| Bibliographical Information |
| Dylluan Wen, Y Angharad Jones
View more titles by 'Angharad Jones' |
ISBN: 9780954602598 (0954602595)Publication Date September 2005
Publisher: Tympan, CardiffFormat: CD
Language: Welsh
Available Our Price:
£16.99
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
An audio adaptation of the volume which was awarded the Prose Medal at the 1995 National Eisteddfod and which was described as a psychological novel in which the story is gradually and skillfully unfolded. The reader is Siân James.
Addasiad llafar o gyfrol Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995 a ddisgrifiwyd fel stori dda, afaelgar wedi ei hadeiladu'n gampus gan lenor sy'n sicr o'i chrefft. Siân James sy'n darllen.
|
|
Nofel yw hon am ferch sy'n cyrraedd pentref o’r enw Llan yn ei chlogyn du ar ddiwrnod gwlyb. Daeth yno er mwyn hyfforddi’r ysgol gynradd leol i lwyfannu drama Blodeuwedd. Mae rhyw ddieithrwch rhyfedd yn ei chylch, ond mae yna rywbeth cyfarwydd ynglŷn â hi hefyd. Yn wir, mae rhyw ddieithrwch yn nechrau’r nofel hon pan sylweddolwn mai un o’r cymeriadau ydy’r dylluan wen.
Mae’r gwrthgyferbyniad rhwng gwynder a düwch, rhwng diniweidrwydd a drygioni, yn brigo i’r wyneb yn aml yng nghorff y nofel. Mae’r plant yn wyliadwrus o Myfi, yn rhedeg oddi wrthi, ond mae’r hen Mrs Rowlands sydd yn gweithio yn y gegin yn synhwyro fod yna ryw gyfrinach ynghlwm wrth hon gyda’i llediaith a’i hacen Americanaidd. O dipyn i beth fe ddatgela’r dylluan wen ei chyfrinach i ni.
Mae ymsonau’r dylluan yn synhwyrus ac yn hudol. ‘Mae hi’n dechrau dadwisgo. A ddylem aros yma ar sil y ffenestr? Oni fyddai’n fwy gweddus i ni droi ein golygon i rywle arall? Gadael llonydd iddi hi Myfi a’i dillad du a’i dillad isaf gwyn? Oni ddylem edrych draw at y mynyddoedd sydd fel hetiau gwrachod dan gylch arian y lloer?’
Drwy symbolau gwae, deallwn fod yna ddialedd a drygioni yn y gwynt ac mae’r ddrama Blodeuwedd fel cynfas i’r dialedd. Un o’r prif gymeriadau yw Ifor Gruffydd y prifathro, a gofyn ei ferch fach Gwen, ‘Blodeuwedd, fydd hi’n dylluan am byth?’ ‘Na’ yw’r ateb Myfi, ‘Aros mae hi. Aros am ei chyfle. I ddod yn ôl i’r ddaear fel dynes. Er mwyn dial – dial ar y dewin a greodd hi.’
Camp Angharad Jones yw neidio o un person i’r llall o bennod i bennod. Try at y presennol yng ngŵydd y ferch fach Gwen a neidia yn ôl i’r gorffennol pan fydd Ifor Gruffydd yn cael ei ddarlunio. Taena Myfi ei hudlath ar Ifor fel Gwydion ar Blodeuwedd gynt a cheir disgrifiad cynnil iawn o’r ddau yn caru.
Dywedodd y beirniaid yn eu beirniadaeth pan enillodd hon y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995: ‘dyma nofel seicolegol . . . stori sy’n peri ichi fod eisiau gwybod beth sydd yn dod nesaf o hyd ac o hyd. A stori fydd yn eich cadw’n rhwym i’ch cadair nes i chi ei rhoi o’ch llaw.’ Siân James sy’n darllen y stori ar y CD yma.
Nia M. Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|