|
Hen ysgolhaig o fri oedd J. Gwyn Griffiths (1911–2004), awdurdod ar yr Hen Fyd ac Athro’r Clasuron ac Eifftoleg yn Abertawe. Un o Gwm Rhondda ydoedd ac yn falch iawn o’i wreiddiau yn y traddodiad Ymneilltuol a Radicalaidd, er yn feirniadol ohonynt ac yn barod i herio'u daliadau o dro i dro. Yn wleidyddol roedd yn driw i Blaid Cymru a thrwy ei gyfeillgarwch â phobol fel Pennar Davies, Gareth Alban Davies a Rhydwen Williams, yn aelod o Gylch Cadwgan, sef grŵp o awduron blaengar a oedd yn arfer cyfarfod yn ei gartref yn y Pentre, Rhondda, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Un o’i arwyr personol oedd y rhyfelwr Cadwgan, a’i floedd i’r gad, ‘Hog dy fwyell!’, sydd yn deitl i’r casgliad hwn o gerddi.
Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi yn ystod ei oes ac maent i gyd wedi'u cynnwys yma o dan olygyddiaeth ofalus ei fab, Heini. Yn ei gyfrol gyntaf, Yr Efengyl Dywyll (1944), mae ’na sonedau a thelynegion ond, o’r dechrau, roedd y bardd hwn am chwythu einioes newydd i’r hen ffurfiau, gan ddefnyddio iaith bob dydd i gyfleu’r profiad o fyw mewn cymdeithas ddiwydiannol a threfol. Rhaid bod y cerddi hyn wedi creu afiaith mawr ymhlith y Cymry darllengar ar y pryd, yn enwedig yr ifainc. Mae’r un peth yn wir am ei gyfraniadau i Cerddi Cadwgan (1953), y casgliad y cyfrannodd aelodau eraill o’r grŵp iddo hefyd. Erbyn ei gyhoeddi roedd J. Gwyn Griffiths wedi priodi Iddewes Almaenig ac mae ei ymwybyddiaeth o wareiddiad Ewrop wedi'i dwysáu.
Ond ceir ei waith aeddfetach a mwyaf trawiadol yn Ffroenau’r Ddraig (1961), cyfrol o gerddi sydd ymhlith y mwyaf bachog y gwn i amdanynt. Bu Gwyn Griffiths yn stansh iawn yn ei gefnogaeth i Blaid Cymru ac nid oedd gyda’r rhai sy’n honni nad yw barddoniaeth yn gyfrwng addas i wleidyddiaeth – a hyd yn oed i bropaganda, ar dro. Cerddi dewr, ymroddedig a chaboledig sydd yma, er enghraifft ‘Dros Gymru y Tro Hwn’, sydd yn rhyw fath o gerdd ar gyfer y corn siarad yn ystod etholiad. Cofio rhai o gewri’r Blaid yw rhan o’i nod: Hywel Heulyn Roberts, Isaac Stephens, Eic Davies, Dafydd Orwig, a Chris Rees – ‘Chris, mae’r enfys am dy enaid pur, ffanatig / yn seithliw o rinweddau broch.’ Eto i gyd, nid yw’r bardd yn colli golwg ar y byd ehangach, megis yn ei gerddi am garcharorion a ffoaduriaid yn Ewrop; ac mae min ar ei dafod pan mae’n trin capeli Cymru a’u haelodau gorbarchus.
Yn ei ddwy gyfrol olaf, Cerddi Cairo (1969) a Cerddi’r Holl Eneidiau (1981), gwelir ystod eang ysgolheictod y bardd. Wrth ddarllen y cerddi meistrolgar hyn, mae'r darllenydd angen y nodiadau ar yr holl gyfeiriadau at y byd clasurol sydd yng nghefn y llyfr. Ond, diolch byth, nid yw’r ysgolheictod yn boddi’r awen. Yn wir, mae’r bardd yn llwyddo i gadw at yr iaith lafar wrth drafod y pynciau mwyaf astrus. Does dim byd barddonllyd-addurniadol yma yn y dull bondigrybwll y mae ein beirniaid Eisteddfodol mor hoff ohono. Arddull uniongyrchol a ddefnyddiodd J. Gwyn Griffiths i lunio'i gerddi pwerus ac, er ei fod yn gallu bod yn ymenyddol weithiau, mae ei ymateb emosiynol i’r byd a’r betws yn llifo o dan yr wyneb.
Dyma gyfrol i’w thrysori. Pe bai’r bardd yn dal ar dir y byw, buaswn yn synnu dim na fyddai ei gyfrol yn ennill un o wobrau’r flwyddyn. Mae’n rhy hwyr i hynny ddigwydd, gwaetha’r modd, ond serch hynny mae’n llawn haeddu cael ei darllen gan bawb sy’n mwynhau barddoniaeth o’r safon uchaf.
Meic Stephens
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
|