|
Dw i’n licio nofel ‘sci-fi’ – neu nofel ‘ffuglen wyddonol’, i ddefnyddio un o’r cyfieithiadau mwyaf erchyll erioed yn y Gymraeg. Ond mae'n rhaid i mi gael ias yn fy ‘ngwyddonias’ – i ddefnyddio’r cyfieithiad gwell-ond-nid-addas-bob-tro.
Hynny ydi, yn wahanol i ffans go iawn y genre, dw i angen syniad gwreiddiol, dos dda o dywyllwch, a thipyn go lew o syspens – rhywbeth sy’n cydio yn fy nychymyg a/neu fy ngorfodi i feddwl – er mwyn i mi wirioneddol werthfawrogi’r maes. Boed mewn ffilm neu lyfr, tydi stori antur, gyffrous yn unig ddim cymaint at fy nant.
Bydd ffans go iawn gwyddonias, fodd bynnag, yn fwy na hapus efo Sibrydion o Andromeda – nofel sy’n darparu cyflenwad digon blasus o’u bara beunyddiol, a hynny yn Gymraeg. Ac er nad oes yma lawer o ias, na syniad gwahanol iawn chwaith (aliens isio concro’r byd unwaith eto yw crynswth y llyfr), mi wnes innau fwynhau’r darllen hefyd.
Mae Sibrydion o Andromeda yn nofel gyffrous sydd, er gwaetha ambell dudalen o dindroi, yn symud yn gyflym iawn (efallai yn rhy gyflym ar adegau, o ystyried natur y plot) ac er ei bod yn methu ag argyhoeddi bob tro, mae’r stori’n un gref a gafaelgar, sydd yn gwneud y nofel yn un hynod o anodd ei rhoi i lawr.
Er bod ’na ddigon o ‘ddynion mewn du’ yn ei britho, tydi Sibrydion o Andromeda ddim yn nofel dywyll. Naws tebycach i’r gyfres deledu Torchwood sydd iddi, yn hytrach na rhywbeth fel yr X-Files. Mae’n nofel ysgafn, yn yr ystyr nad oes yma ddyfnder i’r plot na’r cymeriadau. Mae ’na lond llyfr o ddelweddau trawiadol a ffantasi rhemp, yn ogystal â datblygiadau storïol sydd weithiau’n anodd eu cysoni. Ac mae hiwmor Frankie, y Cofi Dre a ffrîc UFOs, yn ysgafnhau’r ddeialog, sydd ambell waith yn llithro i fod yn lletchwith ac allan o’i gyd-destun (gan amharu ar lif y stori), a hyd yn oed yn gawslyd ar brydiau eto yn steil llwyddiannus Torchwood.
Os ydych yn mwynhau stori gyffrous, llawn aliens anhygoel a cheir sydyn, mae Sibrydion o Andromeda yn eu darparu fesul bwcedaid. Ac yn hynny o beth, mae’n serennu.
Dewi Prysor
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Author Biography: Er mai comedi yw prif faes yr actor, scriptiwr a'r dynwaredwr erbyn hyn, cefndir peiriannyddol a gwyddonol sydd gan Emyr (s'yn fwy adnabyddus fel Himyrs). Bu’n astudio peirianneg ym Mholitechnig Cymru, Trefforest, a seryddiaeth yn y Brifysgol Agored.
Daeth yn ail mewn cystadleuaeth erthygl wyddonol yn yr Eisteddfod Genedlaethol tua ugain mlynedd yn ol, gyda erthygl yn trafod taith cerbydau gofodol robotaidd o Rwsia yn ceisio glanio ar lloerenau’r blaned Mawrth, Phobos a Deimos. Mae ei yrfa gomedi wedi golygu bod y diddordeb wedi cymryd sedd gefn braidd tan rwan. Mae'n briod gyda tri mab, ac mae o'n byw yn y Felinheli.
Further Information: Mi gafodd Dafydd Gruffydd sioc ar ei din un noson pan welodd o greadur tebyg i bry cop yn dod allan o long ofod ag yntau ddim yn credu mewn UFOs. Rwan, gyda help newyddiadurwraig leol (ddel) a ffrîc UFOs, mae'n rhaid i Dafydd osgoi'r awdurdodau er mwyn darganfod y gyfrinach fawr a'r gwir brawychus am sefyllfa'r blaned.
|