Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
I Ble'r Aeth Haul y Bore Eirug Wyn View more titles by 'Eirug Wyn'
ISBN: 9780954602574 (0954602579)Publication Date November 2005
Publisher: Tympan, Cardiff
Format: CD Language: Welsh Available Our Price: £16.99 
I Ble'r Aeth Haul y Bore
There are no Customer Reviews for this title.
 
Write a Customer Review
An audio adaptation of an historical novel about the suffering of the Navaho Indians under the oppressive behaviour of the white man during the American Civil War in mid-nineteenth century. Read by Richard Elfyn.

Addasiad llafar o nofel hanesyddol gignoeth am ddioddefaint Indiaid y Navaho dan law y dyn gwyn yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr Amerig yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Richard Elfyn sy'n darllen.
’Nôl yn y saith degau, pan oedd Cymru'n medru ennill mewn rygbi, fe gyfansoddodd Max Boyce gân am ffatri cynhyrchu maswyr. Yng Nghymru ar hyn o bryd [2004] mae yna ffatri cynhyrchu nofelau, ffatri un-dyn. Yr awdur diflino hwnnw yw Eirug Wyn sydd, mae'n rhaid, yn defnyddio galwyni o inc bob blwyddyn. Cymwynas fawr Eirug yw cynhyrchu cynifer o nofelau sy'n apelio at drwch y darllenwyr. Does neb yng Nghymru wedi gwneud cymaint i hyrwyddo'r nofel boblogaidd.

Yr hyn sy'n gwneud gwaith Eirug yn unigryw yw ei fod yn medru cynhyrchu nofel boblogaidd ar ôl nofel boblogaidd a hynny heb aberthu safonau llenyddol. Mae'r ffaith iddo ennill Gwobr Daniel Owen ynghyd ag ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith yn cadarnhau hynny.

Nodwedd arall o'i waith yw ei ddychymyg anhygoel wrth iddo droi at wahanol feysydd. Y tro hwn, yn I Ble'r Aeth Haul y Bore, trodd i fyd gorthrwm yr Indiaid brodorol yng Ngogledd America. Cymysgedd yw hon o ffaith a ffuglen, rhywbeth sy'n cael ei adnabod yn Saesneg fel 'faction'. Fe'i seiliwyd ar ymfudo ac alltudiaeth y Navaho o Geunant de Chelley i Fort Defiance ac yna i randir Bosque Redondo.

Mae'n gosod ei destun yn effeithiol iawn gyda rhagarweiniad sy'n addasiad o hunangofiant Geronimo. Llwyddodd i greu naws bywyd yr Indiaid gyda'r brawddegau yn troi’n lluniau o flaen ein llygaid. Hwyrach fod ei waith teledu gyda Ffilmiau'r Bont yn ffactor yn ei ddawn ddarluniol. O hynny ymlaen cawn hanes gwarthus alltudio'r llwythi, hanes sy'n cynnwys rhai cymeriadau go-iawn fel Kit Carson, Manuelito, y Cadfridog Carleton a Geronimo ei hun.

Gedy'r nofel flas chwerw wrth i ni sylweddoli nad oes dim wedi newid. Mae'r llywodraeth a alltudiodd yr Indiaid i drefedigaethau yn dal, ganrif a hanner yn ddiweddarach, i wneud yr un peth i bobloedd eraill mewn gwledydd ar draws y byd. A'r hyn sy'n gwneud y cyfan mor drist yw mai hanes cymharol ddiweddar yw hwn. Ym 1886, pan alltudiwyd yr holl Indiaid i wahanol drefedigaethau, fe gynhyrchodd Gottlieb Daimler ei gar modur cyntaf.

Darllenir y gyfrol gan Richard Elfyn.

Lyn Ebenezer

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.



This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
There are no Customer Reviews so far for this title.
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cyfres y Dolffin: Llun, Y ...
Elina Owen
£6.00
 
Buy Now
Cyfres y Dolffin: Al (Casét)
Lleucu Roberts
£6.00
 
Buy Now
Cyfres y Dolffin: ...
Eleri Llewelyn Morris
£6.00
 
Buy Now
Book of the Month
English
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Buy Now
Welsh
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Buy Now