Your basket
Your Basket is Empty
Go to...
Best-selling Books
Links
|
| Bibliographical Information |
| Martha, Jac a SiancoCaryl Lewis
View more titles by 'Caryl Lewis' |
ISBN: 9780862437534 (0862437539)Publication Date March 2010
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bontFormat: Paperback, 183x121 mm, 192 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£7.95
| |
Customers' average rating:   
|
|
|
A powerful novel relating the story of two elderly brothers and their sister who are held captive by family circumstances and by a life of hardship on a farm in rural south-west Wales, by a talented young writer. Winner of the Academi Book of the Year Award for 2005. Reprint; first published in November 2004.
Nofel gref yn adrodd hanes dau frawd a chwaer oedrannus sy'n cael eu carcharu gan amgylchiadau teuluol, a chan galedi bywyd ar fferm yng nghefn gwlad de-orllewin Cymru, gan awdures ifanc ddawnus. Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Adargraffiad; cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Nhachwedd 2004.
|
|
LLYFR CYMRAEG Y FLWYDDYN, 2005
Braidd yn amheus oeddwn i cyn darllen Martha, Jac a Sianco, nofel ddiweddaraf Caryl Lewis. Meddwl fy mod am ddos arall o rywbeth tebyg i’r hyn a geir yn y gyfres nofelau Tomos a Marged. Ofnwn mai’r hyn a gawn fyddai ymdrech i ddyrchafu bywyd cefn gwlad Ceredigion hanner canrif a mwy yn ôl.
Ond nid dyna sydd yma o gwbl, eithr nofel soffistigedig am ddau frawd a chwaer yn dygnu byw ar fferm y teulu yn y byd sydd ohoni heddiw. Gan nad yw Sianco ‘fel pawb arall’ mae’r gofal am y fferm yn disgyn ar ysgwyddau Jac a Martha. Maent fel pe baent wedi eu rhwymo wrth y pridd a heb fedru dianc rhagddo; yn gaeth i’r gorffennol, maent yn driw i werthoedd eu diweddar rieni, ac eto’n ddrwgdybus iawn o’i gilydd. Y cymeriad sy’n argyhoeddi leiaf yw Judy, ffansi ledi Jac. Cyw gog mewn nyth os bu un erioed. Saesnes na pherthyn iddi unrhyw rinwedd na dyfnder. Mae’n dod o’r un ysgol â’r cymeriad Paul Rushmere yn nofelau Islwyn Ffowc Elis. Trueni na pherthynai iddi beth o’r cymhlethdod sydd i’w gael yn y cymeriadau eraill.
Cyfoethogir y gwaith gan dafodiaith Ceredigion, a thrwy’r amser rydym yn ymwybodol fod yr awdur yn adnabod ei chymeriadau a’i chynefin yn dda iawn. Ambell waith ceir disgrifiadau hyfryd o fyd natur a hyd yn oed enghreifftiau prin o ddealltwriaeth rhwng y tri. Ond drwy’r cyfan mae rhywun yn ymwybodol fod rhyw dynged sinistr yn aros y teulu. Mae presenoldeb bygythiol y brain yno i’n hatgoffa o hynny.
Nofel eithafol o drist yw hon, ac er eich bod yn dyheu am ddianc rhag y diwedd anorfod, nid oes dihangfa i’w gael. Fe’ch tynnir i mewn i’w dyfnderoedd tywyll.
Yn ddiweddar yr wyf wedi darllen nifer o nofelau Cymraeg rhyfeddol o dda. Ond mae Martha, Jac a Sianco yn gwbl arbennig. Mae hi ben ac ysgwydd uwchben popeth arall a ddarllenais eleni. Llyfr y Flwyddyn heb unrhyw amheuaeth.
