Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Cyfres Pen Dafad: Ceri GrafuBethan Gwanas View more titles by 'Bethan Gwanas'
ISBN: 9780862436926 (0862436923)Publication Date November 2011
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Edited by Alun Jones, Nia Royles Suitable for age 12+ or Key Stage 3/4 Format: Paperback, 182x123 mm, 56 pages Language: Welsh Available Our Price: £2.95 
Cyfres Pen Dafad: Ceri Grafu
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A contemporary novel about a young teenage girl who feels that everything and everyone is against her, most particularly as she is not allowed to play for the school football team as she is a girl, but who is urged by a neighbour to persevere, with excellent results; for readers aged 11-13 years. (ACCAC) Reprint; first published in 2003.

Nofel gyfoes am ferch yn ei harddegau sy'n teimlo bod pawb a phopeth yn ei herbyn, a hynny'n bennaf am na chaiff chwarae i dîm pêl-droed yr ysgol am mai merch ydyw, ond a gaiff ei hannog i ddyfalbarhau gan gymdoges, gyda chanlyniadau ardderchog; i ddarllenwyr 11-13 oed. (ACCAC) Adargraffiad. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2003.
Mae Ceri Gruffydd yn ferch sy’n gallu chwarae pêl-droed yn well nag un o’r bechgyn ym mlwyddyn 7. Ond, wrth gwrs, gan mai merch yw hi, mae’n cael ei rhwystro rhag ymuno â thîm y bechgyn ac yn cael ei hystyried yn ‘domboi’ gan weddill y merched. Hefyd, mae ganddi duedd i gicio’r bêl drwy ffenestri pobl eraill. Ond hynny sy’n ei hachub rhag diflastod wrth iddi ddod i adnabod Mrs Higginbottom, cymdoges iddi, wedi iddi gicio pêl drwy ei ffenest hithau.

Mae Ceri’n gweld yn fuan iawn nad yw’r hen wraig sydd wedi dysgu Cymraeg yn ‘boen yn yr Higginbottom’ fel roedd hi wedi'i amau, ac yn raddol mae’n dysgu ganddi fod rhaid iddi ei pharchu ei hun, codi'i phen yn uchel, ymladd am ei hawliau a defnyddio’i mamiaith.

Er bod Ceri’n cael ei digalonni ar brydiau gan amgylchiadau anodd ei chartref a gwrthwynebiad ambell athro, mae’n llwyddo i oresgyn yr anawsterau hyn fel gwir arwres sydd nid yn unig yn gallu chwarae pêl-droed, ond sy'n trwsio ffenestri ac yn peintio ystafelloedd hefyd.

Dyma lyfr bywiog sy’n dwyllodrus o rwydd ei ddarllen ond a fydd yn apelio ar sawl lefel, yn arbennig at ferched yn nosbarthiadau isaf yr ysgol gyfun.

Elin Meek

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cyfres Pen Dafad: Iawn ...
Caryl Lewis
£9.70
 
Buy Now
Ennill Neu Golli (Casét)
Bob Eynon
£1.50
 
Buy Now
Gair o Bosnia (Casét)
Bob Eynon
£1.50
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now