Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Gwylliaid GlyndŵrDaniel Davies View more titles by 'Daniel Davies'
ISBN: 9780862439873 (0862439876)Publication Date June 2007
Publisher: Y Lolfa, Tal-y-bont
Format: Paperback, 194x130 mm, 188 pages Language: Welsh Available Our Price: £7.95 
Gwylliaid Glyndŵr
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A satirical novel about a risky attempt to purloin the historically significant Letter of Pennal from the National Library of Wales. A witty novel satirizing the institutions and people of Wales with humour and flair.

Nofel ddychanol yn dilyn ymgais herfeiddiol i ddwyn Llythyr Pennal o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn llawn dychan o sefydliadau a phobl Cymru, dyma nofel lawn hiwmor a difyrrwch.
Nofel gyffrous ac afaelgar yw ail nofel Daniel Davies, Gwylliaid Glyndŵr, am hanes criw o genedlaetholwyr sy’n ceisio adennill Llythyr Pennal yn ôl i Gymru o ddwylo llywodraeth Ffrainc.

Ar y cyfan, fe fwynheais y llyfr yn fawr iawn. Yn anffodus, ni lwyddodd y tudalennau cyntaf i ddal fy sylw yn gyfan gwbl, ac roedd yn rhaid i mi ddod at ddiwedd y bennod gyntaf cyn i mi deimlo’r awydd i gario ymlaen. O’r pwynt yna ymlaen roedd y stori'n rhedeg yn weddol esmwyth a chyflym. Ar y cyfan, roedd y plot yn glir a chyffrous ond roedd rhai darnau a berodd i mi golli’r trywydd, braidd!

Roedd y tri phrif gymeriad – Gwen, Llew a Gruff – wedi eu llunio’n dda ac yn gredadwy (bron yn rhy gredadwy; roeddwn i’n medru gweld elfennau o’n cenedlaetholwyr brwd ni yng Nghymru ym mhob un ohonynt!). Er hyn, roedd tueddiad i ddeialog y cymeriadau fod braidd yn stiff a lletchwith, ac ar adegau, pan oeddwn wedi ymgolli yn y nofel, roedd y ddeialog anghredadwy yn fy atgoffa mai darllen llyfr oeddwn i, ac nid pry ar wal yr ystafell.

Heb ddatgelu gormod o’r stori, dyma hanes tri chymeriad yn ceisio dwyn Llythyr Pennal o’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gyda chymorth un cymeriad arall, sef John Lazarus. Roedd yr awdur yn llwyddo i ddal sylw'r darllenydd tan y dudalen olaf – yn enwedig wrth ychwanegu tro yng nghynffon y stori ychydig cyn y diwedd.

Roedd y disgrifiadau o ardal (a thafarnau!) Aberystwyth yn realistig; yn enwedig yr olygfa pan aeth John Lazarus i’r Llew Du a chael ei daflu allan o'r lle am sarhau’r gweithwyr yno! Roedd rhai o’r cymeriadau yn lliwgar iawn ac roeddwn i’n hoff iawn o bortread Daniel Davies o gymeriadau a oedd yn gweithio ym myd cyfryngau Cymru, yn enwedig y newyddiadurwr Cymreig, Lenny Meredith.

Mae’n nofel wahanol i unrhyw beth arall dwi wedi ei darllen yn y Gymraeg ers tipyn; mae’n realistig ac yn sôn am gymeriadau byw Cymru, ac mae’n eithaf mentrus yn ei thriniaeth o genedlaetholdeb a thor-cyfraith sy’n medru deillio o hynny. Dyw hi ddim yn nofel berffaith o bell ffordd, ond mae’n nofel ysgafn i’w mwynhau, gyda stori gyffrous fydd yn siŵr o ddifyrru a phlesio’r darllenydd!

Lowri Johnston

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Further Information:
Ar Fawrth y chweched 1406 ysgrifennwyd Llythyr Pennal - un o lythyrau pwysicaf hanes Cymru, yn datgan breuddwyd Owain Glyndwr am ddyfodol y genedl. I ddathlu che chan mlwyddiant ers ei ysgrifennu mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi sicrhau'r hawl i ddefnyddio'r llythyr mewn arddangosfa arbennig. Yr un pryd mae sawl lleidr a chenedlaetholwr brwd yn gwel cyfle euraid i gyflawni'r dasg arwrol o ddwyn Llythyr Pennal i Gymru am byth. Er mwyn cyflawni'r dasg fe sefydlir un o'r mudiadau lleiaf brawychus ond mwyaf cyfrwys a welodd Cymru ers y Free Wales Army - Gwylliaid Glyndwr.

*************************************
Lle Mae’r Meibion Glyndwr Newydd?

Yn y Gymru sefydliadol gyda’i Senedd newydd yng Nghaerdydd, cwestiwn nad yw’n cael ei ofyn yn aml yw lle mae ymgyrchwyr a phrotestwyr yr oes hon? Ym marn yr awdur Daniel Davies sydd ar fin cyhoeddi ei drydydd llyfr, Gwylliaid Glyndwr, mae’n ymddangos fod y syniad o brotestio a gweithredu yn erbyn y sefydliad i bob pwrpas wedi dod i ben yn ystod y pymtheg mlynedd diwetha: “Gyda’r Cynulliad a’i holl beirianwaith mae’n ymddangos i fi ein bod ni’n cael asmer rhy gyfforddus i brotestio erbyn hyn – sefyllfa go wahanol i ugain mlynedd yn ôl pan oedd ymgyrchwyr a phrotestwyr llawer parotach i ymladd dros annibyniaeth a Deddfau Iaith newydd.

Mae’n cyfadde fod y newid yma wedi bod yn rhan o’i ysgogiad i ysgrifennu’r nofel, sydd am griw o’r ymylon sy’n cael eu gwthio i weithredu’n eithafol yn enw mudiad o’r enw Gwylliaid Glyndwr er mwyn ceisio dwyn Llythyr Pennal yn ôl i Gymru. Meddai Daniel: “Nofel ysgafn, gomedi yw Gwylliad Glyndwr. Er hynny dwi’n gobeithio bydd na bethau am y wlad a’i sefydliadau heddiw yn taro tant gyda darllenwyr.”

Daw’r awdur Daniel Davies o Llanarth ac mae’n gweithio i’r BBC yn Aberystwyth. Dyma’i drydydd llyfr gyda’r Lolfa yn dilyn Pele Gerson a’r Angel a Twist ar Ugain. O ran dylanwadau, meddai Daniel: “Ma raid gweud mod i’n mwynhau stwff dychanol awduron fel Eirug Wyn a Jaroslav Hasek. Yn y llyfr yma does dim gwadu bu gwaith Tibby Clarke (The Lavender Hill Mob), William Rose (The Ladykillers) a Troy Kennedy Martin (The Italian Job) yn dipyn o ddylanwad ar y ‘caper’ comic hwn”.

Mae’r nofel hefyd wedi ei lleoli union chwe chan mlynedd ers ysgrifennu llythyr Pennal, ac yn gyfraniad unigryw i nodi can mlwyddiant sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle lleolwyd sawl golygfa ddifyr yn y gyfrol.
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Bwgan (Casét)
Bob Eynon
£1.50
 
Buy Now
Gwyddoniadur Cymru yr ...
 
£55.00
 
Buy Now
Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr
Alun Jones
£8.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now