Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr: Gwaith Mathau Brwmffild
ISBN: 9780947531768 (0947531769)Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 2003
Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan A. Cynfael Lake Fformat: Clawr Meddal, 235x155 mm, 130 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Ein Pris: £10.00   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Astudiaeth o waith y bardd crwydrol Mathau Brwmffild (bl. 1530-45) a ganodd gerddi mawl i uchelwyr o bob rhan o Gymru, yn cynnwys rhagymadrodd cynhwysfawr, golygiad o 21 o gerddi ynghyd â nodiadau eglurhaol manwl a geirfa ddefnyddiol.

A study of the work of the travelling poet Mathau Brwmffild (1530-45) who sang the praises of noblemen throughout Wales, comprising a comprehensive introduction, an edited version of 21 poems including detailed explanatory notes and a useful glossary.
Clerwr o Faelor Gymraeg (yng ngogledd-ddwyrain Cymru), a fu’n crwydro Cymru benbaladr ydoedd Mathau Brwmffild. Y mae’n enw anghyfarwydd, bid sicr, i’r rhan fwyaf o ddigon o ddarllenwyr nad ydynt yn arbenigo ym marddoniaeth y Cywyddwyr. Er hynny, y mae digon o amrywiaeth yn y gyfrol hon i’r neb a fynn ddeall mwy am farddoniaeth yr Oesoedd Canol.

Y mae Gwaith Mathau Brwmffild yn perthyn i gyfres o ryw ugain cyfrol a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Y mae’r gyfres hon wedi meithrin to o olygyddion ifainc ac wedi dibynnu ar yr un pryd ar brofiad hoelion wyth y maes. I’r ail ddosbarth y perthyn Cynfael Lake. Nid dyma’r tro cyntaf iddo gyfrannu i’r gyfres, ac y mae ôl ei brofiad i’w weld yn y gyfrol hon.

Y mae ei arddull olygyddol yn y gyfrol hon yn nodweddiadol o’i gyfraniadau eraill i’r gyfres. Cynnil iawn yw ei ddefnydd o nodiadau bob amser a gedy i eiriau’r bardd siarad â ni yn ddirwystr. Rhagoriaeth y dull hwn yw ei fod yn caniatáu i’r darllenydd ymgyfarwyddo â llais y bardd yn hytrach na beiro coch y golygydd. Ar y llaw arall, gall y dull ymatalgar hwn beri penbleth i’r sawl sydd yn anghyfarwydd â chystrawen neu eirfa’r Cywyddwyr.

Yn ei ragymadrodd rhydd gryn sylw i gynghanedd y bardd, ond ni thrafodir elfennau eraill o grefftwaith Mathau Brwmffild er bod rhai o’i ddelweddau'n gofiadwy iawn. Wrth farwnadu Rhys ap Hywel, sonnir am y mwg a’r niwl a’r tarth a’r hud a ddaeth yn sgil marw Rhys. Y mae’r ddelwedd hon, sef y tywyllwch a gysylltir ag angau, yn bur gonfensiynol ond, er hynny, llwyddodd Mathau Brwmffild i’w thrafod yn bur gelfydd.

Un o lecynnau glasaf y rhagymadrodd yw’r ymdriniaeth â defnydd Mathau Brwmffild o ffurfiau llafar neu dafodieithol. Tynnir ein sylw, er enghraifft, at duedd y bardd i hepgor yr ‘f’ ar ddiwedd gair fel “pennaf” a defnyddiai Mathau ffurfiau fel “tebygolieth” yn lle “tebygoliaeth”. Casgliad y golygydd yw mai “gwedd . . . ar y dirywiad yn safon canu’r beirdd a ddaeth yn amlycach wrth i’r ganrif fynd rhagddi” yw hyn. Nid wyf yn sicr a allaf gytuno â’r fath gollfarnu. Yn wir, un o’r agweddau mwyaf byw ar waith Mathau Brwmffild yw’r lliw llafar ar ei farddoniaeth sydd yn ein hatgoffa bob gafael mai i’r llafar y perthynai barddoniaeth ganoloesol ac nid i’r llyfr.

Gwedd ddifyr ar fywyd y bardd oedd natur eang ei gylch clera. Yn groes i’r disgwyl, efallai, cynigia’r golygydd mai’r beirdd gorau a gâi aros yn eu milltir sgwâr a’r beirdd salaf oedd yn gorfod ymadael â’u bro. Dyma adeg pan nad oedd y ddihareb, “Gorau Cymro, Cymro oddi cartref” yn rhan o’n cymhleth isradd cenedlaethol. Tyn Cynfael Lake ein sylw at fywydau beirdd eraill fel Lewys Môn a Thudur Aled yn garn i’w ddadl. Ond, mewn gwirionedd, nid yw’r ddadl wedi ei thorri gan fod modd tynnu sylw at feirdd “mawr” eraill (fel Dafydd ap Gwilym) a grwydrodd y wlad.

Bid a fo am hynny, ceir ambell gyffyrddiad tra phersonol yn y casgliad hwn, sydd yn codi cwr y llen ar bersonoliaeth Mathau. Er enghraifft, cwyna Mathau yn gyson am y trafaelu a wyniai ei draed. Yr oedd y teithio a’r clera hwnnw yn faich ac yn dreth ar Fathau, druan, ond fel y cyfeddyf ei hun yn ei gywydd i erchi march gan Rydderch ap Dafydd o Fyfyrian, bardd wrth broffes ydoedd o’i gorun i’w sawdl a mynd oedd raid iddo, “Er yn flwydd fy swydd yw sôn,/ Clera a hela haelion.” Diwrnod o waith oedd barddoni iddo.

Rywsut neu’i gilydd, o ddarllen golygiad graenus Dr Cynfael Lake, ceir yr argraff y byddai syniadaeth Saunders Lewis am ddelfrydau aruchel a Phlatoniaeth y Cywyddwyr fel Ewclid i fardd fel Mathau.

Owen Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Beirdd yr ...
 
£10.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Perl
Bet Jones
£8.99
 
Prynwch
Saesneg
Miriam, Daniel and Me
Euron Griffith
£9.99
 
Prynwch
Plant
Mali a'r Goleudy
Malachy Doyle
£12.99
 
Prynwch