Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Alwyn Humphreys - Yr HunangofiantAlwyn Humphreys View more titles by 'Alwyn Humphreys'
ISBN: 9780862439019 (0862439019)Publication Date June 2006
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 208x148 mm, 224 pages Language: Welsh Available Our Price: £9.95 
Alwyn Humphreys - Yr Hunangofiant
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
An honest and revealing autobiography of the renowned conductor and broadcaster, Alwyn Humphreys. From his early days when he suffered a serious illness, he developed into one of Wales's most respected choir conductors. He led the Morriston Orpheus choir to the four corners of the world for a quarter of a century, and he has become one of Wales's most renowned musical adjudicators.

Hunangofiant gonest a dadlennol yr arweinydd a'r darlledwr adnabyddus, Alwyn Humphreys. O orfod byw gyda salwch fu bron â'i ladd yn ifanc, datblygodd i fod yn un o'r arweinyddion corau uchaf eu parch yng Nghymru. Arweiniodd gôr Orpheus Treforys i bedwar ban byd am chwarter canrif, a daeth yn un o'r beirniaid uchaf eu parch yn y byd cerddorol yng Nghymru.
Cerddor, arweinydd, beirniad, athro, cyflwynydd, ffisegydd niwclear...wel, mwy am yr un olaf yn y man, ond dyma rai o swyddi Alwyn Humphreys ac yn y gyfrol hynod ddifyr hon ceir cipolwg ar fywyd dyn sydd yn ffigwr allweddol ym mywyd diwylliannol a cherddorol y Gymru gyfoes.

Roedd darllen y llyfr yn bleser. Mae wedi’i ysgrifennu mewn arddull sy’n agos-atoch rhywsut (a hynny, o bosib, am i’r awdur ysgrifennu mewn dull tafodieithol), a thrwy’r ysgrifennu, mae’r darllenydd yn cael mynediad at fyd Alwyn Humphreys yn ei holl agweddau. Ceir enghraifft o’r ysgrifennu cynnil ar ddiwedd y bennod gyntaf pan fo Alwyn yn hel atgofion am Benbryn, cartref ei daid, William Wmffra. Doedd y cyfnod o fyw yno ddim yn un hapus iawn, ond roedd dihangfa ar gael yn y chwaraewr gramoffon ac arferai Alwyn wrando ar recordiau rhai o gantorion blaena’r oes. Wedi gwrando ar Jussi Björling unwaith, penderfynodd ei fod am fod yn ganwr: ‘Dyna fyddai fy mreuddwyd, bod yn denor gora’r byd. Ond yn y cyfamser mi fyddai’n rhaid i mi helpu i fwydo’r ieir a godro’r gwartheg’.

Trwy’r gyfrol, ceir portreadau arbennig o’r gymdeithas y magwyd Alwyn Humphreys ynddi ynghyd â darluniau godidog o’r cymeriadau. Ceir darlun geiriol arbennig o gapel Gad a hefyd yr eisteddfodau lleol. Yn ogystal â’r portreadau hyn, mae’r awdur yn adrodd straeon sydd yn dod â gwên i’r wyneb, os nad llond bol o chwerthin. Yn achos yr adolygydd, roedd yr olaf o’r rhain yn wir wrth i mi ddarllen am gystadleuaeth y ‘twll botwm’ mewn eisteddfod bentref un adeg. Dyw gofod ddim yn caniatáu i mi ailadrodd yr hanes yma, ond da chi, ewch i dudalennau 40-42 i ddarllen ac mi wna i fwyta’n het os na chewch bwl o chwerthin!

Stori arall ddaeth â gwên i’r wyneb oedd honno am Alwyn yn teithio ar drên unwaith pan oedd yn fyfyriwr coleg, a’i gyd-deithwyr yn ei holi pa bwnc yr oedd yn ei astudio. Wrth glywed fod y myfyriwr ifanc yn astudio Cerddoriaeth, dyma’r holwyr yn ei boeni drwy ganu darnau di-ri o gerddoriaeth. Ar ôl dwy awr o hyn, roedd Alwyn wedi cael llond bol. A dyma un person arall yn ei holi:

'Student are you?
Yes.
What are you studying?
Nuclear Physics.
Distawrwydd a heddwch'.

