|
A powerful novel about love and heartbreak, political clashes and corruption during the 1980s and 1990s in Wales, based on the S4C television series Llafur Cariad.
Nofel rymus am gariad a thorcalon, gwrthdaro a llwgrwobrwyo gwleidyddol yng Nghymru yn ystod yr 1980au a'r 1990au, yn seiliedig ar y gyfres deledu Llafur Cariad ar S4C.
|
|
Ymhlith yr holl arwyddion syn atgoffa dyn o dreigl amser, fe ddichon mai sylweddoli ei fod wedi byw drwy 'gyfnod' hanesyddol yw un or rhai mwyaf sobreiddiol. Maer nofel bwysig hon, syn ymdrin âr cyfnod rhwng 1979 a 1997 yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac syn gydymaith ir gyfres ddrama afaelgar or un enw a ddarlledwyd ar S4C, yn agor yn nhref Aberystwyth ar ddechraur wythdegau cyfnod pryd y bûm yn fyfyriwr ymchwil yn y dref honno a phryd y bûm innau hefyd yn ymboenin ddirfawr am fy mydolwg gwleidyddol yn sgil trallodion 1979.
Nid gwaith hawdd yw llunio ffuglen o gwmpas esgyrn digwyddiadau hanesyddol go-iawn, heb i allu rhyfeddol y cymeriadau i fod yn y man iawn ar yr adeg iawn fynd yn drech na chrediniaeth y darllenydd. Ond mae cyffyrddiad Gareth Miles yn y cyswllt hwn yn hollol feistrolgar, ac mae cydblethu ffrwyth y dychymyg ar ffeithiau hysbys ar draws y cefndir hanesyddol cyfarwydd yn digwydd yn gwbwl ddiymdrech gan argyhoeddi drwyddi draw.
Mae Gareth yn nabod ac yn caru Cymru ai phobl, ac maei bortreadau or gwahanol 'deips' gwleidyddol bob amser yn graff ac yn argyhoeddi. Er gwaethaf ambell sweipan hegar a haeddiannol tuag at yr elfennau mwyaf anghynnes yn y maes, y maer ymdriniaeth yn enwedig âr hen do bob amser yn dyner ac yn oddefgar, megis yng nghymeriad y cenedlaetholwr traddodiadol, Rheinallt Williams, neu hyd yn oed Bob Davies druan, ysgrifennydd Plaid Lafur Ardudwy a Dinmael, gan barchu diffuantrwydd eu daliadau yng ngoleuniu hoes.
Yn sicr nid cawl eildwym yn sgil y gyfres deledu sydd yma. Yn ôl ei arfer y mae arddull ogleisiol yr awdur yn peri i rywun droi tudalen yn eiddgar, hyd yn oed o wybod beth syn dod nesaf. Fy nheimlad cyffredinol oedd bod y nofel yn fwy cydlynol nar gyfres deledu, ller oedd rhywun efallain fwy ymwybodol or ymdrechion i ail-greu. Cyfrwng anniwall ywr teledu o ran traflyncu gwybodaeth weledol, a gall unrhyw adlunio hanesyddol ymddangos yn anghyflawn. Mewn nofel, gall ychydig eiriau deheuig gan yr awdur ysgogi holl rymoedd y dychymyg gan ganolbwyntio wedyn ar fynd dan groen y cymeriadau i roi gwell dealltwriaeth i ni ou cymhellion mewnol.
Mor bwysig yw cofnod or math yma mewn oes pryd y mae hanes fel pe bain llithro dros gof mor rhwydd â newid sianel deledu. Dylid annog y to iau i ddarllen y disgrifiad o Neuadd Les Trelwchwr yn anterth Streic y Glowyr. Efallai mai dymar tro olaf y gwelir bwrlwm chwyldroadol or math yma yn digwydd yn yr ardaloedd unigryw hyn.
Beth bynnag foch gwleidyddiaeth, rhaid cydnabod mair Blaid Lafur oedd plaid trwch pobl Cymru yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif; amheuthun o beth yw cael ffuglen mor fywiog yn cofnodi ei hynt ai helynt, a hynny yn y Gymraeg.
Martin Davis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|