Gwybodaeth Lyfryddol |
Asterix yn y Gemau Olympaidd Rene Goscinny, Albert Uderzo
|
ISBN: 9781906587277 (1906587272)Dyddiad Cyhoeddi: Awst 2012 Cyhoeddwr: Dalen
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Alun Ceri Jones.Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 287x210 mm, 48 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£6.99
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Mae Asterix a'i ffrindiau yn penderfynu newid ochr a throi'n Rufeiniaid er mwyn cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Wedi'r cyfan, gyda'r ddiod hud i'w hatgyfnerthu, sut allan nhw beidio ag ennill? Ond ar ôl cyrraedd Groeg mae gan swyddogion y gemau newyddion syfrdanol i'r garfan Gâl Rufeinig, ac mae'n rhaid i'r Galiaid feddwl am syniad arall.
Asterix and his friends change sides and become Romans just to compete in the Olympic Games after all, their magic potion is sure to help them win. But once they get to Greece, the Olympic officials gives the Gallic contingent some bad news. Time for the quick-thinking Gauls to come up with a sporting idea!
|
Gwych o beth yw cael anturiaethau Asterix a’i ffrind Obelix mewn print yn Gymraeg unwaith eto! Mae’r cyfieithiad Cymraeg hwn yn newydd, a’r gwaith celf wedi ei ddiweddaru hefyd. Yn y stori amserol hon penderfyna’r Galiaid fynd ar fordaith i wlad Groeg, i gystadlu yn y gemau Olympaidd, gyda’r ddiod hud a baratoir gan eu derwydd yn rhoi hyder a nerth anorchfygol iddynt. Caiff y ddiod ei gwahardd, ond caiff ei dwyn a’i hyfed gan y Rhufeiniaid, sydd wedyn yn ennill y ras, ond serch hyn i gyd, y Galiaid sy’n ennill y dydd. Mae yma hiwmor ar sawl lefel a fydd yn apelio at blant ac oedolion fel ei gilydd: o Obelix yn ymddwyn yn dwp drwy’r stori gan ryfeddu at dwpdra pawb arall, i enwau gwych fel Pibengarphos, Peridiflastos, Phwdanaphus, a chyfeiriadaeth ddiwylliannol fel jôcs ar draul twristiaid yng ngwlad Groeg, a rhai ieithyddol fel ‘sosban fawr - yn berwi ar y llawr’. Bron y gallwch glywed y cyfieithydd yn chwerthin.
Heather Williams
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com,, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Gwybodaeth Bellach: Wrth sylweddoli mai Rhufeiniaid ydyn nhw’n go iawn (diolch i Iwˆl Cesar) – ac felly â’r hawl i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Groegiaid – mae Galiaid pentre Asterix, fel hapus dyrfa, yn troi am wlad Groeg i chwilio am glod a bri yn y campau. Gyda’r ddiod hud yn foddion i’w hatgyfnerthu, mae’r Galiaid yn sicr o’u siawns i ennill palmwydd lu. Ond pan ddaw sôn am y ddiod hud i glyw swyddogion y Gemau Olympaidd, buan y caiff y gwynt ei dynnu o hwyliau’r Galiaid – does gan y cystadleuwyr ddim hawl i ddefnyddio cyffuriau i wella’u perffomiad. Pwy felly fydd yn cyrraedd y brig yn y Gemau? Mae angen i Asterix a’i ffrindiau fod yn gyfrwys iawn wrth sicrhau nad yw eu gwrthwynebwyr yn twyllo, ac mae gan y derwydd Gwyddoniadix rysait i helpu hynny. |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|