Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfrolau Cenedl: 4. Emrys Ap Iwan - Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys
Emrys ap Iwan
ISBN: 9780956651648 (095665164X)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2011
Cyhoeddwr: Dalen Newydd, Bangor
Golygwyd gan Dafydd Glyn Jones Fformat: Clawr Meddal, 206x148 mm, 86 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.00 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mewn breuddwyd yn nechrau'r 1890au cafodd 'Pabydd' y chwedl hon olwg ar Gymru 2012. Cymru yw hi wedi ennill ymreolaeth ac wedi colli ei chrefydd Brotestannaidd. Dyfais Emrys ap Iwan yw newid golygwedd neu berspectif, fel bod Cymry ei oes yn eu gweld eu hunain o'r newydd ac yn gofyn cwestiynau amdanynt eu hunain.

In a dream at the beginning of the 1890s, the 'Pabydd' in this tale had a vision of the Wales of 2012. It is a Wales that has achievedindependence and has lost her Protestant religion. Emrys ap Iwan changes perspective as a device which encouraged Welsh people of his time to see themselves in a new light, and to ask questions about themselves.
Cyhoeddir yr adargraffiad deniadol hwn o Breuddwyd Pabydd Emrys ap Iwan i nodi’r union flwyddyn, sef 2012, erbyn yr hon y rhagwelai y byddai Cymru wedi ennill ei hunanlywodraeth ond wedi colli ei chrefydd. Ynddi mae’r awdur yn arfer dyfais y proffwyd i rybuddio a cheryddu ei enwad ei hun am fradychu’r Gymraeg drwy sefydlu achosion Saesneg diangen. Trwyddi hefyd mae’n cymryd arno swydd y daroganwr i addo gwaredigaeth ddychmygus gyda dychweliad Cymru at yr ‘arall’ Pabyddol, cynnil elyn Protestaniaeth a Phrydain erioed, rhagolwg y gwyddai, felly, fyddai’n corddi ei wrthwynebwyr yn fwy nag anad dim arall.

Drwy gymeriadau’r ‘Tad Morgan’ a’r ‘darlithydd’ fe leisia Iwan apologia ffraeth a deallus dros rinweddau Catholigiaeth, megis ei rôl gyfannol, ond y mae’n cadw ei brif sylwebaeth ar gyfer ei adain grefyddol ef ei hun. Mewn truth o ddychan deifiol fe â ati i feio Protestaniaeth am bob aflwydd sydd, bron. Anghyson a rhagrithiol fu ei harweinwyr erioed, ac anwybodaeth y werin o resymeg a hanes oedd i gyfrif am ei pharhad. Llysenwir yn ddoniol rai o’r prif actorion, ac yn brawf o’i ddawn lenyddol ceir disgrifiadau llawn hiwmor du o'r rhyfeloedd crefyddol, wrth iddo restru erchyllterau’r gwahanol bleidiau, a pha mor unllygeidiog y buont wedyn yn eu dehongliad o hanes.

Canmolir gwreiddiau gwerinol ymneilltuaeth ond gwelir rhyddfrydiaeth ddiwinyddol ar gynnydd eglur o’i mewn, dirywiad sy'n arwain yn y diwedd at ddiffyg sylwedd a chonsýrn cymdeithasol yn unig. Eto, mae’r awdur yn feirniadol o grefydd emosiynol ac anffurfiol, â'i barn aneglur ar safle merched. Awgryma'n gellweirus fod eu statws newydd o fewn y cylchoedd hynny yn eu troi'n wrywaidd eu natur, gan beri yn wir i ambell un dyfu barf! Dadansoddir yn fwy difrifol pan awgryma fod sefydlu o’r newydd yn arwain yn ddi-feth at sefydliadaeth a hynny yn ei dro at falchder, hunanfoddhad, ac, yn achos y Methodistiaid Calfinaidd, at daeogrwydd o’r radd waethaf.

Cweryl Iwan â hyrwyddwyr yr 'Inglish Côs' yw’r ysgogiad gwaelodol. Mae’n gweld cryfder Protestaniaeth, sef ‘hawl pob dyn i farnu drosto’i hun’. Ond dyma'n awr yr union hawl a nacawyd iddo ef yn sgil y disgyblu a’r sensro fu arno am iddo feiddio mynegi ei wrthwynebiad. Roedd yr anoddefgarwch a brofasai yn gwadu'r egwyddor greiddiol ac yn groes i lif ymryddhaol meddylfryd y ganrif. Roedd Anghydffurfiaeth bellach yn gorthrymu â’r un gorthrwm ag yr oedd wedi ymryddhau oddi wrtho, ac felly ni haeddai well na’i dychwel at gyfundrefn y byddai cynulleidfa Iwan wedi synio amdani fel yr un fwyaf gormesol ohonynt i gyd. Aethai swyddogion yr Hen Gorff yn gymaint o fwlis â’r Pabau yn y dehongliad caricatur cyffredin ohonynt yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

A yw’r ddyfais yn llwyddo? Serch yr elfennau o densiwn a geir wrth geisio seinio rhybudd a gobaith yn gyfochrog, mae’r dechneg ar y cyfan yn gweithio’n dda. Yn amlwg, ni welwyd dychweliad at Babyddiaeth, ond a yw’r awdur, felly, ar fai am y methiant dybryd hwnnw? Byddai ei wireddu wedi bod yn ffansїol o’r cychwyn ond cymaint mwy felly yn dilyn y cynnydd aruthrol mewn seciwlariaeth na allai Iwan fod wedi’i rag-weld – ynteu a ydoedd? Dylid cofio eto, medd golygydd y gyfrol, mai ‘breuddwyd cenedlaetholwr’ yw’r darn yn y bôn ac felly nad yw’r methiant i wireddu’r llall yn tynnu cymaint oddi wrtho ag y tybiwn. O ran tynged Anghydffurfiaeth, mae’n anodd meddwl nad oedd Iwan wedi gweld yr ysgrifen ar y mur gan mor ysgytwol o agos ati ydyw wrth ragfynegi cyflymder y dirywiad. Llai argyhoeddiadol, fodd bynnag, yw’r dystiolaeth i gadarnhau’r rhan arall o’i ddadl, sef mai Seisnigeiddio fyddai un o’r prif resymau dros hynny.

