|
Rwy in hoffi pêl-droed. Ond maen amlwg nad ydw in hoffi pêl-droed cweit cymaint â Dylan Llewelyn, sydd wedi dilyn tîm Cymru ir llefydd mwya anghysbell, diarffordd ac anghroesawgar yn enw cefnogi.
Maer gyfrol hon yn gasgliad o amrywiol hanesion, or teithiau hynny a mwy, wediu hadrodd gan ffan sy ddim yn ymddiheuro am ei mania ond yn ei gydnabod yn agored. Maer awdur yn disgrifior salwch ir dim fel clwy traed ac enaid ac maer arddull sgyrsiol-athronyddol y maen ei defnyddio i adrodd ei hanes, fel siarad â ffrind mewn tafarn, yn eich tynnu chi i fewn ir digwydd yn syth.
Cyfrol seminal Nick Hornby, Fever Pitch, ywr dylanwad amlwg. Ac yn ddiddorol ddigon, maer ddwy gyfrol yn dechrau ir cymeriadau syn adrodd y straeon gydar un gêm, sef rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ym 1971, rhwng Arsenal a Lerpwl. Arsenal yn ennill ar canlyniad yn dedfrydu Hornby i oes o ddilyn y Gunners a Llewelyn ir un dynged gyda Lerpwl. (Mae ei ddisgrifiad o Charlie George, arwr Arsenal ar y diwrnod hwnnw, pariah Lerpwl, fel llipryn hipi yn hyfryd, gyda llaw.)
Ond os oedd dyddiau boring, boring Arsenal yn artaith i Nick Hornby, yna o leia maer cyfnod diweddar yn Highbury wedi llwyddo i wellar briwiau. Ond i Dylan Llewelyn, a gweddill cefnogwyr Cymru, maer aros am ddiweddglo hapus wedi bod tipyn hirach. Mae chwaraewyr Mark Hughes yn addo pethau mawr ar hyn o bryd, ond maer awdur-gefnogwr wedi gweld digon o siomedigaethau munud-ola i wybod nad ar ddechrau ymgyrch y mae bwcior tocynnau awyren ir rowndiau terfynol er iddo fynd yn erbyn ei gyngor ei hun ambell waith, fel ym 1993 yn erbyn Rwmania, pan oedd Cymru o fewn un gic or smotyn (Paul Bodin!) i gyrraedd Cwpan y Byd yn America. (Roeddwn i yn y gêm honno hefyd, gyda llaw. Noson fy mhen-blwydd yn 17 oed oedd hi, ac roedd fy nhad, fel anrheg annisgwyl, wedi cael gafael ar ddau docyn reit ar flaen y South Upper fel yr oedd hi yn yr hen stadiwm. Ac fel cynifer o gefnogwyr eraill roeddwn i wedi gweithior gêm i mewn i dynged fool-proof personol oedd yn ei gwneud hin amhosib i Gymru fethu. Methu wnaethon nhw, wrth gwrs.)
Ac maer ffaith honno'n diffinio prif ddiddordeb y gyfrol hon, sef y felltith o orfod cefnogi tîm nad ywn llwyddo ond yn achlysurol iawn iawn. Pam? ywr cwestiwn amlwg. A pham dal i wneud yn wyneb pob siom? ymhellach. Maer ateb, rwyn amau nid fy mod i am gynnig ateb chwaith! ar yr un pryd yn hynod o syml a hefyd yn anfeidrol gymhleth. A dyma lle mae calon emosiynol y gyfrol hon, neui henaid fel y dywed yr awdur. Maer ffaith o fod yn gaeth i Gymru er gwaetha popeth yn amlwg yn cymell darlleniadau eraill, gwleidyddol er enghraifft. Mae hynnyn ddigon amlwg, ond lawn mor ddiddorol ywr ffenomen ar ei gwedd bersonol. Y syniad or hunan ac o eraill, brawdoliaeth (yn enwedig brawdoliaeth ryngwladol y byd pêl-droed), hunan-werth a pheth wmbredd o bethau mawr eraill. All that I know most surely about morality and obligations, I owe to football, chwedl Albert Camus, oedd yn gôl-geidwad eitha handi ei hun.
Ond yn rhyfedd ddigon, maer llyfr yn enghreifftior pethau hyn orau pan nad ywn mynd atin fwriadol i geisiou trafod. Mae yna lawer o bytiau o wybodaeth am wahanol lefydd a chymdeithasau a phobl, sydd yn ddiddorol iawn fel hanes trip brawychus i dlodi Bwcarest, er enghraifft ond roeddwn in teimlo weithiau nad oedden nhwn rhan naturiol o lif y sgwrs yn y llyfr. Maer rhannau gorau iw cael, yn fy marn i beth bynnag, pan fo Dylan yn adrodd hanes syml ei siom ai obaith diffuant am wellhad. A bron nad ywr peth wedyn yn magu rhyw nobility annisgwyl . . .
Maer gyfrol hon yn ateb sawl un o ofynion y bobl hynny syn crefu am lyfrau Cymraeg da a phoblogaidd. Mae hin ddarllenadwy, yn ddifyr ac yn ddoniol. Mae hin help os ydych chin hoffi pêl-droed, wrth gwrs. Ond un peth yn y cyswllt hwn: os ydych am ddenur gynulleidfa newydd, yna rhaid, rhaid i lyfrau Cymraeg edrych yn well maen ffitio ir rhan annelwig or broses a elwir marchnata ac os ywr diwydiant llyfrau Cymraeg i gael ei gymryd o ddifri fel diwydiant, yna rhaid i bob agwedd ar y cynnyrch fod yn broffesiynol. Ac nid pwynt dibwys yw hyn o gwbl, dwy ddim yn credu. Maer llyfr hwn yn llyfr y byddai llawer o bobl yn mwynhau ei darllen ac yn arbennig efallai ddarllenwyr na fyddai o angenrheidrwydd yn meddwl am ddarllen llyfrau Cymraeg fel arfer. Y trueni yw ei fod yn llyfr Cymraeg syn edrych fel, wel, llyfr Cymraeg a dyw pobl ddim yn darllen llyfrau Cymraeg.
Owen Martell
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|