| Bibliographical Information |
| Llyfr Mawr y PantsDaniel Glyn, Matthew Glyn
View more titles by 'Daniel Glyn, Matthew Glyn' |
ISBN: 9780862439316 (0862439310)Publication Date November 2006
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bontIllustrated by Chris GlynSuitable for age 9-11 or Key Stage 2
Format: Paperback, 209x149 mm, 80 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£4.95
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
A book of humour, funny poems and unsuitable(!) ideas, including many facts in poor taste, advice on how to construct a farting machine, an 'autobiography' by footballer Dwayne Lwni. And much more fun and frolics with two of Wales's craziest comics. Includes cartoons by Chris Glynn. Play AudioLlyfr o hiwmor, cerddi dwl a syniadau na ddylid eu rhoi i blant cynradd. Yn cynnwys degau o ffeithiau di-chwaeth, disgrifiad manwl o sut i wneud peiriant rhechu, a hunangofiant y pêl-droediwr Dwayne Lwni. Llawer o hwyl yng nghwmni dau o ddigrifwyr mwyaf gwallgof Cymru. Ceir cartwnau gan Chris Glynn. Clip Sain
|
|
Sôn am chwerthin! Dyma lond trol hollol ddi-chwaeth o ffeithiau, jôcs, straeon, posau, cwisiau, awgrymiadau, a ryseitiau sy’n sicr o apelio at blant 7-12 oed (a phlant mawr hefyd). Mae’n llawn o gyfeiriadau at drôns, mynd i’r tŷ bach, rhechu, tisian hynny yw yr union bethau mae bechgyn bach yn arbennig o hoff o greu jôcs amdanynt. Mae cartwnau Chris Glynn yn ychwanegiadau ardderchog at yr hiwmor.
Dylai bod copi o hwn ym mhob cartref a dosbarth yng Nghymru bydd hyd yn oed y darllenwyr mwyaf anfoddog yn ysu i gael eu dwylo anarchaidd ar hwn!
Bethan Hughes
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Author Biography: Mae'r awduron, Daniel a Matthew Glyn, yn wynebau cyfarwydd iawn ar y sin gomedi "stand-up" ac ar raglenni teledu i blant cynradd. Daniel a Matthew Glyn sydd yn gyfrifol am rhai o glasuron teledu plant Cymraeg, megis 'Y Rhaglen Wirion 'Na', 'Hotel Eddie' ac 'O Na Y Morgans'. Ond fel y dywed Daniel Glyn: “Dyma’r tro cynta iddyn nhw chwydu cynnwys eu hymennyd ar bapur, a’r canlyniad yw Llyfr Mawr y Pants!” Further Information: Llyfr o hiwmor, cerddi dwl a tips dylach byth i blant cynradd. Yn cynnwys degau o ffeithiau di-chwaeth, disgrifiad manwl ar sut i wneud peiriant rhechu, a hunangofiant y peldroediwr twp, Dwayne Lwni... Miloedd o hwyl yng nghwmni dau o ddigrifwyr mwya cracyrs Cymru. Llawn cartwnau gan yr artist Chris Glynn. |
|
|
|
Last Updated on 16 August 2010
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|