| Bibliographical Information |
Pwysig! Sian Northey
|
ISBN: 9780860742128 (0860742121)Publication Date April 2005
Publisher: Gwasg Gwynedd, CaernarfonSuitable for age 12+ or Key Stage 3
Format: Paperback, 183x123 mm, 112 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£4.95
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
A story set in the future. Energy shortage means that war is being fought between the City and The Countryside; against this backdrop Rhun must find out what is special about herself...
Stori wedi'i lleoli yn y dyfodol. Oherwydd prinder ynni, y mae rhyfel ar droed rhwng y Ddinas a Chefn Gwlad; yn y sefyllfa hon y mae'n rhaid i Rhun ddarganfod beth sy'n arbennig amdani hi ei hun...
|
|
A’r stori hon â ni i’r dyfodol. Mae natur cymdeithas wedi newid ac egni wedi mynd yn brin. Mae hyn yn ei dro wedi arwain at ganoli egni yn y dinasoedd. Bu gwrthryfel yn cael ei arwain gan bobl a deimlai bod modd rhannu trydan rhwng pawb. Erbyn hyn, mae yna ryw lun ar heddwch, gyda’r gymdeithas wedi polareiddio yn bobl gefn gwlad a phobl y ddinas. Ond mae criw mentrus yn ceisio newid y drefn . . .
Anodd yw credu mai hon yw nofel gyntaf Sian Northey. Llifa’r stori’n rhwydd gan afael yn nychymyg y darllenydd wrth i ni bendroni am gefndir y ferch, Rhin, a’i chi pwysig, Gwant. Camp y storïwr yw datgelu rhyw fymryn fesul pennod. Dyna a wneir yma mewn nofel sydd wedi ei chynllunio a’i hadrodd yn gelfydd.
Ceir digon o uchafbwyntiau gyda’r arwres ifanc, fel a geir mewn sawl ffilm gyffro, yn ffoi, osgoi a dianc a hithau mewn anwybodaeth am yr erledigaeth. Symuda’r nofel yn gyflym, ac er mai nofel o ddigwyddiadau yw hi, ceir tipyn o ryngweithio rhwng dau ifanc arall, sef y brawd a’r chwaer, Swra ac Aron. Blas diweddglo ffilm James Bond sydd i’r penodau clo cyffrous.
Dyma nofel a allai ddod yn wir, ac mae hi'n haeddu ei lle ar silffoedd ein darllenwyr ieuanc.
Ion Thomas
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|