Yn wleidyddol, er bod dehongliad yr awdur o genedligrwydd yn tueddu at hanfodaeth, ‘gwelwn’, meddai'r golygydd, ‘mai ef a ddug ynghyd am y tro cyntaf y cwlwm o themâu a ddiffiniodd genedlaetholdeb Cymreig modern’. Yn fwyaf trawiadol, wrth gwrs, fe sicrhawyd ‘Ymreolaeth’ – term a fathwyd gan Iwan ei hun. Amlinellir darlun sy’n ymddangosiadol fwy gobeithiol am y Gymraeg nag eiddo Saunders Lewis, a ofnai y ceid hunanlywodraeth ar ei thraul. Ond gan na wireddwyd gwedd optimistaidd y breuddwyd mae anogaethau Iwan, meddir, mor berthnasol ag erioed. Olrheinir ymlediad yr iaith Saesneg mewn Cymru a ddylai barhau, felly, i bledio’r Gymraeg fel bathodyn gwahaniaeth ffurfiannol hollbwysig. Yr iaith honno, medd Iwan, mewn geiriau a adleisiwyd yn ddiweddarach gan J. R. Jones, a’n gwna yn ‘bobl briodol’. A gogyfer â’i hamddiffyn wele’r ‘Cyfamodwyr’, carfan ymroddedig sy’n ei hadfywio drwy ‘ymgadw rhag ... un bil’ a ‘thynnu i lawr pob ystyllen ag arni enw Seisnig’.

Yn ehangach hefyd rhagwelir ganddo dwf cenedlaetholdeb a maint cyflafan ‘armageddon y cenhedloedd’ rhwng y ‘Saeson a’r Prwsiaid’, a hyd yn oed leoliad maes y gad yng ngwlad Belg. Sonnir am ymrafael cynyddol rhwng gwahanol ddosbarthiadau, ond yn y naratif o leiaf mae ei Gatholigrwydd yn ei gadw’n fwy o geidwadwr nag o sosialydd. Mae'n proffwydo twf y dimensiynau Celtaidd ac Ewropeaidd, gyda’r arfer o deithio tramor, fel y gwnaeth ef ei hun, yn fodd o ddatganoli ymhellach ddylanwad Lloegr ar y bydolwg Cymreig.

Os, felly, y’ch temtir i beidio estyn at y gyfrol hon, gan gredu mai llyfr llychlyd Fictoraidd gan weinidog ydyw – meddyliwch eto. Oherwydd dyma gyfrol a rydd wên ar eich wyneb ac a wna i chi feddwl eto ynglŷn â sut y daethom i’r Gymru sydd ohoni heddiw.

John Glyn

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Diweddarwyd ar 12 Hydref 2011
Mewn breuddwyd yn nechrau’r 1890au cafodd ‘Pabydd’ y chwedl hon olwg ar Gymru 2012. Cymru yw hi wedi ennill ymreolaeth ac wedi colli ei chrefydd Brotestannaidd.

Dyfais Emrys ap Iwan, yma fel mewn gweithiau eraill, yw newid golygwedd neu berspectif, fel bod Cymry ei oes yn eu gweld eu hunain mewn goleuni newydd ac yn dod i ofyn cwestiynau amdanynt eu hunain.

Gallwn ninnau ofyn cwestiynau wrth ddarllen y stori heddiw. O fewn y fframwaith cyffredinol, faint o’r manylion sydd wedi eu gwireddu? A yw achos ac effaith rywbeth yn debyg i’r hyn a ragwelodd y ‘breuddwyd’, ynteu a ddaethom i’r fan hon drwy ryw broses hollol wahanol?

Pe gallai Emrys ap Iwan ymweld â Chymru 2012, a allai deimlo fod rhai o’i obeithion wedi eu gwireddu? Ynteu a fyddai’n siomedig fod yr hen broblemau yn dal i lesteirio’r Cymry? Beth fyddai ei ateb ystyriol, tybed, pe gofynnem iddo pa Gymru a welai ef debycaf o oroesi a gwneud rhywbeth ohoni, honno yr oedd ef yn ei dychanu ar anterth Oes Victoria, ynteu hon heddiw? P’run sydd fwyaf o genedl?
Beth fyddai ein hateb ni?
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Celtic Dawn - Celtic ...
Peter Berresford Ellis
£5.00
 
Prynwch
Dawn Dweud: John Morris-Jones
Allan James
£19.99
 
Prynwch
Cerddi'r Cywilydd
Gerallt Lloyd Owen
£4.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Nadolig Pwy a Ŵyr 2
Amrywiol/Various
£8.00
 
Prynwch
Saesneg
Robin Book, The
Jane Russ
£9.99
 
Prynwch
Plant
Gwyn y Carw Cloff
Tudur Dylan Jones
£6.99
 
Prynwch