Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Yn l i'r Dref Wen - Golwg ar Ganu Heledd a Chanu Llywarch Hen
Myrddin ap Dafydd
ISBN: 9781906396848 (1906396841)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2015
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 186x142 mm, 200 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £10.95 
Sgr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Golwg newydd ar gefndir a dylanwad y canu englynol cynnar sydd wedi'i wreiddio yn yr Hen Bowys, a phwysigrwydd y canu hwn i genedl y Cymry.

A new insight into the background and influence of the early Welsh saga poetry, its roots in the Old Powys, and its importance to the Welsh nation.
Mae hon yn gyfrol sy'n eich gwahodd eich temtio, yn wir i'w chodi a'i bodio. Daw'r demtasiwn hon nid oherwydd ei bod yn gyfrol fawr, hardd a drud yr olwg. Cyfrol fechan ydyw, ond mae ei diwyg, ei rhwymiad a hyd yn oed natur y papur yn ddeniadol. Cyfrol am ein barddoniaeth hynaf fel cenedl sydd yma, sef Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen, ac y mae hynny hefyd yn ychwanegu at ei hapl. Mewn rhagair difyr a hynod ddarllenadwy mae Myrddin ap Dafydd yn nodi nad oes ganddo gymhwyster penodol i drafod y maes hwn heblaw am ei gariad at 'gerdd dafod, cariad at ddarllen mapiau a hoffter o wneud jig-sos, a dwi ddim yn amau nad yw cariad at genedl a phryder gwirioneddol am ei pharhad yn gymhwyster arall y gellid ei ychwanegu. Mae'r cymhwyster hwnnw'n amlwg iawn drwy'r gyfrol ar ei hyd.

Mae'r rhagair yn crynhoi'r cymwysterau y mae Myrddin yn eu rhestru, oherwydd y mae'r awdur yn disgrifio'i hun yn chwilio am le o'r enw Rhodwydd Forlas y mae cyfeiriad ato yng Nghanu Llywarch Hen. Dilyna nant o'r enw Morlas i'r dwyrain o afon Ceiriog, gan sefyll yng nghanol y rhyd ar y nant honno, man lle y cred y bu Llywarch Hen yn sefyll arno, a'r fan lle lladdwyd Gwn ei fab wrth iddo amddiffyn y ffin. Mae'n fan emosiynol a dirdynnol, ac mae'r emosiwn hwnnw wedi'i gostrelu yng ngeiriau'r rhagair ac mae i'w deimlo drwy weddill y gyfrol.

Profiad digon rhyfedd oedd darllen y gyfrol yma wrth deithio ar y trn o Aberystwyth tuag at Amwythig, a theithio drwy'r union fannau y cyfeirir atynt, mannau y brwydro mawr a'r gwarchod ffiniau. Ond prin iawn oedd y Gymraeg ar y trn y bore hwnnw; nid brwydr a ddaeth i ben yw hon, ac y mae Myrddin ap Dafydd yn gwreiddio bwriad y gyfrol yn yr ymdrech gyfoes i gadw'r ffin a diogelu dyfodol y Cymry fel pobl. Cyfrol ydyw am rym a gallu llenyddiaeth, yn farddoniaeth a rhyddiaith, i danio pobl a'u galluogi i ddal eu tir yn wyneb pob math o fygythiad.

Wrth chwilio am leoliadau ac astudio mapiau ochr yn ochr 'r englynion mae'r awdur yn diogelu'r mythau cenedlaetholgar, mae'n eu hailadrodd, ac yn eu cymhwyso ar gyfer heddiw, gan obeithio tanio'r ysbryd a'u hysbrydolodd unwaith eto. Llwyddodd Myrddin ap Dafydd i glymu'i wybodaeth am gerdd dafod, ei hoffter o fapiau a'i ysfa i blethu cliwiau ynghyd er mwyn ein hatgoffa bod gwlad ac iaith yn drysorau y mae'n werth aberthu er mwyn eu diogelu. Dyma gyfrol gynnes a heriol sydd yn bleser i'w bodio ac yn ddarllen rhwydd.

John Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Tabl Cynnwys:
Rhagymadrodd
Heno, yn Neuadd Pantycelyn
Gwerth halen
Teyrnasoedd y Brythoniaid dan warchae
Barddoniaeth a chyfarwyddyd
Llywarch Hen a Gwn
Cn Heledd
Collir bobl, colli bro
Yr hen wraig grwydrol
Englynion or hen ganiad
Wrth feddwl am fy Nghymru
Y Marauding Welsh a Morlas
Bywgraffiad Awdur:
Maer Prifardd ar golygydd Myrddin ap Dafydd yn awdur toreithiog i blant ac oedolion ac yn storwr heb ei ail. Dymar gyfrol gyntaf iddo ei chyhoeddi gyda Chyhoeddiadau Barddas.
Gwybodaeth Bellach:
Yn y gyfrol ddifyr hon maer awdur yn cyflwyno englynion Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen o'r 9fed ganrif i gynulleidfa newydd. Ceir trafodaeth ar gefndir hanesyddol a chyd-destun y cerddi o fewn y traddodiad barddol ac ar elfennau thematig yr englynion, sydd gyda'r canu cynnar mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern: Canu Llywarch Hen - yr hen ryfelwr syn galaru am farwolaeth ei feibion ar faes y gad, ac syn myfyrio ar ei unigrwydd yn ei henaint, a Chanu Heledd, hithau, yr unig brif gymeriad o ferch ymhlith yr englynion cynnar hyn, syn galaru am golli teulu a chollii gwlad ir Saeson. Mae'r gyfrol hefyd yn edrych ar leoliadau daearyddol syn gysylltiedig r cerddi yn yr Hen Bowys, ac yn nalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, ac yn sn am ddylanwad y cerddi ar ein diwylliant ac yn benodol eu dylanwad ar feirdd megis Gerallt Lloyd Owen, ac artistiaid megis y canwr - Tecwyn Ifan.

Cynhwysir yn y gyfrol destun gwreiddiol chwe cherdd y diweddarwyd eu horgraff a chyflwynir yn ogystal ddiweddariad o'r cerddi hynny gan Gwyn Thomas.

Beth oedd y rheswm dros greur englynion yng nghymeriad pendefigion hanesyddol ddau can mlynedd ar l eu cyfnod? Beth oedd yn digwydd yng Nghymru tua 850 oedd yn galw am ddod stori teuluoedd cyfnod colledus 600-650 yn l i gof gwlad? Ac yna pam fod y cymeriadau hyn ar englynion amdanynt wedi dychwelyd i fod rhan amlwg yn niwylliant ein gwlad dros fil o flynyddoedd ar l iddynt gael eu cyfansoddi? Mae cyfeiriadau at Lywarch a Heledd, Neuadd Cynddylan ar Dref Wen yn britho llawer o gywyddau, englynion a chaneuon eraill yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif. Beth oedd arwyddocd eu creu yn y lle cyntaf a beth sydd mor berthnasol i ni heddiw mewn cymeriadau a delweddau o farddoniaeth mor hynafol? (Rhagymadrodd, Myrddin ap Dafydd)
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Rhoddodd Hywel Jones o Caerdydd i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Mwynheais y llyfr yma o'r dechrau i'r diwedd. Mae'n cyflwyno ein llenyddiaeth gynnar, sef Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd, drwy drafod daearyddiaeth a hanes na wyddwn i bron dim amdanynt, sef hanes y Brythoniaid a'r Cymry cynnar, yn ardal Powys a Sir Amwythig yn bennaf. Yn ogystal ag egluro cefndir y cerddi yn eu cyd-destun hanesyddol, eglurir a thrafodir sawl elfen lenyddol a geir ynddynt. Mae hynny'n dechrau gwneud i'r llyfr swnio'n sych, efallai, ond fel arall yn hollol y cefais i'r llyfr. Daeth 'r gorffennol yn fyw a dangos sut mae'r hen gerddi'n rhan fyw o'n treftadaeth o hyd. Gwerth ei ddarllen yn bendant."
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Pam Na Fu Cymru - ...
Simon Brooks
£16.99
 
Prynwch
Winllan Well - America'r ...
Eirug Davies
£14.95
 
Prynwch
Mametz
Alun Cob
£7.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Heddiw, Ddoe a Gŵyl Ddewi
 
£6.95
 
Prynwch
Saesneg
No Regrets - Welsh ...
Matthew Southcombe
£13.99
 
Prynwch
Plant
Llyfr Adar Mawr y Plant
Onwy Gower
£7.99
 
Prynwch