Mae’r llyfr yn llawn hanesion tebyg – y digrif a’r dwys. Prynwch y llyfr – chewch chi ddim mo’ch siomi!

Jamie Medhurst

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Further Information:
Alwyn Humphreys yn Datgelu ei Ddyled i Lawfeddyg

Wrth lansio ei hunangofiant, manteisiodd y cyflwynydd a’r arweinydd corau adnabyddus Alwyn Humphreys ar y cyfle i ddiolch i’r llawfeddyg John Miles am achub ei fywyd. Dri deg mlynedd yn ôl cafodd Alwyn Humphreys ei daro gyda’r math gwaethaf o waedlif ar yr ymennydd ac oni bai am fedr y llawfeddyg yn Ysbyty Walton mae’n annhebyg y byddai wedi goroesi. Dywedodd Alwyn Humphreys,
“Mae'r profiad o fod mor agos at farwolaeth yn cael dylanwad aruthrol ar berson. I ddechrau, ar ôl i mi wella, mi wnes i feddwl am bob dydd, bob wythnos, a phob mis fel bonws - rhyw estyniad o'r bywyd roeddwn i wedi gael hyd hynny. Hefyd mae'n debyg bod llawdriniaeth ar yr ymennydd yn gallu newid personoliaeth rhywun ac rwy'n ceisio dadansoddi hyn yn y llyfr.”

Yn y gyfrol, yn ogystal â thrafod ei fywyd personol a’i iechyd, mae’r awdur yn sôn am ei deulu a’i fagwraeth yn Sir Fôn, ei gyfnod yn y coleg yn Hull a’i yrfa fel cyflwynydd. Mae ei gyfnod fel arweinydd Côr Orpheus Treforys hefyd yn cael lle canolog yn y llyfr. Ceir pob math o hanesion ac anecdotau doniol am y côr ac am y cythraul canu Cymreig ac mae’n mynegi ei farn yn ddi-flewyn- ar-dafod am y byd cyfryngol a chorawl Cymreig. Un peth sy’n ei boeni yw bod y traddodiad canu corau meibion yn edwino, “O safbwynt corau newydd ifanc - corau cymysg gan fwya - mae llawer i lawenhau yn ei gylch. Ond, mae gen i ofn bod y corau meibion yn gwanhau ac yn prinhau. Ac yn union fel y capeli maen nhw'n anfodlon iawn i uno hyd yn oed pan fo'u nifer yn isel iawn.”

Er bod Alwyn Humphreys yn cyfadde taw dyma’r tro cyntaf iddo fynd ati i sgwennu unrhyw beth gwerth sôn amdano, mae hon yn gyfrol hynod o ddarllenadwy sy’n cyflwyno cymeriad amlochrog un o ffigyrau cyhoeddus amlycaf Cymru. Heb amheuaeth mae gan ddilynwyr lluosog Côr Orpheus Treforys, gwrandawyr Radio Cymru a gwylwyr S4C lawer i’w ddiolch i’r llawfeddyg John Miles.

"Mae'r hiwmor cynnil a'r dawn dweud, sy'n nodweddiadol o'r llyfr, yn taro nodyn."
Eurgain Haf, Barn

"Cofnod o anecdotau difyr ydi'r hunangofiant wedi eu plethu a'u cyflwyno mewn arddull ddifyr ac mewn iaith naturiol, hawdd ei darllen."
Eurgain Haf, Barn

"Dyma un o'r hunan-gofiannau difyrraf I mi ei darllen erioed - yn llawn straeon digri a dwys, I'ch synu a'ch sobri, a'r cyfan yn cwmpasu bywyd llawn y bachgen swil o Fotfoth."
Menna Medi, Y Cymro
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Ar y Lein Eto
Bethan Gwanas
£7.95
 
Buy Now
O'r Lôn i Fôn: ...
Emlyn Richards
£7.95
 
Buy Now
Taking Stock - Life as a ...
Richard Thomas
£7.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now