Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Anturiaethau Tintin: Mwg Drwg y Pharo
Hergé
ISBN: 9781906587024 (1906587027)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2008
Cyhoeddwr: Dalen, Tresaith
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Dafydd Jones.Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3 Fformat: Clawr Meddal, 295x220 mm, 62 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Ar ôl cyfarfod â'r Eifftolegydd ecsentrig, Philemon Ananaeas, mae Tintin a'i gi, Milyn, yn chwilio am feddrod y Pharo Cih-Osgh. Ond mae bedd y brenin yn cynnwys cyfrinach arswydus. Mae cliw dirgel yn arwain Tintin a Milyn i fynd benben â chiwed o smyglwyr cyffuriau, a'u taflu'n bendramwnwgl i frwydr ddeallusol yn erbyn dihiryn rhyngwladol. Addasiad o Cigars of the Pharaoh.

A chance meeting with the eccentric Egyptologist Philemon Ananaeas leads Tintin and Milyn on a search for the lost tomb of the Pharaoh Cih-Osgh. But the tomb contains a more sinister secret. A mysterious clue leads Tintin and Milyn into dangerous ground with a gang of drug smugglers, before plunging them into a battle of wits with a gangster. Adaptation of Cigars of the Pharaoh.
Gwybodaeth Bellach:
Cyhoeddwyd Tintin am y tro cynta yn Gymraeg rhwng 1978 ac 1982, ond mae addasiadau newydd Dafydd Jones wedi eu trosi o fersiynau Ffrangeg gwreiddiol yr awdur Herg o Wlad Belg. Mae Dafydd wedi bod yn ffan enfawr o Tintin ar hyd ei oes, a bellach wedi cael dros chwarter canrif i ystyried sut y gallai roi sglein pellach ar y fersiynau Cymraeg gwreiddiol.

Her enfawr wrth ddatblygu Tintin ar gyfer cynulleidfa newydd yn yr 21ain ganrif oedd sefydlu enwaur cymeriadau. Mae enwau Capten Haddock, Snowy, Calculus a Thomson & Thompson mor gyfarwydd yn eu cyd-destun Saesneg fel bod yr enwau Cymraeg angen bod cyn gryfed ag enwaur cymeriadau yn Saesneg neu Ffrangeg.

Mae Tintin a Haddock yn trosin ddigon rhwydd i Tintin a Hadog, ond bu enwaur cymeriadau eraill yn fwy o her. Ar l hir drafod, enwyd ci bach gwyn Tintin yn Milyn sef anifail bach ond enw sy hefyd yn atseinio enw gwreiddiol Herg ar y ci, sef Milou; Calculus yw Ephraim R Efflwfia term gwyddonol yw efflwfia am ffrwd o ronynnau, ond beth am y llythyren R? Mae hwn yn sefyll am Recorde, fel yn enw Robert Recorde, y gwyddonydd o Gymro a ddyfeisiodd y symbol hafal (=) ym 1557.

Ond y sialens fwya oedd enwaur ddau dditectif, sef Dupont a Dupond yn Ffrangeg, neu Thomson & Thompson yn Saesneg. Mae na hen ddigon o enwau Cymraeg syn gallu cael eu sillafu mewn dwy ffordd wahanol, ond doedd dim un or rheiny yn taro deuddeg. Felly ar l hir grafu pen, cafodd Dafydd Jones ei foment greadigol fawr, a bellach enwaur ddeuddyn hyn yw Parry-Williams a Williams-Parry, yn adleisio enwaur beirdd Syr T H Parry-Williams ai gefnder R Williams Parry.

Mae rhoi enwau in cymeriadau syn treiddio i isymwybod y diwylliant ryn nin addasu ar ei gyfer mor bwysig, medd y cyfieithydd Dafydd Jones. Er ein bod nin ymwybodol or ffaith bod Tintin yn gymeriad byd enwog, maen hanfodol bod unrhyw addasiad yn ddigon cyfrwys fel bod y gynulleidfa yn gallu uniaethu r cymeriadau heb fod jc neu gyfeiriad clyfar ar gyfyl y lle.

Mae cyhoeddi Tintin yn Gymraeg unwaith eto yn achlysur allweddol mewn llenyddiaeth boblogaidd Gymraeg. Dymar gyfres ddiweddara ir cyhoeddwyr Dalen ddod ir farchnad straeon stribed Gymraeg.

Meddai cyhoeddwr Dalen, Alun Ceri Jones Mae cynnwys Tintin yn ein catalog yn ddigwyddiad cyffrous. Dyma un or prif gyfresi straeon stribed o Ewrop y bydd pawb yn gyfarwydd hi. Rwyn sicr y bydd Tintin yn un o gonglfeini ein rhaglen gyhoeddi am sawl blwyddyn i ddod.

-------------

Mae degau o Eifftolegwyr wedi ceisio dod o hyd i feddrod coll y Pharo Cih-Osgh, ond diflannu o wyneb y ddaear bu ffawd pob un ohonyn nhw. Ar l cyfarfod 'r Eifftolegydd ecsentrig, yr Athro Philemon Ananaeas, mae Tintin a'i gi ffyddlon Milyn hefyd yn cael eu hunain yn chwilota am y feddrod cyn darganfod bod bedd y Pharo yn cynnwys cyfrinach sy'n llawer mwy arswydus na thywod a mymis. Wrth ddod o hyd i gliw dirgel ar fandyn sigr, mae Tintin a Milyn yn mynd benben chiwed o smyglwyr cyffuriau, yn mynd ar siwrne syfrdanol drwy Arabia a'r India, ac yn syrthio'n bendramwnwgl i frwydr ddeallusol yn erbyn dihiryn rhyngwladol.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llyfrau Lloerig: Pws ...
Harriet Castor
£3.50
 
Prynwch
Cyfres Cymêrs Cymru: ...
 
£5.95
 
Prynwch
Asasin
Geraint V. Jones
£7.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Gwyrddach - Camau Bach at ...
Mari Elin Jones
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Jeweller, The
Caryl Lewis
£8.99
 
Prynwch
Plant
Grace Ella: Witch Camp
Sharon Marie Jones
£5.99
 
Prynwch