Casgliad o dros 30 o ymsonau a cherddi doniol yn nhafodiaith unigryw tref Caernarfon a luniwyd gan Gruffudd Parry i'w cyflwyno gan Richard Hughes, y Co Bach, ynghyd â CD yn cynnwys chwe pherfformiad byw.
A collection of over 30 humorous monologues and poems in the unique dialect of Caernarfon town written by Gruffudd Parry for Richard Hughes, the Co Bach, including a CD comprising six live performances.
|
Pan oeddwn yn hogyn bach, arferwn gael lifft ir ysgol gan Gruffydd Parry a oedd yn athro yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Arferwn chwerthin am ben y Co Bach ar y Noson Lawen ar y weiarles, ond wyddwn i ddim mai fy nreifar oedd yn gyrrur sgript hefyd. Yr actor sydd wastad yn cael sylw, yntê?
Bu rhai o nodweddion tafodiaith Caernarfon ar fy nhafod leferydd erioed, gyda geiriau megis y fodan, mags, sgram ar stag yn cynnig cryn gredinedd i ni laslanciau ar strydoedd Llanberis yn y pumdegau ar chwedegau. Ond yn y Dre roedd y Cofis go-iawn, a champ Richard Huws a Gruff Parry oedd dod â hwy i sylw cenedlaethol.
Ceir yma dros ddeg ar hugain o ymsonau, cerddi gan fwyaf gydag ambell i ddarn o ryddiaith hefyd. Ceir cyflwyniad gan John Roberts Williams syn rhoi crynodeb buddiol iawn o hanes creu cymeriad y Co Bach yn y lle cyntaf, ynghyd â geirfa ar gyfer y rhai nad ydynt yn gyfarwydd âr dafodiaith. Maer CD o archif Radio Cymru yn werth ei chlywed (er nad yw ffefrynnau megis Santa Clos a Wil Bach ai dad yn poeri o ben waliau Castell Caernarfon arni). Braidd yn ddi-drefn ywr detholiad, serch hynny; buasai dyddiadau wrth droed y cerddi wedi bod yn ddefnyddiol gan fod y defnydd yn rhychwantu cyfnod go faith.
Maer rhan fwyaf or cerddi yn darllen fel mini-comedïau sefyllfa, rhai ohonynt yn abs£wacute;rd, eraill yn gwbl swrealaidd. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor dreisgar oedd yr hen fodan: mae hin colbio rhywun byth a hefyd, ar y stryd, mewn siopau a hyd yn oed ar gae pêl-droed! Ond ychydig o bechodau eraill sydd yma. Dim rhegi, dim lysh, nemor ddim rhyw . . . Fel na roedd hi yn y Gymru swyddogol bryd hynny: Ond fiw i mi ddeud be ddwedodd yr hen fodan, chwedl y Co Bach, wel ddim yn fama ar y BBC.
Ac er gwaethaf yr hwyl, darlun y dosbarth canol or dosbarth gweithiol sydd yma: y dyn ar y dôl ai bladres o wraig fawr dew, ar mab nad oes mwy o waith yn ei groen nai dad. Ceir awgrym o wrthdaro cymdeithasol bob hyn a hyn:
Wrth gwrs, mae na Gaernarfon arall
Town cownsil ar Maer-how-di-dw
Ar Ediwceshon ar slobs ar Rheinws
Ond dan ni ddim yn gneud lot efo nhw.
Ond ychydig iawn o ddefnydd a wneir ohono. Tuag at i fewn y maer dychan yn cael ei gyfeirio ym mydolwg hunanddifrïol, hunanfychanol y Co Bach. Tai cownsil, rations, dôl . . . Mae cynhwysion cynir pum degau i gyd yma; yr hyn sydd ar goll yw tosturi.
Dafydd Huws
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|