Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Cyfres y Cewri: 32. Hyd yn HynGillian Elisa View more titles by 'Gillian Elisa'
ISBN: 9780860742432 (0860742431)Publication Date November 2007
Publisher: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Format: Paperback, 182x123 mm, 186 pages Language: Welsh Available Our Price: £7.95 
Cyfres y Cewri: 32. Hyd yn Hyn
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
An autobiography of a truly talented and popular woman. This volume gives details of her various careers from her role of Sabrina in the soap opera, Pobol y Cwm, to being a singer, as 'Mrs OTT', and as a stand-up artist, as well as giving an insight to her personal life.

Hunangofiant merch hynod o amryddawn a phoblogaidd. O'i magwraeth yn Llanbedr Pont Steffan i'w gyrfa fel Sabrina yng nghyfres Pobol y Cwm; fel cantores; fel 'Mrs OTT'; fel stand-up, ac yn y blaen, cawn yma ddilyn ei gyrfa yn ogystal â'i bywyd personol.
Mae Gillian Elisa yn berfformwraig boblogaidd ar S4C a llwyfannau Cymru ers degawdau. Rhan fawr o apêl yr actores a’r gantores amryddawn hon yw ei phersonoliaeth gynnes, agos-atoch, sy’n gwneud i gynulleidfaoedd deimlo fel petaent yng nghwmni hen ffrind. Ond pwy yw Gillian Elisa – neu Gillian Elizabeth Thomas – mewn gwirionedd? Beth ysgogodd y ferch fach fyrlymus o Lambed i berfformio? Ac yn bwysicach oll, pwy ysbrydolodd ei chreadigaeth enwocaf, Mrs OTT?

Lluniwyd yr hunangofiant hwn ar y cyd â Siân Thomas, ond llais Gillian Elisa sydd i’w glywed drwyddo draw. Fe’i hysgrifennwyd yn ei thafodiaith, sy’n gymysgedd o iaith Llambed a Gwauncaegurwen (sef cartref ‘Nana Waun’, un o’r amryw gymeriadau lliwgar a fu’n ddylanwad mawr arni), a theimlwn frwdfrydedd heintus Gillian Elisa wrth iddi lamu o un stori ddigrif i’r llall. Clywn am sawl perfformiad llwyfan trychinebus, ei throeon trwstan wrth geisio creu argraff ar ddynion, a’r direidi a’r ‘diawlineb’ a’i harweiniodd at bob math o drafferthion.

I ffans Pobol y Cwm, mae digonedd o storïau difyr am ddyddiau cynnar y gyfres, er na ddatgelir unrhyw gyfrinach na sgandal fawr. Dengys Gillian Elisa barch mawr at ei chyd-actorion (yn enwedig Harriet Lewis, a chwaraeai ran Maggie Post) ac mae hi’n barod bob amser i dalu teyrnged i actorion a chyfeillion a roddodd gymorth ac arweiniad iddi.

Er yr holl hwyl a chwerthin a geir yn y llyfr, nid hunangofiant ysgafn ac arwynebol mohono, ac nid yw’r awdures yn osgoi trafod adegau tywyll yn ei bywyd. Mae’r bennod sy’n delio â salwch meddwl a marwolaeth ei mam yn wirioneddol ingol, wrth inni glywed am ymdrechion Gillian, yn ystod cyfnod dryslyd a lletchwith ei harddegau, i ymdopi â mater a oedd yn fwy o ‘tabŵ’ nag y mae heddiw, hyd yn oed. Cafodd y profiad creulon hwn effaith fawr arni, a gwelwn sut y bu i’w theimladau cymysg godi i’r wyneb yn ddiweddarach yn ei bywyd, a’r modd y ceisiodd fygu’r teimladau hynny drwy orweithio, goryfed – a gorwneud popeth yn gyffredinol!

O ddarllen Hyd yn Hyn, ni ellir peidio ag edmygu dyfalbarhad Gillian Elisa, ei pharodrwydd i fentro, a’i golwg optimistaidd ar y byd. Dyma hunangofiant hynod ddarllenadwy a difyr, lle gwelwn gymeriad hoffus Gillian Elisa yn disgleirio.

Eiry Miles

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Further Information:
Hunangofiant merch hynod o amryddawn a phoblogaidd. O'i magwraeth yn Llanbedr Pont Steffan i'w gyrfa fel y Sabrina ifanc – a hyn! – yng nghyfres Pobol y Cwm; fel cantores; fel 'Mrs OTT'; fel stand-up yng Ngwˆyl Caeredin, ac yn y blaen, cawn yma ddilyn ei gyrfa yn ogystal â'i bywyd personol.
Mae Gillian yn un a chanddi straeon gwirioneddol ddigri, ond o dan yr wyneb mae'n berson dwys a theimladwy iawn. Cawn gip ar y personoliaeth cyfan yn yr hunangofiant hwn, ac mae’n ddarllen hynod o ddifyr.
Mae 'Cyfres y Cewri' wedi bod yn gyfres o hunangofiannau lwyddiannus dros ben – y gyfrol hon yw rhif 32 yn y gyfres – ond cafwyd hi'n anodd iawn trwy'r blynyddoedd i berswadio merched i ysgrifennu eu hunangofiannau! Wel, dyma'n sicr ferch a gyrhaeddodd frig ei phroffesiwn ac sydd wedi aros ar y brig dros gyfnod hir – mae Gillian yn brysurach fel actores heddiw nag y bu erioed.

Gyda phersonoliaeth gynnes a hwyliog yr awdur yn treiddio drwyddi, bydd y gyfrol yn siwr o godi diddordeb darllenwyr o bob math.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cyfres y Cewri: 6. Neb
R.S Thomas
£4.25
 
Buy Now
JPR - Given the Breaks, ...
JPR Williams
£8.99
Ac Yna Clywodd Sŵn y M?r
Alun Jones
£8.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
No Room to Live - A ...
Wynford Ellis Owen
£11.95
 
Buy Now
Welsh
Mynd dan Groen
Sonia Edwards
£7.99
 
Buy Now