|
Stori nage naratif tylwyth teg ein dyddiau ni ydir gwaith hwn. Fel y pwysleisiwyd gan amryw, y maen gwbwl wahanol i weithiau buddugol eraill Robin Llywelyn. Nid ffantasi sydd yma: ond go brin mai realiti sydd yma ychwaith, er bod yna elfennau cryf o hynny. Hanes un dydd Wil Chips (sillefir chips yn Saesneg yma, ond yn fwy Cymraeg mewn mannau eraill) yn Eisteddfod Meifod 2003 sydd yn y llyfr. Hogyn o ardal Blaenau Ffestiniog ydi o; tad trallodus, am fod ei wraig wedi mynd âi ddau blentyn iw chanlyn ir Alban; cyn-filwr sydd wedi gweld ymladd mewn mannau enbyd, gan gynnwys Irac. Yn yr eisteddfod y maen cyfarfod ei hen gyfaill Gwyn Bont (Gwyn ap Llwyd), deallusyn parablus; Delyth Wyn, merch o ardal Meifod; ac Alun, perchennog Dolabram, hen dŷ helaeth yn yr un ardal, ac eraill.
Y mae yma giamocs a chadw reiat digrif ar brydiau, gan gynnwys presenoldeb Wil mewn gwenwisg prifardd (Iwan Llwyd) ar lwyfan y pafiliwn; ond y mae yma, hefyd, lawer o fyfyrio dwys iawn ar faterion mawr, gan gynnwys y rhyfel yn Irac. (Mewn cromfachau yma, dylid nodi fod yna gryn dipyn o ddefnydd 'cilyddol' yn y gwaith, lle maer awdur yn dwyn ei gyfeillion ai gydnabod i mewn iddo y mae dwyn Iwan Llwyd iddo yn enghraifft o hynny.)
Y mae diwedd y llyfr yn rhagweladwy o tua deuparth y ffordd drwyddo ac yn gymysgedd o wireddu breuddwydion (yr elfen dylwyth teg) a rhywfaint o weledigaeth fusnes Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion.
Dydi Wil ddim wir yn un or 'hogia go-iawn' a gawn ni yng nghân Bryn Fôn, er bod yna elfennau or rheini ynddo fo. Yn un peth y mae safon ei iaith on rhyfeddol o goeth. Gwir fod yr awdur wedi lleoli ei brif gymeriad yn ardal Blaenau Ffestiniog, lle roedd siawns i iaith hogiau go-iawn fod yn eithaf rhywiog hyd yn ddiweddar; ond y mae iaith Wil yn mynd y tu hwnt i realaeth. Yn wir, y mae safon yr iaith, sydd yma yn ei ffurfiau llafar gogleddol gan gynnwys ambell ffurf syn or-lafar i mi, megis 'glaswallt', 'mathamatag', 'colag' yn dra choeth. Ffurfiau gogleddol, ac nid Meifodaidd, a geir hyd yn oed yng ngeneuau cymeriadau or ardal honno ar wahân i un 'Niege' cyfeiliorn. Y mae iaith y llyfr yn iaith syn seiliedig ar lawnder iaith yr awdur ei hun. Hynny ydi, y mae yma 'buro iaith y llwyth', fel y dywedodd T. S. Eliot unwaith am iaith y bardd. Yr wyf gant y cant o blaid yr egwyddor hon o roi i awdur y cyfle i ddefnyddio holl bosibiliadau ei iaith, yn lle bod yn rhaid iddo ei gau ei hun o fewn cyfyngiadau mwy llythrennol-realistig llafar beunyddiol y rhan fwyaf ohonom. Y mae Robin Llywelyn yn gwneud hyn yn ddeheuig iawn gan wneud i bethau 'swnio' yn naturiol.
At hyn, y mae Robin Llywelyn wedi creu yma Gwyn Bont, y mae ei ddiddordebau deallusol yn adlewyrchiad digon teg o ddiddordebaur awdur ei hun, fe allwn dybio. Y maer cymeriad hwn yn rhoi cyfle ir awdur draethu am bob math o wybodaethau a damcaniaethau. Ac y mae Wil ac eraill yn barod i wrando, hyd yn oed os ydi Wil ei hun yn teimlo ar ei galon y dylai brotestio, braidd yn rhy reolaidd, am yr holl draethu a ddylai fod yn drwm, ond sydd, mewn gwirionedd, yn hynod o ddifyr. (Gyda llaw, y mae Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion iw weld yma ac acw yn y gwaith, hefyd, mewn trafodaethau ar winoedd a choginio, ond y mae o wedi gweithior diddordebau hyn, yn deg iawn, i gyfansoddiad ei gymeriadau.)
Wedyn, y mae yma brofiadau Wil mewn rhyfel. Llwyddodd yr awdur i wneud y rheinin arteithiol. Y profiadau hyn ydir pethau mwyaf dwys yn y gwaith, ac y maen nhw wedi lliwio cymeriad Wil: y maen gymeriad sydd, trwy bob helynt, yn deimladwy, ac yn un y mae ei gariad at ei blant yn sylfaenol yn ei fywyd.
Y mae yna brofiad arall syn rhedeg drwyr gwaith, a hynny ydi sefyllfar Gymraeg. Yr ymdrech i gynnig ateb i ddirnir sefyllfa honno ydi un o brif ysgogiadaur gwaith, ar hyn syn dwyn y prif gymeriadau i berthynas âi gilydd. A ydyn nhwn bywn hapus am byth wedyn yn Nolabram? Wel, does ond gobeithio eu bod nhw.
Gwyn Thomas
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|