Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Diwylliant Gwerin MorgannwgAllan James View more titles by 'Allan James'
ISBN: 9781843230915 (1843230917)Publication Date October 2002
Publisher: Gwasg Gomer, Llandysul
Format: Paperback, A5, 320 pages Language: Welsh Available List Price: £12.95 
Our Price: £6.00 
You Save: £6.95 (53.7%) 
Diwylliant Gwerin Morgannwg
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A comprehensive volume comprising a fund of information about various aspects of the folk culture and traditions of Glamorganshire in social, religious, rural and industrial contexts, the rich oral tradition of literature, poetry, special customs and colebrations, together with comments on famous collectors, various dialects and vocabulary of the county.

Cyfrol gynhwysfawr yn cynnwys storfa o wybodaeth am amryfal agweddau ar hanes diwylliant gwerin Sir Forgannwg mewn cyd-destun cymdeithasol, crefyddol, amaethyddol a diwydiannol, traddodiad llafar cyfoethog, llenyddiaeth, barddoniaeth, arferion a dathliadau arbennig, ynghyd â sylwadau am gasglwyr enwog, tafodieithoedd amrywiol a geirfa ddiddorol y sir. 29 llun a 2 fap
Ond odid mai un o’r dogfennau mwyaf diddorol i’r hanesydd cymdeithasol yw’r dyddiadur a gadwodd William Thomas, yr ysgolfeistr o Lanfihangel-ar-Èlai ym Morgannwg, rhwng 1762 a 1795? Cynnwys y dyddiadur fanylion difyr am fywyd bob dydd yn nwyrain Morgannwg yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, a cheir ynddo wybodaeth am arferion y fro ar adegau fel y Nadolig a’r Calan, am ymladd ceiliogod a chyfarth teirw, am y gwylmabsantau, y taplasau haf a’r traddodiadau gwerin a fu’n gymaint rhan o fywyd Morgannwg am ganrifoedd lawer.

Ond fel yr eglura Allan James yn y gyfrol hon, yr oedd patrwm bywyd gwŷr a gwragedd yr ardaloedd hyn eisoes wedi dechrau newid erbyn diwedd oes William Thomas, a phrin y profodd yr un sir arall yng Nghymru gyfan gymaint o newidiadau ag a brofodd Morgannwg. Gyda datblygiad y diwydiannau glo a haearn yn y cymoedd, a’r twf aruthrol yn y boblogaeth a ddigwyddodd yn sgil hynny, profodd yr ardaloedd hyn nifer o newidiadau cymdeithasol. Trawsnewidiwyd economi’r sir yn llwyr, a daeth tro ar fyd hefyd yn hanes yr amaethwr wrth i ddulliau newydd o drin y tir adlewyrchu’r dechnoleg wyddonol newydd. Dyma’r cyfnod y disodlwyd yr ychen gan geffylau wrth aredig, a’r ceffylau hwythau gan dractorau mewn cyfnod diweddarach.

Gwiw inni gofio hefyd i Forgannwg brofi cyfres o ddiwygiadau crefyddol grymus iawn yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, a chafodd twf a datblygiad anghydffurfiaeth yn y sir effeithiau pellgyrhaeddol ar y bywyd a’r arferion gwerinol hynny a ystyrid yn annerbyniol yng nghymdeithas barchus oes Victoria. Dengys Allan James sut yr aeth nifer o weinidogion yr enwadau – gwŷr fel Phylip Griffiths o’r Allt-wen a William Roberts (‘Nefydd’) – ati i gondemnio arferion fel y Fari Lwyd, y pasteiod a’r cwrwau bach, yng ngholofnau’r wasg gyfnodol Gymraeg.

Bu Sir Forgannwg yn eithriadol ffodus yng nghroniclwyr ei llên-gwerin. Edward Williams (‘Iolo Morganwg’) oedd y cyntaf o’r rhain, ond fe’i dilynwyd yntau gan hynafiaethwyr a chasglwyr fel Maria Jane Williams o Aberpergwm; Thomas Christopher Evans (‘Cadrawd’), yr hynafiaethydd o Langynwyd; D. Rhys Phillips, y llyfrgellydd o Abertawe, a Lewis Davies, yr ysgolfeistr o’r Cymer, heb enwi ond yr amlycaf o’u plith. Yr hyn a welai’r hynafiaethwyr hyn oedd dirywiad ansawdd bywyd cymdeithasau gwledig Morgannwg, a hynny ar yr union adeg pan drawsnewidiwyd eu diwylliant a’u ffordd o fyw megis dros nos.

Cawn yn y gyfrol hon ddadansoddiad trylwyr o arferion a thraddodiadau gwerin Morgannwg yn ystod y cyfnod cyn-ddiwydiannol. Rhoddir sylw i’r traddodiad llafar yn ogystal, ac eglurir paham yr aeth cynifer o’r casglwyr ati i ‘lanhau’ degau o dribannau a phenillion o eiriau a ystyrid ar y pryd yn anweddus, a hynny rhag merwino clustiau sensitif parchusion oes Victoria. Gwerthfawr hefyd yw’r ymdriniaeth â’r dull a’r modd yr aeth hynafiaethwyr a chasglwyr llên-gwerin y sir ati i gofnodi a dehongli’r diwylliant hwnnw. Cafwyd nifer o astudiaethau unigol ar rai o’r casglwyr hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yr ymdriniaeth hon yw’r gyntaf i geisio cloriannu eu hamcanion hwy wrth gasglu a chofnodi, ac i bwyso a mesur eu cyfraniad i astudiaethau llên-gwerin.

Mae hon yn gyfrol gyfoethog sydd nid yn unig yn rhoi inni olwg newydd ar ddiwylliant gwerin a thraddodiadau llafar Morgannwg, ond sy’n egluro cymhellion y rheini a fu wrthi’n casglu ac yn cofnodi prif nodweddion y diwylliant hwnnw hefyd. Ceir dau atodiad i’r gyfrol; y naill yn rhestru arferion a thraddodiadau, a’r llall yn rhestru ymadroddion a phriod-ddulliau’r Wenhwyseg. Ceir llyfryddiaeth ddethol i’r gwaith yn ogystal.

Huw Walters

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Holy Wells of Wales, The
Francis Jones
£11.95
Enwau Tir a Gwlad
Melville Richards
£12.95
 
Buy Now
Ble Mae John Iorc?
Brenda Wyn Jones
£3.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now