|
An overview of the development of Welsh traditional music, providing information on subjects such as the harp, the lute, festivals, penillion singing, and the recent revival in folk-singing. The volume is published to coincide with the opening of the Tŷ Siamas centre in Dolgellau.
Braslun o ddatblygiad traddodiad cerddorol Cymru, gan roi gwybodaeth am destunau fel y delyn, y crwth, gwyliau haf, cerdd dant, canu pen pastwn a'r adfywiad diweddar mewn canu gwerin. Cyhoeddir y gyfrol i gyd-fynd ag agor canolfan Tŷ Siamas yn Nolgellau.
|
|
Dyma lyfr bach diddorol a defnyddiol iawn i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y traddodiad cerddorol Cymreig. Dyma’r tro cyntaf, hyd y gwn i, i rywun fynd ati i grynhoi ein traddodiad gwerin yn y fath fodd, a rhoi, yng ngeiriau’r awdur ei hun, ‘un darlun cryno’ ohono. Arfon Gwilym yw’r dewis delfrydol ar gyfer y gwaith, ac yntau’n un o’r bobl brin hynny sy’n deall hanfod ein traddodiad gwerin, boed hynny’n ganu gwerin, yn gerdd dant neu’n gerddoriaeth offerynnol.
Ymgais sydd yma i osod traddodiad cerddorol Cymru yn ei gyd-destun, ac mewn cyfrol o’r maint hwn, braslun a gawn, wrth reswm, yn hytrach nag astudiaeth ysgolheigaidd, ddofn. Mae’n fraslun cynhwysfawr iawn, serch hynny, sy’n llawn ffeithiau difyr a diddorol, ac mae’r cyfan yn hawdd iawn i’w ddarllen. Awn yn ôl i wreiddiau’r traddodiad yng Nghymru, cawn gipolwg ar ddathliadau ac arferion tymhorol fel y Fari Lwyd, Calennig a Hela’r Dryw, yn ogystal â rhai llai adnabyddus fel Blawta a Blonega, Taplas a Gwasael. Ceir adran ar Gerdd Dant, Canu Gwerin, Canu Baledi a Chanu Plygain, a chawn ddisgrifiad hefyd o arddull llai cyfarwydd i lawer, sef Canu Pen Pastwn. Mae’r adran ar hen offerynnau yn brawf nad gwaith a daflwyd at ei gilydd mewn amser byr yw’r gyfrol fach hon, mae ôl ymchwil drylwyr yma, ac felly hefyd trwy’r llyfr cyfan. Cawn gipolwg hefyd ar rai o’r cymeriadau sydd wedi gadael eu marc ar ein traddodiad.
Mae Arfon yn cloi trwy geisio crynhoi’r sefyllfa yng Nghymru heddiw, a dyfalu ‘I ble 'dan ni’n mynd?’ o’r fan hyn. Mae’n cyfeirio at nifer o grwpiau ac unigolion sydd wedi, neu sydd wrthi’n gwneud cyfraniad (mae Plethyn yn eu plith ffiw!), ac mae’n sôn am dri datblygiad newydd a all wneud gwahaniaeth, sef Trac, Clera a Thŷ Siamas. Mae’n gorffen gyda chyfres o gwestiynau penagored, a hynny am nad oes yna atebion syml i’r problemau sy’n wynebu ein traddodiadau gwerin yma yng Nghymru heddiw. A all ein traddodiad gwerin ddal ei dir yn erbyn yr holl ddylanwadau estron? Dadl Arfon yw na all ‘y newydd fodoli mewn gwagle’, ac na all ‘adeilad sefyll ar ei draed os nad oes ganddo sylfaen’. Yn sicr, mi fydd gwaith Arfon yn gymorth i ailaddysgu’r Cymry am eu traddodiad ac atgyfnerthu rhywfaint ar y sylfaen hwnnw – a does dim rhaid i chi fod yn ‘folkie’ i fwynhau’r gyfrol hon!
Linda Griffiths
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Author Biography: Fe'i magwyd yn swn diwylliant gwerin Meirionydd, yng nghyffiniau Dolgellau a Phenllyn, a threuliodd dalp o'i oes yn Sir Drefaldwyn, yn ohebydd ar Y Cymro cyn mynd i redeg busnes ym mhentref Penybontfawr. Mae ganddo droed mewn sawl gwersyll - y byd canu gwerin a cherdd dant, a hefyd bellach ym myd yr offerynwyr traddodiadol (Clera). Further Information: Wales has a long and rich musical tradition, which is presented in this easily readable volume. From the tradition of singing verses, the early eisteddfodau to the seasonal holidays the book gives a taste of the old customs of the Welsh. We also get a glance at the musical instruments which have developed in Wales since the Middle Ages and those individuals that contributed so much to uphold the folk tradition and to revive it during the Twentieth Century. This is an indispensable volume for anyone interested in the musical tradition of Wales. |