Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Amdani!Bethan Evans View more titles by 'Bethan Evans'
ISBN: 9780862434199 (086243419X)Publication Date March 2002
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 183x123 mm, 208 pages Language: Welsh Available Our Price: £5.95 
Amdani!
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A lively, humorous novel about the members of a women's rugby team. First published in July 1997.

Nofel fywiog, hwyliog yn adrodd hanes tîm rygbi merched Tre-ddôl. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 1997.
Alla i ddim dweud ’mod i’n difaru tynnu rhan helaeth o fy nillad, ymdrybaeddu mewn mwd, plastro gwên ddireidus ar fy wyneb a chofleidio dwy esgid rygbi maint chwech i guddio’r ddwy 34B. Wedi’r cyfan, mi fu’r delweddau yma'n fflachio arna i’n hy o bob safle bws o Gaerdydd i Gaergybi ac o ochr dybl-decars bondigrybwyll, a minnau’n teimlo ’mod i wedi rhoi ryw hwb a denu’r sylw angenrheidiol at gyfres newydd sbon danlli oedd ar fin dechrau ar S4C! Da’r hogan! Ac wedi’r cyfan, byrhoedlog ydi lluniau o’r fath. Mi fydd ’na rywbeth newydd i’w werthu wythnos nesa!

Bydd mwn! . . . Llyfr! A nofel Ms Gwanas yn mynnu mwy o werthiant, mae’n anhepgor bod y ferch fron-noeth yn cael ei llusgo o berfeddion droriau llychlyd y Lolfa a’i stampio’n stond ar glawr un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yn Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf.

Pam felly? Beth sy’n gwneud llyfr Bethan Evans am griw o ferched yn sefydlu tîm rygbi mor anhygoel o apelgar? (Ddim fy nwy 34B i, yn saff i chi . . . wedi’r cyfan, pe na byddai’r nofel mor boblogaidd, faswn i ddim yn y ffasiwn sefyllfa yn y lle cyntaf!)

Wel, i ddechrau, mae’n amlwg fod Bethan Gwanas yn adnabod ei phwnc yn drylwyr. Y mae yma ysgrifennu rhwydd a hwyliog am griw o ferched sydd wedi laru ar eu bywyd bob dydd ac sy’n penderfynu sefydlu tîm rygbi, ac mae’r cyfan yn cael ei adrodd drwy enau’r prif gymeriad – Llinos, y fam ifanc rwystredig. Y mae profiad yr awdur o chwarae i dîm Swansea Uplands wedi dod â’r manylion angenrheidiol i’r nofel: y brifo ar ôl gêmau, y deep heat, y gêmau meddwol, y caneuon coch, a’r profiad bregus o gamu i’r gawod yn noeth am y tro cyntaf. Ond nid beth sy’n digwydd ar y cae sy’n hoelio’r sylw. Meddyliwch am y peth – llond llaw o ferched gwyllt, un hyfforddwr rhywiol, golygus, gwŷr cenfigennus, ac un bêl hirgron… Taflwch nhw i gyd i’r pair – a dyna beth ydy lobsgows go-iawn!

Roeddwn i wedi pori drwy’r nofel cyn clywed am fodolaeth y gyfres deledu, ac wedi cael boddhad o ddod i adnabod cymeriadau real, amrwd. Faint o weithiau mae rhywun yn clywed y frawddeg 'ond does ’na ddim byd raunchy yn y Gymraeg'? Wel bois bach, dyma beth ydach chi wedi bod yn disgwyl amdano. Os nad ydy pennod 13 yn cosi ambell nerf ddiog, yna mi rydach chi’n haeddu cic fwy hegar nag un Jonathan Davies i fyny’ch penolau.

A thipyn o gic ydy ailddarllen y nofel. Rhaid oedd darllen y ddwy dudalen gyntaf ddwywaith gan ei fod yn brofiad mor rhyfedd darllen naratif cymeriad yr ydw i wedi’i chwarae hi am dair cyfres bellach. Roedd yn rhaid cymryd cam yn ôl, a gwerthfawrogi’r nofel ei hun, yn lle hel meddyliau a chofio pa mor oer a gwlyb a chleisiog oeddwn i ar ddiwrnod ffilmio ambell olygfa.

Bu’n angenrheidiol newid ambell beth ar gyfer y teledu (pennod 13 yn ei chyfanrwydd am naw o’r gloch nos Sul S4C – dim ffasiwn beryg!), ond hawdd oedd ymlacio i mewn i eiriau gwreiddiol dewines chwant a nwyd Cymru – a gwerthfawrogi o’r newydd cymeriadau yr ydw i wedi dod i’w hadnabod yn reit dda dros y blynyddoedd diwethaf.

Does ryfedd fod S4C wedi neidio ar y cyfle i ddod â’r cymeriadau yma’n fyw ar y sgrin fach. Dyma eu geni nhw. Gwanas ydy eu mam nhw, a dim ond cael eu magu dros-dro yr ydan ni’r actorion.

Ffion ‘Gwallt’ Davies

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Ar y Lein
Bethan Gwanas
£6.95
Dilyn 'Sgwarnog
Annes Glynn
£5.95
 
Buy Now
Gwirioni
Shoned Wyn Jones
£4.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now