Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Cam o'r Tywyllwch - Hunangofiant Rhys MwynRhys Mwyn View more titles by 'Rhys Mwyn'
ISBN: 9780862439231 (086243923X)Publication Date November 2006
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 208x147 mm, 216 pages Language: Welsh Available Our Price: £9.95 
Cam o'r Tywyllwch - Hunangofiant Rhys Mwyn
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
An autobiography by one of the most prominent and contraversial figures on the Welsh music scene in recent decades. He discusses his upbringing in Llanfair Caereinion, travelling Europe with Anrhefn, producing records in secret, and then his dealings with managing Welsh bands, such as Catatonia, and many more.

Hunangofiant un o ffigurau amlycaf a mwyaf dadleuol y byd cerddoriaeth fodern yng Nghymru. Sonnir yma am ei fagwraeth yn Llanfair Caereinion, teithio Ewrop gyda'r Anrhefn, cyhoeddi recordiau tanddaearol arloesol, ac wedyn ei hanes yn rheoli degau o fandiau, Catatonia yn eu plith, a llawer mwy.
Ymateb cyntaf fy mam pan soniais wrthi fy mod yn adolygu hunangofiant Rhys Mwyn i Gwales oedd: ‘Dyn rhyfedd!’. Wrth gwrs, dydy Mam erioed wedi cyfarfod â Rhys, a fydd hi ddim yn darllen yr hunangofiant chwaith – tystiolaeth ail-law wedi ei seilio ar ragfarn a barodd iddi honni ei fod yn berson rhyfedd. Nid yw sylw Mam am Rhys yn unigryw o gwbl oblegid dyna'r ddelwedd sydd ganddo – y boi hagr sy'n lladd ar bawb a phopeth – Radio Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Anweledig . . . mae pawb yn ei chael hi. Er fy mod i ar ryw ystyr yn cynrychioli'r hyn y mae Rhys yn antithesis ohono (dwi'n trefnu gìgs yn enw'r Gymdeithas ac rwy'n Gristion), dwi wedi edmygu Rhys erioed ac ar yr ychydig droeon dwi wedi ei gyfarfod mae wedi bod yn glên iawn ac wedi cymryd diddordeb yn yr hyn dwi'n ei ddweud ac yn gwneud. Fodd bynnag, dwi erioed wedi delio ag ef ar lefel broffesiynol, felly, ys dywed y Sais, the proof is in the pudding.

I ddechrau, rhaid nodi mai marchnad benodol iawn sydd i’r llyfr hwn; fel Marmite, you either love it or you hate it. Os ydych chi’n ymddiddori mewn diwylliant cyfoes, yna mae'r gyfrol hon yn em ac yn haeddu lle ar eich silff. Os nad ydych yn gwybod pwy oedd y Ffa Coffi Pawb, diau y bydd hunangofiant Gwyn Thomas yn fwy at eich dant chwi. Yr hyn sy'n drawiadol am y llyfr, er gwaethaf y ffaith bod tipyn o bawb yn cael cic ganddo a bod Rhys yn malu awyr mewn ffordd ddiddorol mewn sawl lle, yw eich bod yn cael eich darbwyllo erbyn y diwedd ei fod yn foi iawn wedi'r cyfan. Mae yna adrannau sydd wir yn eich cyffwrdd chi megis y sôn am salwch a marwolaeth ei fam. Ac yna hanes marwolaeth drist Al Maffia wrth deithio gyda'r band yn Llydaw – nid oedd gan ei deulu bres i'w hedfan yn ôl i Gymru ac fe drefnodd Rhys gìg mawr er mwyn codi arian i'w helpu. Ar nodyn hapusach, adroddir am hanesion doniol megis gìg punk amser cinio yn ei ysgol uwchradd yn Llanfair Caereinion, lle’r aeth y plant yn wallgo a neidio i mewn i bwll nofio'r ysgol yn eu dillad ar y diwedd!

Tuag at ddiwedd y llyfr mae'n trafod ei ran yn llwyddiant Catatonia a'r modd y bu iddynt ei drin yn wael ar ôl arwyddo cytundeb gyda chwmni rheoli yn Llundain – aeth cyfreithwyr Catatonia ar ei ôl yn honni iddo feddwi Cerys a’i chael hi i arwyddo cytundebau. Gwadu hyn yn llwyr a wna Rhys yn y llyfr. Daw'r llyfr i ben gyda Rhys yn nodi fod angen i Gymdeithas yr Iaith 'ailddiffinio eu hunain' sy'n reit eironig o ystyried ei fod yn sôn am Toni Schiavone bob tro y sonia am y Gymdeithas. Mae hyn yn awgrymu bod Rhys Mwyn ei hun bellach yn byw yn y gorffennol oblegid nid yw Toni wedi ymhél â threfniadau'r Gymdeithas o ddifri ers blynyddoedd ac mae’r genhedlaeth newydd wrth y llyw ers talwm yn trefnu’r gìgs a’r teithiau! Does dim sôn o gwbl yma am y llu o artistiaid sydd wedi cael llwyfan gan y Gymdeithas yng nghyfres ‘Naws’ yn Aberystwyth ac ‘Abri’ yng Nghaerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond mae'n llyfr gonest a hynod o ddiddorol sy'n adrodd hanes cyfnod arbennig trwy lygaid un a oedd yno. Am fod yma gymaint o gyffyrddiadau personol, buaswn i’n dadlau ei fod yn rhagori ar lyfr Hefin Wyn Ble Wyt Ti Rhwng? sy'n adrodd, yn fras, hanes yr un cyfnod. Fe’ch anogaf i ddarllen yr efengyl hon yn ôl Rhys Mwyn – ond peidiwch â’i chredu fel efengyl chwaith!

Rhys Llwyd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
Further Information:
O deithio Ewrop gyda'r Anhrefn, cyhoeddi recordiau tanddaearol arloesol, rheoli degau o fandiau a threfnu cannoedd o gigs, cyfrannodd Rhys Mwyn fwy nag unrhyw un i'r Sin Roc Gymraeg.
Ef oedd rheolwr cyntaf Catatonia ac ef roddodd y cyfle cyntaf I Gruff Rhys a Dave Datblygu. Ond bu hefyd yn ddraenen barhaus yn ystlys y byd cyfryngol, saff, Cymraeg. Bu'n gyson feirniadol o S4C a Radio Cymru, a thra oedd yntau'n hyrwyddo bandiau Cymraeg ar Radio1 ac ym mhedwar ban byd roedd Radio Cymru yn ei wahardd. Croeso I fywyd heriol, dadleuol ac arloesol Rhys Mwyn.
"Mae cyn lleied o hanes y byd pop Cymraeg wedi cael ei gyhoeddi/ddarlledu fel bod pob cenhedlaeth newydd bron yn hollol anwybodus o'r cyfoeth ddaeth o'u blaen. Dyma gyfle i mi gyflwyno'r stori fel digwyddodd hi drwy lygaid yr Anhrefn a Rhys Mwyn - y gwir yn ol Rhys Mwyn. Fel dywedodd y Manic Street Preachers: 'This is my truth.'"
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Gêm y Steddfod
 
£9.95
 
Buy Now
Cymry Gwyllt y Gorllewin
Dafydd Meirion
£5.95
 
Buy Now
Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau
Llwyd Owen
£7.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now