Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Martha, Jac a Sianco (CD) (Scd2512) Caryl Lewis View more titles by 'Caryl Lewis'
Gwales Code: 8888047220Publication Date December 2005
Publisher: Cwmni Recordiau Sain, Llandwrog
Format: CD Language: Welsh Available Our Price: £13.26 
Martha, Jac a Sianco (CD) (Scd2512)
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
An audio adaptation of a powerful novel relating the story of two elderly brothers and their sister who are held captive by family circumstances and by a life of hardship on a farm in rural south-west Wales, by a talented young writer. Read by the author Caryl Lewis.

Addasiad llafar o nofel gref yn adrodd hanes dau frawd a chwaer oedrannus sy'n cael eu carcharu gan amgylchiadau teuluol, a chan galedi bywyd ar fferm yng nghefn gwlad de-orllewin Cymru, gan awdures ifanc ddawnus. Darllenir gan Caryl Lewis ei hun.
LLYFR CYMRAEG Y FLWYDDYN, 2005

Braidd yn amheus oeddwn i cyn darllen Martha, Jac a Sianco, nofel ddiweddaraf Caryl Lewis. Meddwl fy mod am ddos arall o rywbeth tebyg i’r hyn a geir yn y gyfres nofelau Tomos a Marged. Ofnwn mai’r hyn a gawn fyddai ymdrech i ddyrchafu bywyd cefn gwlad Ceredigion hanner canrif a mwy yn ôl.

Ond nid dyna sydd yma o gwbl, eithr nofel soffistigedig am ddau frawd a chwaer yn dygnu byw ar fferm y teulu yn y byd sydd ohoni heddiw. Gan nad yw Sianco ‘fel pawb arall’ mae’r gofal am y fferm yn disgyn ar ysgwyddau Jac a Martha. Maent fel pe baent wedi eu rhwymo wrth y pridd a heb fedru dianc rhagddo; yn gaeth i’r gorffennol, maent yn driw i werthoedd eu diweddar rieni, ac eto’n ddrwgdybus iawn o’i gilydd. Y cymeriad sy’n argyhoeddi leiaf yw Judy, ffansi ledi Jac. Cyw gog mewn nyth os bu un erioed. Saesnes na pherthyn iddi unrhyw rinwedd na dyfnder. Mae’n dod o’r un ysgol â’r cymeriad Paul Rushmere yn nofelau Islwyn Ffowc Elis. Trueni na pherthynai iddi beth o’r cymhlethdod sydd i’w gael yn y cymeriadau eraill.

Cyfoethogir y gwaith gan dafodiaith Ceredigion, a thrwy’r amser rydym yn ymwybodol fod yr awdur yn adnabod ei chymeriadau a’i chynefin yn dda iawn. Ambell waith ceir disgrifiadau hyfryd o fyd natur a hyd yn oed enghreifftiau prin o ddealltwriaeth rhwng y tri. Ond drwy’r cyfan mae rhywun yn ymwybodol fod rhyw dynged sinistr yn aros y teulu. Mae presenoldeb bygythiol y brain yno i’n hatgoffa o hynny.

Nofel eithafol o drist yw hon, ac er eich bod yn dyheu am ddianc rhag y diwedd anorfod, nid oes dihangfa i’w gael. Fe’ch tynnir i mewn i’w dyfnderoedd tywyll.

Yn ddiweddar yr wyf wedi darllen nifer o nofelau Cymraeg rhyfeddol o dda. Ond mae Martha, Jac a Sianco yn gwbl arbennig. Mae hi ben ac ysgwydd uwchben popeth arall a ddarllenais eleni. Llyfr y Flwyddyn heb unrhyw amheuaeth. Darllenir hi ar y CD gan yr awdures ei hun.

Dafydd Morgan Lewis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Te yn y Grug (Scd2471)
Kate Roberts
£6.12
 
Buy Now
Hoff Gerddi Cymru (Scd2488)
 
£9.79
 
Buy Now
Rhwng Noson Wen a ...
Sonia Edwards
£4.25
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now