Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Bitsh! - Gwobr Goffa Daniel Owen 2002Eirug Wyn View more titles by 'Eirug Wyn'
ISBN: 9780862436445 (0862436443)Publication Date October 2002
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 183x121 mm, 216 pages Language: Welsh Available Our Price: £6.95 
Bitsh! - Gwobr Goffa Daniel Owen 2002
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
Welsh Novel of the Month: September 2002
The prizewinning volume of the 2002 National Eisteddfod Daniel Owen Memorial prize, being a novel about a young man from the 1960s who traces his muddled life by means of a series of computer files recording the happenings that led to his downfall, especially his relationship with females. First published in August 2002.

Cyfrol arobryn cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, sef nofel am fachgen ifanc o'r 1960au yn olrhain dryswch ei fywyd trwy gyfrwng cyfres o ffeiliau cyfrifiadurol yn cofnodi digwyddiadau a arweiniodd at ei gwymp, yn arbennig ei berthynas â merched. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2002.
Pe bai modd iddo botelu’i egni dychmygus, gallai Eirug Wyn wneud ei ffortiwn: pedair ar ddeg o gyfrolau mewn deng mlynedd, a hon yw’r ddiweddaraf ohonynt. Dyma nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen 2002, a chystal cyflwyniad i’w waith â’r un. Croeso (neu groeso’n ôl) i’w gynefin tywyll, trofaus a thoreithiog.

Fe fydd tirwedd y gwaith yn gyfarwydd i ddarllenwyr Eirug Wyn erbyn hyn: ansadrwydd meddwl, rhyw anifeilaidd, angau, alcohol, hunanymholi a hunanatgasedd. Stori fyglyd yw hon, drwy lygaid y prif gymeriad, am Abednego (‘Abi’) Thomas a’i obsesiynau, ei ffeiliau cyfrifiadur a’i ymgais i’w ddeall ei hun. Mae’n agor gydag angladd babi dol ac yn cloi gyda lladd gwrthrych ei nwyd. Rhwng y ddau begwn, dilynwn y cymeriad annigonol, goddefol hwn drwy anturiaethau rhywiol diserch, chwilio ofer am gariad a chyfeillgarwch, a dirywiad ei synnwyr moesol. Dim ond adolygydd digydwybod hollol a fentrai ddweud rhagor na bod tro yn y gynffon hefyd. Ac yn gyfeiliant i’r cyfan, ac yn ddehongliad arno, dyma gynnwys trac sain canu poblogaidd – Cymraeg a Saesneg – y blynyddoedd ffurfiannol-ddinistriol yn hanes Abi. Mae’n byw ei fywyd yn ddirprwyol drwy emosiynau synthetig Elvis a Joe Brown a Caryl Parry Jones, nes bod diwylliant diflanedig yn hydreiddio’r personol gan ei ddibersonoli a gwneud Abi’n byped.

Bydd unrhyw grynodeb yn gwneud cam â’r stori, drwy ei hamddifadu o’i thyndra. Digon yw dweud mai camp Eirug Wyn yw ein gwneud yn gyfrannog er ein gwaethaf drwy adrodd yr hanes o fanylyn i fanylyn ymddangosiadol dibwys. Pa hanesion sy’n arwyddocaol? Pa hanesion sy’n wir? A ellir ymddiried yng ngallu Abi i wahaniaethu rhwng ffaith a ffantasi? A oes gwahaniaeth gwerth y sôn? Diau y bydd cynifer o ddarlleniadau ag o ddarllenwyr.

Mae dull cyffesol y dweud yn codi cwestiynau hefyd ynglŷn â gwerth cathartig troi profiad yn destun. A yw’r ffeiliau cyfrifiadur lle cofnoda Abi droeon ei fywyd yn feddyginiaeth ynteu’n felltith? A beth a ddywed hynny am gymhellion yr awdur ac am y darllenydd sy’n troi’r dail?

Nid collfarn yw dweud nad nofel i’w mwynhau mo hon. Ni ellir gwneud obsesiwn yn adloniant. Ond os mai amcan yr awdur oedd anesmwytho’r darllenydd drwy ei ddenu i fyw yng nghroen Abi am awr neu ddwy a theimlo’r cnawd yn gwingo; os mai ei fwriad oedd gwneud iddo edrych ar Abi rhwng ei fysedd, a’i ffieiddio, a methu troi oddi wrtho, fe lwyddodd.

T. Robin Chapman

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Haf a Cherddi Eraill, Yr
R. Williams Parry
£5.00
 
Buy Now
Goeden Wen, Y
Sonia Edwards
£4.95
 
Buy Now
Saith Pechod Marwol
Mihangel Morgan
£5.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now