Gwybodaeth Lyfryddol |
Ben Bril a'r Snichod David Orme
|
ISBN: 9781908574886 (1908574887)Dyddiad Cyhoeddi: Rhagfyr 2012
Cyhoeddwr: AtebolDarluniwyd gan Peter RichardsonAddaswyd/Cyfieithwyd gan Gruffudd Antur.Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3
Fformat: Clawr Meddal, 210x160 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£4.99
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Dewch i ddilyn hynt a helynt Ben Bril, bachgen 14 oed sydd a'i fryd ar achub y byd! Mae'r Ddaear mewn perygl! Mae llongau o'r gofod ar ei ffordd i ddwyn dŵr y Ddaear! Mae'n rhaid i rywun atal y Snichod. Ydy Ben Bril yn gallu meddwl am ffordd o achub y Ddaear? Llyfr newydd lliwgar mewn arddull manga sy'n llawn darluniau gwych ac sydd wedi ei anelu at blant rhwng 7 a 14 oed.
Fourteen year-old Ben Bril is very clever, but he's interested only in science and in saving the world! The planet is in danger! A fleet of alien space ships is on a mission - to steal the Earth's water. Ben Bril must stop them. Will he use force, or can he find a clever way to save Earth? New and colourful manga style book aimed at children between 7 and 14 years old.
|
Mae cyfres Ben Bril yn ymgais i gyflwyno stori animeiddiedig i blant, ac yn y gyfres hon y mae’r comic yn cyfarfod y llyfr stori. Pan fo rhai plant yn ei chael hi’n anodd i godi llyfr a’i ddarllen, gall cyfrolau fel hyn, sydd yn llawn gwaith arlunio diddorol ysgogi darllen, ac mae cael addasydd fel Gruffudd Antur, gŵr ifanc sydd yn medru trin geiriau, yn allweddol i boblogrwydd cyfrolau fel y rhain.
Nid yw’r plot yn gymhleth, ond mae iddo strwythur cadarn. Mae’r Snichod yn ddigon hyll i godi ofn a pheri i rywun feddwl bod eu bwriadau yn rhai sinistr. Ond yn y diwedd, creaduriaid bach digon diniwed ydynt sydd yn pryderu am eu dyfodol. Mae Ben Bril yn llwyddo i’w cynorthwyo a cheir diweddglo hapus i’r stori.
Mae’r lluniau’n fywiog ac yn ddeniadol, a chymeriad Ben Bril yn un sydd yn cyfuno’r archarwr a’r hogyn diniwed, yr hogyn sy'n hoffi sglodion – ac sydd am achub y byd! Hir oes i Ben Bril a hir oes i’r Snichod ar eu planed.
John Roberts
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|