Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr (CD) Alun Jones View more titles by 'Alun Jones'
ISBN: 9780954602550 (0954602552)Publication Date March 2005
Publisher: Tympan, Cardiff
Format: CD Language: Welsh Out of print Our Price: £17.35   
Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr (CD)
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A pack of three CDs providing an audio version of a powerful novel set in the Llyn peninsula weaving themes of detective, love and social novels together, with the sea playing an important part in the lives of the characters; by one of the most successful and popular novelists of the last quarter of the 20th century.

Pecyn o dri chryno-ddisg yn cynnig fersiwn llafar o nofel rymus wedi'i lleoli ym Mhen Llyn yn plethu ynghyd themâu straeon ditectif, serch a chymdeithasol, gyda'r môr yn chwarae rhan bwysig ym mywydau'r cymeriadau; gan un o nofelwyr mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd Cymru chwarter olaf yr 20fed ganrif.
Ddwy flynedd ar hugain yn ôl [1997] yr ymddangosodd argraffiad cyntaf y nofel hon. Un argraffiad ar ddeg yn ddiweddarach, deil i gynnig stori ogleisiol a chaboledig, a honno wedi’i saernïo’n gelfydd ac yn ddiddos tu hwnt.

Er gwaetha’r holl flynyddoedd ers imi agor y llyfr am y tro cyntaf, daeth holl gyffro’r stori’n ôl ataf yn syth ar ôl darllen ychydig baragraffau’n unig, a’r awydd i gyrraedd y diweddglo (anghofiedig) yr un mor gryf. Roedd llawer iawn o’r manylion hefyd wedi pylu, neu wedi mynd dros gof yn llwyr, ac felly’n dal i gynhyrfu’r emosiynau o’r newydd.

Yn anaml y bydda i’n dewis ailddarllen dim byd y dyddiau hyn, yn enwedig gyda chymaint o bethau newydd yn hawlio sylw o hyd. Ond mae hon yn llifo fel afon ac mae rhywun yn gallu ymlacio wrth ei darllen gan adael i rediad y stori ei gario i’r tudalen olaf heb orfod ymlafnio na cholli amynedd

Hanes y pensaer, Meredydd Parri, a gafwyd yn ddieuog – a hynny’n hollol gyfiawn – o drosedd ddifrifol, yn dychwelyd i’w gynefin ym Mhen Llŷn ar ôl cyfnod yn y ddalfa, yw craidd y nofel. Dilynwn anawsterau’r broses boenus, chwerwfelys sy’n ei wynebu wrth geisio ailafael yn ei fywyd a dysgu ymddiried o’r newydd. Yn cydblethu â helyntion Meredydd y mae hanes datrys a dirgelwch dau droseddwr go iawn yn dychwelyd at eu celc yn yr un ardal ac yn cael coblyn o ail.

Gyda strwythur cymaint o nofelau Cymraeg dros y chwarter canrif ddiwethaf yn aml yn niwlog, clogyrnaidd neu’n methu’r nod ar bob cownt, saif Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr ben ac ysgwydd uwchlaw llawer iawn o ryddiaith y cyfnod. Ategir y strwythur cadarn, di-lol yma gan gymeriadau diddorol, anystrydebol, adnabyddiaeth drylwyr o genre, bydolwg y cymeriadau a disgwyliadau’r gynulleidfa, a’r hen ffetis Cymraeg hollbwysig hwnnw, wrth gwrs, iaith rywiog werth chweil.

Â’r Gymraeg yn encilio ar garlam hyd yn oed ym mherfeddion Llŷn erbyn hyn, mae rhyw gysur hiraethus i’w gael wrth ddarllen nofel sy’n ail-greu mewn ffordd mor ddiffuant a chredadwy naws cymuned Gymraeg y 1970au – lle y byddai gweinyddesau, mae’n debyg, yn darllen Pigau’r Sêr i ladd ambell orig segur y tu ôl i’r bar. Efallai eu bod nhw'n dal i wneud hynny, ond dwi’n amau rywsut.

Hon oedd nofel gyntaf Alun Jones, a’r hyn sy’n galonogol yw’r ffordd y mae’r awdur, ar ôl campwaith mor addawol, wedi mynd ati i ddatblygu ac ymgryfhau o nofel i nofel ers hynny, a’r calondid mwyaf yn ddiweddar o weld nad yw wedi’i lwyr ddiflasu gan y rhwystredigaethau sy’n gallu mynd yn fwrn ar y nofelydd Cymraeg cyfoes, a bod cyfrol newydd sbon ganddo yn y siopau ers tro.

Darllenir y nofel gan Llion Williams.

Martin Davis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.



This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cwm Rhyd y Rhosyn 1 (SCD2090)
 
£10.20
 
Buy Now
Un Nos Ola Leuad (Scd2472)
Caradog Prichard
£9.70
 
Buy Now
Te yn y Grug (Scd2471)
Kate Roberts
£6.12
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now