Dafydd Morgan Lewis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Author Biography: Daw Caryl yn wreiddiol o Ddihewyd ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu. Ennillodd Iawn Boi? Wobr Tir na n-Og 2004 ac enwyd ei nofel Martha Jac a Sianco yn Lyfr y Flwyddyn 2005. Mae hi wrth ei bodd yn ei hamser hamdden yn arlunio a bwyta Maltesers. Further Information: Martha, Jac a Sianco Bound together by blood ties, Martha, Jac and Sianco live on a farm in mid-Wales where their lives unfold in the eerie half-presence of their dead parents. Glimmers of understanding punctuate their relationship with one another, but unspoken animosity seem to be the most potent ingredient in their sibling cohabitation. Tension between the three underscores their empathy each with the rhythms of nature rather than with kith and kin. Sianco, despite his mature years, has a childlike simplicity about him which endears him to the reader, but he is bullied by his older brother, Jack, whilst his older sister, Martha, is more protective of him. All three are unmarried, although Martha does have a potential suitor, and Jac has a manipulative mistress who may prove to be his downfall. Primeval in setting and content, Martha, Jac a Sianco is a book where the land itself, the beasts of the farm, and the raucous crows animate the narrative. The coldness of the climate, the dark, the harshness of country life: all are woven into the fabric of a raw and timeless story where the portrayal of the animal world is unflinching, and the human beast plods on relentlessly towards what seems the inevitability of the tragic end. Yet there are occasional glimpses of humour, and, despite the contemporary Welsh setting, this is a novel proper to many recesses in Europe, and beyond, whether today or in times past. Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange
Prizes: Llyfr y Flwyddyn 2005
Welsh Book of the Year 2005
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
"Mae'n ddrwg gen i nofio yn erbyn y llif. Cefais flas ar ddarllen Martha Jac a Sianco ond credaf y byddai'r gwaith ar ei ennill pe bai wedi cael ei olygu'n well. Mae 'clau' yn air cyfarwydd yng Ngheredigion, a llawer yn dwweud, 'Dere glou'. Pan welaf yr awdur yn sgrifennu 'gloi' a 'glou' (er enghraifft!) rwy'n pryderu ryw ychydig. Mae yma gymysgiad o dafodiaith a bratiaith ac mae hyn yn dderbyniol o wybod am ein Saesraeg heddiw. Ond mae yma gymysgiad od ar brydiau o hyn ac iaith mwy llenyddol ei naws. Wrth siarad tafodiaith a bratiaith mae'r traethydd yn gallu defnyddio dwylo, llygaid a goslef i hybu'r llefaru ond dydy hyn ddim yn bosibl wrth ysgrifennu a champ ysgrifennu tafodiaith yw rhoi'r argraff mai llefaru sydd yma tra'n cyflwyno rhythmau'r iaith sgrifenedig. Teimlwn nad oedd yr awdur yn llwyddo yn hyn o beth bob tro a bod yr arddull yn ddigon trwsgl ar adegau. Roedd yn hyfryd darllen am hen arferion bywyd fferm, ond mae'r briodas rhwng yr hen drefn a bywyd y 4x4 yn cloffi ar brydiau. Dywedaf eto imi gael y nofel hon yn ddiddorol i'w darllen, ond gan wybod ei bod yn mynd i gael ei pharatoi ar gyfer S4C yn y man, bydd yn dda gweld sut y bydd y ddeialog ychwanegol yn sionci'r gwaith. Dyw'r tri yma ddim yn rhy barod i siarad â'i gilydd. Cawn weld."
"Dyma hi - nofel orau'r flwyddyn (a sawl blwyddyn cyn hyn) heb os nac oni bai - am hon mae pawb wedi bod yn sôn ac i mi dyna be ydi llyfr y flwyddyn. Dwi'n rhyfeddu fod awdur mor ifanc wedi llwyddo i greu y fath gymeriadau a sefyllfaoedd. Mae'n nofel hynod o bwerus ac yn ddirdynnol o drist, eto'n rhwydd i'w darllen. Braf oedd darllen tafodiaith naturiol yr awdur. Fe fydd hi'n aros yn hir yn y cof (pwy all anghofio'r brain?)."
|
|
|
|
More Titles
|
People who bought this title also bought the following:
|
Book of the Month
|