio gyfrifiadurol Disney-Pixar. Ond nid dyna’r unig beth a ganfyddais. O, na! Dilynais ddolen gysylltiol, ac o fewn dim o dro roeddwn i’n gyrru’r rhagddywedig Lightning McQueen, car rasio coch cerdd Gwyn Thomas, mewn gêm fideo ar-lein gan gystadlu yn erbyn Strip `The King’ Weathers, Chick Hicks, Boost a Snot Rod.
Go brin y byddai darllen cerdd o waith unrhyw fardd arall wedi fy nhywys ar hyd llwybr – neu’n hytrach, gwrs rasio rhithwir – mor annisgwyl a phleserus. Ond mae’n gwbl briodol mai cyfeiriad mewn cerdd gan Gwyn Thomas, yn anad neb arall, a alluogodd hynny i ddigwydd. Gwyn Thomas, ysgolhaig a’r trwythodd ei hun yn chwedloniaeth a hanes y gwareiddiad Cymraeg ar draws y canrifoedd, yw’r parotaf o’n holl feirdd i gydnabod swyn a chyfaredd y ffilm a’r sinema. Dyma, fel y cofiwn, fathwr a hyrwyddwr ‘llunyddiaeth’.
Ef hefyd, ers ymddangosiad ei bedwaredd gyfrol o gerddi Enw’r Gair ym 1972, yw’r bardd sydd wedi rhoi inni rai o gerddi plant mwyaf gogoneddus yr iaith. Nid darnau adrodd/llefaru ar gyfer eisteddfodau yw cerddi plant Gwyn Thomas. Cerddi yw'r rhain sy’n mynd â ni i fyd plant, gan gonsurio eu syndod a’u rhyfeddod at y byd o’u cwmpas ac at ddirgelion a gogoniannau iaith. Ymateb oedd o ar y cychwyn i’w blant ei hun a’u cyfoedion. Yn y gyfrol hon ymateb mae o i’w wyrion. Mae’r tad heddiw’n daid. Ond mae’r cerddi yr un mor gyfareddol. A pheryglus! Gocheler. Mae ‘Crocodeil Afon Menai’ a gyhoeddwyd gyntaf yng nghyfrol 1972 wedi ailymddangos yn y gyfrol hon.
Nid am blant yn unig y mae o’n canu, wrth reswm. Mae o’n coffáu Wil Sam a Kyffin Williams a Ray Gravell, yn dathlu bydoedd Meredydd Evans a Phyllis Kinney, ac yn ein cystwyo am ymdrybaeddu yn ein colledion, o Gatraeth i’r Gymraeg ei hun. Ar sawl ystyr, mae pori eto yng ngwaith Gwyn Thomas wedi peri i’r darllenydd hwn sylweddoli pa mor fyfïol yw cynifer o feirdd eraill a pha mor gul yw eu syniadaeth a’u gweledigaeth.
Vaughan Hughes
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|