Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Return / Yn ôlRhodri Jones View more titles by 'Rhodri Jones'
ISBN: 9781854114198 (1854114190)Publication Date March 2006
Publisher: Seren, Bridgend
Format: Hardback Language: Bilingual (Welsh and English) Available Our Price: £20.00 
Return / Yn ôl
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
Born in Gwynedd into a bilingual family, Jones grew up speaking Welsh, English and German. For the past two decades he has travelled widely in Central America, Europe, Africa and the Far East, building up an astounding photographic portfolio. This volume contains a series of arresting, illuminating images incorporating fresh new vision.

Ganwyd Jones i deulu dwyieithog yng Ngwynedd, yn siarad Cymraeg, Saesneg ac Almaeneg. Ers ugain mlynedd bu'n teithio'n eang yng Nghanol America, Ewrop, Affrica a'r Dwyrain Pell, gan ffurfio portffolio gwych. Mae'r gyfrol hon yn cynnwys cyfres o ddelweddau godidog sy'n dangos gweledigaeth ffres a newydd yr arluniwr.
Dyn ifanc croenwyn yn plymio o uchder i afon ddu sydd ar glawr Return Yn Ôl, sef casgliad gwych o ffotograffau gan Rhodri Jones. I awdur sydd yn dychwelyd i Gymru wedi degawdau o fyw dramor, mae’n drosiad addas iawn o fedyddio neu ail-eni, a hefyd yn cyfleu argraff o bryder yn y gwyliwr am yr hyn sydd i’w ddisgwyl yng nghorff y llyfr. Fel y mae’r afon yn gynefin estron i ddyn, a phopeth dan y dŵr yn edrych yn anghyffredin, golwg wahanol iawn o Gymru a geir rhwng cloriau’r gyfrol hon.

Daw Rhodri Jones yn ôl i Gymru gyda’i ddoniau ffotograffig wedi’u miniogi gan flynyddoedd o arddel ei grefft i bapurau newyddion a chylchgronau’r Cyfandir. Yno, yn wahanol iawn i’r Gymru a’r Brydain gyfoes, mae bri mawr ar reportage ffotograffig.

Nid llyfr arall yn y llinach ddiweddar neis-neis o ffotograffau lliw a geir yma - y math o lyfrau sy’n gorwedd ar y bwrdd coffi nes daw’r gyfrol sgleiniog nesaf i’w disodli. Mae’r gyfrol hon yn eich arwain ar siwrne i ddarganfod y wlad hon a’i phobl â llygaid ffres, ac mae pob delwedd neu gyfuniad o ddelweddau yn fyfyrdod ar y Gymru gyfoes.

Mae’r llyfr yn perthyn i genre ffotograffiaeth ddogfennol, ac yn rhannu peth o’r un tir o ran cynnwys, hiwmor a gweledigaeth artistig o leiaf, â chyfrol David Hurn, Wales: land of my father, a phleser digamsyniol yw cael cnwd newydd o luniau o’r fath am Gymru.

Gwna Rhodri Jones ddefnydd diddorol a gogleisiol ar brydiau o gyflwyno lluniau mewn deuoedd a thrioedd, a rhaid cyfaddef ei fod wedi llwyddo yn rhagorol gyda’r dewis o luniau i’w gosod ynghyd. Ond, serch hynny, dyna fy mhrif feirniadaeth o’r gyfrol, sef bod y dechneg hon, sy’n hynod addas ar gyfer ei defnyddio mewn oriel arddangos, yn anaddas ar gyfer cyflwyno’r trioedd mewn cyfrol o’r maint hwn, gan fod y plyg canol yn amharu arnynt fel set. Yr unig feirniadaeth arall yw y gellid bod wedi rhoi gwell graen ar y disgrifiadau Cymraeg o’r lluniau, a geir yng nghefn y llyfr.

Ceir cyflwyniad dwyieithog treiddgar ar ddechrau’r gyfrol gan Gwyneth Lewis, a manylion am gymhellion Rhodri Jones yn y cefn, a difyr iawn yw’r rhain. Ond hyd yn oed heb y dehongliadau hyn, mae’r cynnwys ffotograffig yn hen ddigon cryf i gynnal y gyfrol. Hon ddylai fod yn gyfrol y flwyddyn i unrhyw un sydd yn gwerthfawrogi ffotograffiaeth ddogfennol, ac rwy’n mawr obeithio y bydd hi’n cyrraedd yr uchelfannau o ran gwerthiant a chydnabyddiaeth ‘gartre’ i ffotograffydd hynod o dalentog.

Iestyn Hughes

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now