| Bibliographical Information |
| Talu'r PrisArwel Vittle
View more titles by 'Arwel Vittle' |
ISBN: 9780862435080 (0862435080)Publication Date August 2000
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bontFormat: Paperback, 286 pages
Language: Welsh
Ordered on request Our Price:
£7.95
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
A gripping novel set in Wales in 2082, where the rebel Iolo ab Maredudd - who is looking for a quiet life after the idealistic battles of his youth - is drawn into the world of conspiracy and corruption of military governments, genetic scientific experiments and underground societies.
Nofel afaelgar wedi ei lleoli yng Nghymru 2082, lle caiff y gwrthryfelwr Iolo ab Maredudd - sy'n chwilio am fywyd tawel wedi brwydrau llawn delfrydau ei ieuenctid - ei lusgo i fyd cynllwyn a llygredd llywodraethau milwrol, arbrofion gwyddonol genynnol a chymdeithasau tanddaearol.
|
|
Mae bron pob hanes a osodir yn y dyfodol yn ddameg or presennol. Gellir defnyddior dyfodol pell fel llechen lân hanesyddol i osod cymeriadau arni heb unrhyw un on llinynnau cymdeithasol ni ynghlwm wrthynt au defnyddio i adrodd dameg am wirioneddau sylfaenol y cyfnod hwn. Prin iawn ywr ffeithiau hanesyddol a grëir am y cyfnod rhwng ein hamser ni ar un dychmygol dan sylw dyfynnir Shakespeare ar yr USS Enterprise, ond does ynar un bardd dyfynadwy arall wedi codi yn y canrifoedd syn dilyn. Fodd bynnag, gellir gosod hanes mewn dyfodol agosach ble maer awdur yn defnyddior cyfle i greu hanes y cenedlaethau syn dilyn yn union ar ôl ei un o neu hi er mwyn cyfleu barn gref am sefyllfa ein byd ni.
Mae ir nofel hon holl elfennau nofel antur dda. Wedi ei gosod yn 2082 ar hyd ac ar led Ewrop, ond yn bennaf yng ngogledd Wales Corporation, mae yma arwyr syn ddihirod; rebel o ferch brydferth i greu diddordeb rhywiol; dyn y sefydliad i greu cenfigen; dyn drwg ag enw braidd yn amlwg Richard John Davies; heddlu cas ag acen y de, a chymdeithas gudd o bobl syn gweithredu yn y cysgodion. Mae cyfrinach iw datrys ai gwarchod, achos iw amddiffyn a llygredd iw ddatgelu, a Dafydd bob amser yn pledu Goliath.
Ceir negeseuon clir am beryglon peidio rhoi digon o bwerau ir Cynulliad ac o gecru oddi fewn ir mudiad cenedlaethol, ond gosodir hyn oll ar gefnlen ehangach o ddadfeiliad ecolegol a chymdeithasol.
Rhan o ddifyrrwch ailddarllen nofel broffwydol a gyhoeddwyd bron i ddwy flynedd yn ôl yw chwilio am elfennau sydd eisoes wedi eu gwireddu neu sydd wedi eu profi'n anghywir.
Cododd y brodiroedd unedau gweinyddol Wales Corporation, o ardaloedd y Mentrau Iaith. Tybed beth a gwyd or adolygiad iaith presennol? Mae Urdd Corfforaeth Cymru wedi cau pobman a symud i Gaerdydd. Ddigwyddodd hyn ddim eto. Mae Richard John, Cymro da, arweinydd lleol a Llywydd y Llwythau, yn defnyddior geiriau does dim oi le mewn mentro a manteisio ar amgylchiadau. Union eiriau arweinydd Cyngor Ceredigion ar Week In Week Out yn ddiweddar!
Nofel uchelgeisiol yw hon, syn llwyddo i greu stori gref a chymhleth. Bydd rhai yn gwirioni ar y proffwydo, eraill yn ei weld yn ddiflas ac yn rhy ffwrdd-â-hi ond dyna natur y genre. Maer ysgrifennu yn rhwydd ac yn gyhyrog, ar cymeriadau yn rhai cryfion syn cynnig darlun byw i ni o un math o Gymru allai ddeillio or un a grëir gennym ni heddiw.
Arwel Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|