Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Swshi, Snogs a Sgribls Hogan FlGwen Lasarus View more titles by 'Gwen Lasarus'
ISBN: 9780862439286 (0862439280)Publication Date November 2006
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Suitable for age 12+ or Key Stage 3/4 Format: Paperback, 182x121 mm, 109 pages Language: Welsh Available Our Price: £4.95 
Swshi, Snogs a Sgribls Hogan Fl
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
More adventures with the hot-headed teenager. A sequel to Sgribls Hogan Flêr and Snogs a Sgribls Hogan Flêr

Mwy o helyntion y ferch benboeth yn ei harddegau - dyddiadur sy'n ddilyniant i Sgribls Hogan Flêr a Snogs a Sgribls Hogan Flêr.
Dyma ddilyniant i ddau lyfr arall gan Gwen Lasarus sy’n adrodd hanes merch ifanc o’r enw Corin. Yn y gyfrol ddiweddaraf hon mae ei bywyd eto’n llawn cyffro a helyntion.

Dyddiadur merch pedair ar ddeg oed sy’n berchen ar ystafell flêr yn llawn dillad budr ydy o. Mae hi yn ferch i un o brif edmygwyr Bryn Fôn, yn chwaer i Gethin (Zwi Bon o’r Blaned ZwiB) ac mae ei thad yn actio’n rhyfedd iawn wedi iddo dderbyn llythyr o Siapan. Dilynwn brofiadau Corin wrth iddi dyfu’n ddynes a sylweddoli bod ei bronnau’n tyfu’n sydyn. Creisus go iawn! ‘ O diar! Ro’n i newydd feddwl am rywbeth . . . Lle ro’n i’n mynd i’w rhoi nhw rŵan?!’ Wrth gwrs mae’r hogiau yn yr ysgol wrth eu boddau, yn enwedig Medwyn Parry!

Darlun credadwy o fywyd merch ifanc a geir yma. Mae’n aelod o’r band ‘Bêbs’ gyda’i ffrindiau, yn hoff iawn o snogio hogiau lysh o YstaLYFera yng ngwersyll Glanllyn ac yn flin pan benderfyna ei ffrind, Poli, ei bod am droi’n goth! ‘Chdi yn Goth – ma’r peth yn hollol bananas. Ta-ra a joia dy reid.’

Ond nid dyna’r unig bethau cyffrous sy’n digwydd ym mywyd Corin ! Mae’r llythyr o Siapan yn dipyn o sioc i’r teulu cyfan ac am newid eu bywydau am byth. Mae Corin ei hun wrth ei bodd gyda’r newyddion gan ei bod hi a’i brawd ’nawr yn cael eu trin fel ‘mini-selebs’ yn yr ysgol.

Llwyddodd yr awdures i gyfleu teimladau merch ifanc a chyflwyno profiadau Corin yn ddifyr a hwyliog. Mae Swshi, Snogs a Sgribls Hogan Flêr, fel y ddwy nofel flaenorol, yn llawn hiwmor ac yn hawdd ei darllen, a bydd yn sicr o apelio atoch chi ferched ifanc yn eich arddegau yn arbennig. Heb i mi ddatgelu dim ymhellach, fe welwch fod Corin yn gymeriad hawdd iawn uniaethu â hi! Mynnwch ei darllen!

Ffion Furci

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Author Biography:
Gwen Lasarus qualified as a teacher but has been an actress for over 20 years. Originally from Llanfair Pwll, Anglesey, she went to David Hughes School. Reading, swimming, yoga, cooking, biking and walking are her main interests. Her early influences were Enid Blyton then Kate Roberts, John Gwilym Jones, Sion Eirian and more recently Frank McCourt, Helen Fielding and M. Scott Peck.
Further Information:
Mae Corin yn ôl ac mae ei bywyd mor gyffrous ag erioed: Mae Dad yn stresd, Gethin yn niwsans a Mam yn iar. Mae'r genod wedi ffurfio band - y Bebs - sy'n barod i gymryd drosodd y byd, ac mae 'na fynydd o hogia a hyd yn oed mwy o swshi!! (Heb son am y llythyr o Japan)

********************************
Yr Hogan Flêr yn Dal i Sgriblo a Tectstio!

Bydd merched Cymru yn falch o weld bod Corin yn dal i sgriblo yn ei dyddiadur. Ar ôl cyhoeddi Sgribls Hogan Flêr, a Snogs a Sgribls Hogan Flêr dyma’r drydedd gyfrol yn y gyfres. Mae’r gyfrol wedi cael ei hanelu at ferched yn eu harddegau, ac yn darlunio trwy gyfrwng dyddiadur, e-byst, negeseuon testun ac MSNs bywyd merch ddychmygol o’r enw Corin. Y tro yma mae Corin a’i ffrindiau wedi ffurfio band - y Bebs - sy’n barod i gymryd drosodd y byd, ac mae yna lwyth o helyntion am ei ffrindiau, ymweliad â Glan Llyn, ysgol a bechgyn, yn cynnwys un o Siapan, yn llenwi ei dyddiadur.

Yn ôl yr ymateb a gwerthiant y ddwy gyfrol flaenorol mae’n amlwg bod Gwen Lasarus, sy’n wyneb adnabyddus ar y sgrin a llwyfan fel actores, wedi llwyddo i uniaethu gyda bywyd merch ifanc, heb fod yn nawddoglyd. Mae’r drydedd gyfrol hefyd yn dangos bod ei bys ar y pỳls ar y datblygiadau technolegol diweddaraf, dywedodd,
“Dyma Swshi, Snogs a Sgribls Hogan Flêr yn gweld gola dydd a dwi’n gobeithio bydd genod Cymru gyfan yn mwynhau darllen hon ac yn chwerthin lond eu bolia! A fydd pedwerydd? Dwi ddim yn meddwl fod lle ar y clawr am deitl hirach na Swshi, Snogs a Sgribls Hogan Flêr!!”

Bydd darllenwyr sylwgar yn sylwi mai merch Gwen Lasarus, Greta Jâms, yw un o’r merched sy’n cerdded yn hamddenol ar glawr y llyfr. Yn y dyfyniad ar y clawr ôl dywed Greta taw hon yw’r “orau eto am hanesion Corin”.
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cyfres Nofelau i'r ...
Gwen Lasarus
£3.95
 
Buy Now
Powdwr Rhech!
Eirug Wyn
£3.95
 
Buy Now
Sgôr (Nofel T)
Bethan Gwanas
£3.95
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now