Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Stafell Ddirgel, Y (CD) Marion Eames View more titles by 'Marion Eames'
ISBN: 9780954602567 (0954602560)Publication Date March 2005
Publisher: Tympan, Cardiff
Format: CD Language: Welsh Available Our Price: £16.99 
Stafell Ddirgel, Y (CD)
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
A pack of three CDs providing an audio version of a popular novel set in the Dolgellau area depicting the struggles of the Quakers to worship as they wish, and their decision to sail to a new life in America.

Pecyn o dri chryno-ddisg yn cynnig fersiwn llafar o nofel boblogaidd yn portreadu ymdrechion Crynwyr ardal Dolgellau i addoli yn ôl eu dymuniad, a'u penderfyniad i hwylio i'r Amerig a bywyd newydd.
Mae'r nofel hon yn adrodd pennod gythryblus yn hanes Meirionnydd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg pryd yr erlidiwyd aelodau mudiad y Crynwyr mewn ffordd mor atgas a didostur gan yr awdurdodau nes, yn y pen draw, i’r rhan fwyaf ohonynt orfod ymfudo i’r Unol Daleithiau gan adael bwlch cymdeithasol enfawr ar eu holau yn eu sir enedigol. Yng ngeiriau yr hanesydd, R.T.Jenkins, “mor dda i Gymru fuasai eu cyfraniad hwy i’w bywyd hi, pe cawsent gyfle i’w roi.”

Yn Y Stafell Ddirgel, llwydda Marion Eames i chwythu anadl i esgyrn sychion yr hanes yma gan greu cymeriadau cig a gwaed credadwy a naratif gafaelgar, cynhaliol. Mae’r gwaith ymchwil hanesyddol drylwyr a’r adnabyddiaeth o fro Dolgellau a chariad yr awdur tuag ati, yn amlwg, ond eto heb fod yn rhy ymwthiol, ac mae’r arddull yn aeddfed braf ac yn hollol ddiymdrech.

Ddeng mlynedd ar hugain ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf, er y gellir nodi llawer iawn o rinweddau amlwg wrth ei ailddarllen, ar sawl gwedd mae yna le i amau mai cyfyng yw apêl uniongyrchol y llyfr hwn erbyn hyn, ac nad yw'n glasur bytholwyrdd y gellir ei ddarllen droeon gan ddod o hyd i haenau newydd o ystyr ac ysbrydoliaeth. Eto, dichon ei fod yn destun gosod amlbwrpas defnyddiol yn yr ysgolion uwchradd ac mewn dosbarthiadau dysgwyr.

Er gwaethaf yr amheuaeth a fynegais, rhaid pwysleisio bod y cynnwys, fel sy’n wir am holl nofelau Marion Eames, yn ddiffuant ac yn taro deuddeg drwyddo draw, ac o edrych yn ôl mae’n drueni nad oedd amgylchiadau llenora yn y Gymraeg ar y pryd wedi caniatáu i’r awdures fedrus hon fod yn fwy cynhyrchiol.

Darllenir y nofel gan Betsan Llwyd.

Martin Davis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Un Nos Ola Leuad (Scd2472)
Caradog Prichard
£9.70
 
Buy Now
William Jones (Scd2513)
 
£13.26
 
Buy Now
Gwladgarwyr a Dihirod/ ...
Dennis Coslett
£5.95
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now