Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Blodyn Tatws (Cyfrol y Fedal Ryddiaith 1998)Eirug Wyn View more titles by 'Eirug Wyn'
ISBN: 9780862434823 (0862434823)Publication Date August 1998
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 191 pages Language: Welsh Available Our Price: £4.95 
Blodyn Tatws (Cyfrol y Fedal Ryddiaith 1998)
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
The prize volume in the Literature Medal competition at Bro Ogwr National Eisteddfod 1998, a highly imaginative story set in the inventive 21st century world of computers and micro-chips, comprising strong elements of humour and satire.

Cyfrol arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr 1998, stori ddychmygus odiaeth wedi ei gosod ym myd dyfeisgar cyfrifiaduron a sglodion meicro yr unfed ganrif ar hugain, yn cynnwys elfennau cryf o hiwmor a dychan.
Dyma nofel sy’n ail-greu stori creu Blodeuwedd, ond hynny mewn cyd-destun ffantasïol a thra thechnegol y dyfodol gan y llunnir y ferch ‘newydd’ o tjips cyfrifiadurol (ac wele felly ystyr teitl y nofel 'Blodyn Tatws’ a’r chwarae gogleisiol ar gyd-destun ystyr geiriau). Dyma sodro’r nofel yn amlwg yn niwylliant Cymru, a’r blas Cymraeg a Chymreig yn echel i’r stori er gwaetha’r ffaith fod taid y prif gymeriad yn hanu o Hong Kong a bod y stori’n llawn o cyber pets, magno-electroneg, zegawatts a’r cyfryw bethau . . .

Ceir yma, yn ôl arlwy arferol Eirug Wyn, stori garlamus, dychymyg rhemp, cymeriadau cofiadwy (megis Parri), caru gwyllt, hiwmor slei (a amlygir yn enwau’r tair cenhedlaeth Wing-Ha, Weng-Hi, Wang-Ho) a’r cyfan wedi’i socian mewn Cymreictod cadarn, o lenyddiaeth uchel-ael i dafodiaith y dafarn. Mae yma hefyd y stereoteipio ar gymeriadau’r merched – y rhai rhinweddol sydd am hybu buddiannau’r prif gymeriad (Nain Cedora – er bod ei henw hithau hyd yn oed yn bychanu ei chyfraniad) a’r merched dichellgar hynny sydd am ei ddefnyddio (Gwenllïan, NESTA a Blodyn Tatws hithau). Fel y dywed un ohonyn nhw: ‘Oedd hi’n hen bitsh yn defnyddio’i rhywioldeb i’w ddenu?’

Efallai nad yw arddull ysgafn a phryfoclyd y bennod gyntaf yn ein paratoi at ddwyster problemau egwyddorol gweddill y nofel, ond mae’r bennod hon yn sicr yn dal y darllenydd. Yn wir, cydnabyddir bellach fod yr awdur yn feistr corn ar greu stori sy’n rhwydo’r darllenydd i’w hud; ef yw Pied Piper y nofel Gymraeg gyfoes, yn ei fantell liwgar o Gymraeg bywiog a rhywiog. Soniwyd yn y nofel am ysfa Wang-Ho i greu, am ei ‘greadigrwydd heintus’, ac mae’r un peth yn wir am yr awdur hwn hefyd. Ond er gwychder y dychymyg sy’n ein dallu â’i danbeidrwydd ar yr olwg gyntaf, mae brychau lu yn y plot a’r stori, gydag ambell i lwybr yn arwain i unlle, a sawl carreg yn aros heb ei throi.

Braf fyddai cael nofel drymach, yn gogordroi’n hamddenol uwch seicoleg y cymeriadau (megis braf fyddai darllen adroddiad John Preis cyn ei docio), egwyddor y pwnc llosg o glônio a rôl ddylanwadol – os nad caeth – cyfrifiaduron yn ein bywydau. Ond yn y byd sydd ohoni, byw ar y lôn gyflym ydyn ni, a chymaint y mae arnon ni angen nofelau Cymraeg sy’n ein harafu ac yn ein hannog i bendroni, cymaint yw’r angen am nofelau i’w llowcio ar y ffordd, heb roi fawr o feddwl i’w cynnwys. Ac fel nofel sy’n ein diddanu’n llwyr am orig fechan, mae Blodyn Tatws ymysg y goreuon.

Gwenllïan Dafydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr
Alun Jones
£8.99
 
Buy Now
Cysgu ar Eithin
Sonia Edwards
£4.50
 
Buy Now
Llen dros yr Haul
Sonia Edwards
£4.50
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now